Raymond Garlick

bardd (1926-2011)

Bardd Seisnig oedd Raymond Garlick (21 Medi 192619 Mawrth 2011). Roedd yn Athro yng Ngholeg Prifysgol y Drindod.

Raymond Garlick
Ganwyd21 Medi 1926 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw19 Mawrth 2011 Edit this on Wikidata
Llywodraeth leol yng Nghymru Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
PlantIestyn Garlick Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Fe'i ganwyd yn Harlesden, Llundain, yn fab i glerc yn y Banc Cenedlaethol a fe'i magwyd ar stad newydd yn North Harrow. Yn bedwar oed cafodd afiechyd anesboniadwy ar ôl cael crafiad gan gath fach. Ni chafodd yr afiechyd ei ganfod yn bendant ond efallai mai gwenwyn gwaed oedd yr anhwylder. Treuliodd flwyddyn yn yr ysbyty ac oherwydd llawdriniaeth aeth o'i le, fe adawodd yr ysbyty gydag un troed wedi ei niweidio yn ddifrifol.

Anfonwyd y bachgen i'w daid a nain yn Deganwy yng Ngogledd Cymru, a darganfu dirlun garw a phobl egilitaraidd. Roedd yn teimlo perthynas mor agos â'r ardal fel y gofynnodd i gael ei drosglwyddo o Ysgol Fechgyn Harrow i chweched dosbarth Ysgol John Bright yn Llandudno.[1]

Dysgodd Gymraeg pan oedd yn astudio Saesneg ym Mhrifysgol Bangor.[2]

Bywyd personol golygu

Priododd un o'i gyd-fyfyriwr o Fangor, Elin Hughes yn 1948. Roedd Elin wedi dod i gredu ym Mhabyddiaeth a'r noson cyn y briodas fe dderbyniwyd Garlick i'r Eglwys Gatholig. Roedd Elin yn arch-genedlaetholwraig tanllyd gyda barn wleidyddol gryf, yn wahanol i natur fwy bonheddig a democrataidd Garlick. Yn y 1970au hwyr fe adawodd ei wraig i fyw yn yr Iseldiroedd ac fe ysgarodd y cwpl yn ddiweddarach (mae un ffynhonnell yn dweud 1977 ac yn dweud 1982).

Fe fabwysiadodd y cwpl dau blentyn, Iestyn yn 1952 ac Angharad yn 1958. Bu farw yng Nghaerdydd yn 84 mlwydd oed.[2]

Llyfryddiaeth golygu

  • Poems from the Mountain-House (1950)
  • Landscapes and figures: Selected poems 1949-63 (1964)
  • Anglo-Welsh Poetry, (1480-1980) (gol.)
  • Travel Notes (1992)
  • The Delphic Voyage and Other Poems (2003)

Cyfeiriadau golygu

  1. Raymond Garlick: English writer who made Wales and its history his principal subject (en) , Independent.co.uk, 16 Mehefin 2011. Cyrchwyd ar 11 Mawrth 2016.
  2. 2.0 2.1  Llyfrgell Genedlaethol Cymru - Ysgriau Raymond Garlick. Llyfrgell Genedlaethol.