Rebecca Hall

cyfarwyddwr ffilm ac actores a aned yn Hammersmith yn 1982

Mae Rebecca Maria Hall (ganed 3 Mai 1982)[1] yn actores Seisnig-Americaniadd. Yn 2003, enillodd Wobr Ian Charleson ar gyfer ei pherfformiad debut ar y llwyfan mewn cynhyrchiad o Mrs. Warren's Profession.[2] Mae wedi ymddangos yn y ffilmiau The Prestige, Vicky Cristina Barcelona, The Town, Frost/Nixon, Iron Man 3, Transcendence, a The Gift.

Rebecca Hall
GanwydRebecca Maria Hall Edit this on Wikidata
3 Mai 1982 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor, actor llwyfan, actor teledu, actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, gwneuthurwr ffilm Edit this on Wikidata
Taldra178 centimetr Edit this on Wikidata
TadPeter Hall Edit this on Wikidata
MamMaria Ewing Edit this on Wikidata
PriodMorgan Spector Edit this on Wikidata
PlantJames Spector Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr y 'Theatre World', Gwobrau Ian Charleson Edit this on Wikidata

Ym mis Mehefin 2010, enillodd Hall wobr Actores Gefnogol BAFTA am ei rôl fel Paula Garland yng nghynhyrchiad 2009 Channel 4 Red Riding: In the Year of Our Lord 1974.[3] Yn 2013, fe'i henwebwyd am wobr Brif Actoresr BAFTA ar gyfer ei rôl fel Sylvia Tietjens yn Parade's End ar BBC Two.

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Hall yn Llundain, Lloegr, yn ferch i'r cyfarwyddwr llwyfan Seisnig Peter Hall, a sefydlodd Cwmni Brenhinol Shakespeare, a'r cantores opera Americanaidd Maria Ewing. Mae gan ei mam linach Iseldiraidd, AlbanaiddSioux, ac Affricanaidd Americanaidd.[4][5][6][7] Gwahanodd ei rhieni pan oedd yn ifanc, yn ysgaru yn 1990.[4] Mae ganddi ddau frawd a thair chwaer,[4] gan gynnwys Edward Hall, cyfarwyddwr theatr, Lucy Hall, dyluniwraig setiau, Christopher Hall, cynhyrchydd, Emma Hall, actores, a'r actores Jennifer Caron Hall, o briodas gyntaf ei thad i'r actores Ffrengig Leslie Caron.[8]

Mynychodd Hall Ysgol Roedean School, lle ddaeth yn brif ferch.[4] Astudiodd Llenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg y Santes Catrin, Caergrawnt, cyn gadael yn 2002 ar ddechrau ei blwyddyn olaf.[4][9][10] Yn ystod ei chyfnod yng Nghaergrawnt, roedd yn aelod brwd o'r sîn theatr i fyfyrwyr gan sefydlu ei chwmni ei hun.[11] Roedd yn aelod o'r Gymdeithas Marlowe yn serennu ar bwys Dan Stevens, a oedd yn fyfyriwr Llenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg Emmanuel, Caergrawnt, mewn sawl cynhyrchiad a dderbyniodd clod eang.[12][13]

 
Hall yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto yn 2011
 
Hall yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Berlin yn 2010

Bywyd personol golygu

Yn ystod 2003 a 2004, roedd Hall yn canlyn ei chyd-seren As You Like It Freddie Stevenson.[14] Roedd mewn perthynas gyda'r cyfarwyddwr Sam Mendes o 2010 i 2015. Ym mis Medi 2015, priododd Hall ei chyd-seren Machinal Morgan Spector.[15][16]

Mae gan Hall ddinasyddiaeth ddeuol Brydeinig ac Americanaidd.[17]

Ffilmyddiaeth golygu

Ffilmiau golygu

Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
2006 Starter for 10 Rebecca Epstein
2006 The Prestige Sarah Borden Enwebwyd – Gwobr Empire ar gyfer Actores Newydd Orau

Enwebwyd – Gwobr Gylch Beirniaid Ffilmiau Llundain ar gyfer yr Actor/Actores Brydeinig Newydd y Flwyddyn

2008 Vicky Cristina Barcelona Vicky Gwobr Gotham ar gyfer y Cast Ensemble Gorau

Enwebwyd – Gwobr Glôb Aur ar gyfer yr Actores Orau - Ffilm, Sioe Gerdd neu Gomedi
Enwebwyd – Gwobr Gotham ar gyfer Perfformiad Cyntaf
Enwebwyd – Gwobr Gylch Beirniaid Ffilmiau Llundain ar gyfer Actores Brydeinig y Flwyddyn

2008 Frost/Nixon Caroline Cushing Enwebwyd – Cymdeithas yr Actorion Sgrîn ar gyfer Perfformiad Rhagorol gan Gast mewn Ffilm
2008 Official Selection Emily Dickinson Ffilm fer
2009 Dorian Gray Emily Wotton
2010 Please Give Rebecca Gwobr Robert Altman

Gwobrau Cymdeithas Feirniaid Ffilmiau San Diego ar gyfer Darn o Waith
Enwebwyd – Gwobr Ffilm Brydeinig yr Evening Standard ar gyfer yr Actores Orau
Enwebwyd – Gwobr Gotham ar gyfer Cast Ensemble Gorau

2010 The Town Claire Keesey Gwobr y Bwrdd Adolygu Cenedlaethol ar gyfer yr Actio Gorau gan Ensemble

Enwebwyd – Gwobr Gymdeithas Feirniaid Ffilmiau Ddarlledu ar gyfer yr Actio Gorau gan Ensemble
Enwebwyd – Gwobr Gymdeithas Feirniaid Ffilmiau Ardal Washington D.C. ar gyfer yr Actio Ensemble Gorau

2010 A Bag of Hammers Mel
2010 Everything Must Go Samantha
2011 The Awakening Florence Cathcart Enwebwyd – Gwobr Ffilm Annibynnol Brydeinig ar gyfer yr Actores Orau
2012 Lay the Favorite Beth Raymer
2013 Iron Man 3 Maya Hansen
2013 Closed Circuit Claudia Simmons-Howe
2013 A Promise Charlotte Hoffmeister
2014 Transcendence Evelyn Caster
2015 Tumbledown Hannah
2015 The Gift Robyn
2016 Christine Christine Chubbuck
2016 The BFG Mary Ôl-gynhyrchu
2017 The Dinner Barbara Lohman Ffilmio

Teledu golygu

Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
1992 The Camomile Lawn Young Sophie
1993 The World of Peter Rabbit and Friends Lucie
1993 Don't Leave Me This Way Lizzie Neil
2006 Wide Sargasso Sea Antoinette Cosway
2007 Rubberheart Maggie
2007 Joe's Palace Tina
2008 Einstein and Eddington Winifred Eddington
2009 Red Riding: In the Year of Our Lord 1974 Paula Garland Gwobr BAFTA ar gyfer yr Actores Gefnogol Orau
2012 Parade's End Sylvia Tietjens Enwebwyd – Gwobr Satellite ar gyfer yr Actores Orau – Mini-gyfres neu Ffilm deledu

Enwebwyd – Gwobr Deledu Dewis y Beirniaid ar gyfer yr Actores Orau mewn Ffilm/Mini-gyfres

2015 Codes of Conduct Rebecca Rotmensen Peilot
2016 Horace and Pete Rachel

Fideos cerddoriaeth golygu

Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
2012 "A Case of You" Ei hun Fideo James Blake

Cyfeiriadau golygu

  1. Births, Marriages & Deaths Index of England & Wales, 1916–2005.
  2. Lathan, P. (20 Ebrill 2003). "Another Hall Hits the Heights". The British Theatre Guide. Cyrchwyd 9 Tachwedd 2006.
  3. "Awards Database – The BAFTA site". Bafta.org. Cyrchwyd 8 Mai 2011.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 Hattenstone, Simon (12 Mehefin 2010). "Who, me? Why everyone is talking about Rebecca Hall". The Guardian. London. Cyrchwyd 27 Medi 2010.
  5. Isenberg, Barbara (8 Tachwedd 1992). "MUSIC No-Risk Opera? Not Even Close Maria Ewing, one of the most celebrated sopranos in opera, leaps again into the role of Tosca, keeping alive her streak of acclaimed performances while remaining true to herself". Los Angeles Times. Cyrchwyd 8 Mai 2011.
  6. McLellan, Joseph (15 Tachwedd 1990). "Article: Extra-Sensuous Perception;Soprano Maria Ewing, a Steamy `Salome'". The Washington Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-22. Cyrchwyd 6 Chwefror 2010.
  7. Marsh, Robert C. (18 Rhagfyr 1988). "Growth of Maria Ewing continues with 'Salome' // Role of princess proves crowning achievement". Chicago Sun-Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-22. Cyrchwyd 6 Chwefror 2010.
  8. "Rebecca Hall Relationships:". TV Guide. Cyrchwyd 10 Mai 2014.
  9. "Former Cambridge student takes her first leading role" (PDF). The Cambridge Student. 3 Tachwedd 2011. t. 06.[dolen marw]
  10. Farber, Jim (20 Chwefror 2005). "For Rebecca Hall, it's all in the family business". The San Diego Union-Tribune. Cyrchwyd 8 Mai 2011.
  11. "The Prestige production notes" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (pdf) ar 30 Medi 2007. Cyrchwyd 9 Tachwedd 2006.
  12. "Macbeth". Marlowe Society. 2002. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-23. Cyrchwyd 2016-03-28.
  13. "Rebecca Hall takes the lead". Daily Telegraph. 29 Hydref 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Hydref 2014.
  14. Cripps, Charlotte (15 Gorffennaf 2004). "Rebecca Hall: My art belongs to Daddy". The Independent. London. Cyrchwyd 4 Mehefin 2011.
  15. "Rebecca Hall on her film career so far: 'I've played too many repressed neurotics'". The Independent. 19 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 11 Ebrill 2015.
  16. Griffiths, Charlotte (11 Gorffennaf 2015). "GIRL ABOUT TOWN: Sam Mendes and Rebecca Hall 'split as she falls for co-star in bed scene'". Daily Mail.
  17. Rebecca Hall in, The New York Times