Red Dead Redemption

Gêm antur y Gorllewin Gwyllt a ddatblygwyd gan Rockstar San Diego a chyhoeddwyd gan Rockstar Games yw Red Dead Redemption. Dyma’r ail gêm yn y gyfres Red Dead, yn dilyn Red Dead Revolver yn 2004. Fe’i rhyddhawyd ar PlayStation 3 ac Xbox 360 ym mis Mai 2010. Mae stori Red Dead Redemption wedi’i osod ym 1911 yn ystod dirywiad oes y Gorllewin Gwyllt, gan ddilyn y cyn-droseddwr John Marston.

Logo Red Dead Redemption

Chwaraeir y gêm o bersbectif trydydd person mewn byd agored, gan ganiatáu i’r chwaraewr rhyngweithio â’r byd wrth ei bwysau. Gall y chwaraewr deithio’r byd rhithwir, fersiwn ffuglennol o Orllewin yr Unol Daleithiau a Mecsico, yn bennaf drwy farchogaeth ac ar gerdded. Mae'r gêm yn defnyddio system foesoldeb, lle mae gweithredoedd y chwaraewr yn y gêm yn effeithio ar lefelau bri ac enwogrwydd eu cymeriad a sut mae cymeriadau eraill yn ymateb i'r chwaraewr.

Datblygwyd Red Dead Redemption dros bum mlynedd ac mae’n un o’r gemau fideo drutaf i’w creu erioed.[1]

Ar ôl rhyddhau’r gêm, rhyddhawyd nifer o ychwanegiadau cynnwys i’w lawrlwytho; ychwanegodd Red Dead Redemption: Undead Nightmare brofiad newydd lle mae Marston yn chwilio am iachâd i bla sombi sydd ar draws yr Hen Orllewin. Rhyddhawyd rhifyn Gêm y Flwyddyn ym mis Hydref 2011 gan gynnwys yr holl gynnwys ychwanegol. Rhyddhawyd rhaghanes, Red Dead Redemption II, ym mis Hydref 2018.

Chwarae golygu

Gêm antur y Gorllewin Gwyllt yw Red Dead Redemption sy’n cael ei chwarae o safbwynt trydydd person. Mae’r chwaraewr yn rheoli John Marston ac yn cwblhau tasgau llinynnol i fynd trwy’r stori. Tu allan i’r tasgau, gall chwaraewyr grwydro’r byd agored yn rhydd. Gall y chwaraewr ryngweithio â’r amgylchedd ac ymladd yn erbyn gelynion gan ddefnyddio drylliau gwahanol. Y prif fath o gludiant yw’r wahanol fridiau o geffylau, pob un â gwahanol briodoleddau. Rhaid i’r ceffylau hyn gael eu dofi er mwyn eu defnyddio. Gall y chwaraewr ddefnyddio trenau ar gyfer teithio cyflym. Tir annatblygedig sy’n llenwi rhan fwyaf byd y gêm, gan gynnwys tirweddau eang a garw gyda theithwyr, banditiaid, a bywyd gwyllt. Mae aneddiadau trefol yn amrywio o ffermdai ynysig i drefi poblog. Heblaw am Orllewin America, gall y chwaraewr hefyd dramwyo talaith ffuglennol Mecsicanaidd ar ffin yr Unol Daleithiau.[2]

Yn ogystal â dilyn y brif stori, gall y chwaraewr gymryd rhan mewn digwyddiadau ar hap y dônt ar eu traws wrth iddynt anturio trwy fyd y gêm. Mae’r rhain yn cynnwys crogau cyhoeddus, rhagodau, pledion am gymorth, cyfarfyddiadau â dieithriaid, ac ymosodiadau gan anifeiliaid peryglus. Gall y chwaraewr hefyd gymryd rhan mewn gweithgareddau dewisol, a’r rhan fwyaf ohonynt yn rhoi arian i’r chwaraewr. Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys gornestau, hela bowntis, casglu perlysiau, gamblo, a hela anifeiliaid.[3]

Mae Red Dead Redemption yn defnyddio system foesoldeb lle mae gan chwaraewyr y gallu i ennill bri cadarnhaol neu negyddol.[2] Gellir ennill bri trwy wneud dewisiadau moesol cadarnhaol, fel cymryd herwyr i’r siryff yn fyw neu helpu menywod rhag cael eu herwgipio. Mae safon bri cyffredinol y chwaraewr yn gostwng trwy gyflawni troseddau neu wneud dewisiadau negyddol eraill. Mae hyn gweithio ynghyd â system arall sef enwogrwydd. Mae enwogrwydd yn effeithio ar sut mae pobl yn ymateb i Marston. Maent hefyd yn derbyn disgowntiau mewn rhai siopau, mwy o gyflog am wneud gwaith, a bonysau eraill.[2][4] Gall gradd bri isel iawn arwain at sefydliadau trefi yn cau eu drysau i Marston.

Ymladd golygu

Ysgarmesoedd saethu yw prif agwedd ymladd yn Red Dead Redemption. Gellir targedu rhannau unigol o’r corff er mwyn brifo targedau heb eu lladd. Gall y chwaraewr ddefnyddio arfau sy’n gywir i’r cyfnod, gan gynnwys llawddrylliau megis rifolferi a phistolau, reifflau, gynnau haels, cyllyll, ffrwydron, lasŵau, gynnau Gatling, a chanonau.[5]

Mae gan Red Dead Redemption system Wanted yn debyg i’r gyfres Grand Theft Auto. Pan fydd y chwaraewr yn troseddu, er enghraifft lladd pobl yn agos at lygad-dystion, bydd rhai yn rhedeg i’r orsaf heddlu agosaf. Gall y chwaraewr naill ai lwgrwobrwy neu ladd y person hwnnw cyn iddynt gyrraedd yr orsaf.

Crynodeb golygu

Gosodiad golygu

Mae lleoliad Red Dead Redemption yn lledaenu ar draws New Austin a West Elizabeth, dwy dalaith ffuglennol yr Unol Daleithiau, yn ogystal â Nuevo Paraiso, talaith ffuglennol ym Mecsico. Mae’r gêm yn digwydd yn bennaf yn y flwyddyn 1911, yn negawd olaf y Gorllewin Gwyllt. Mae tirwedd y Gorllewin Gwyllt yn dechrau diflannu, ac mae ceir modur, drylliau peiriannol, a phrosiectau drilio am olew yn dechrau ymddangos.

Plot golygu

Mae'r gêm yn dechrau yn 1911, lle mae’r cyn-droseddwr John Marston (Rob Wiethoff) yn cael ei gymryd o’i deulu gan weithredwyr y Biwro Ymchwilio Ffederal, Edgar Ross (Jim Bentley) a’i bartner, Archer Fordham (David Wilson Barnes). Dim ond pan fydd Marston yn dod ag aelodau eraill ei hen gang i gyfiawnder y bydd yn cael amnest. Mae John yn cael ei hebrwng i dref Armadillo, ac yn mynd ar drywydd ei gyn-gyd-droseddwr Bill Williamson (Steve J. Palmer). Mae’n wynebu Williamson a’i ddynion yn eu cadarnle, Fort Mercer, ac mae Marston yn cael ei saethu a’i adael i farw. Mae’r ranshwr Bonnie MacFarlane (Kimberly Irion) yn ei ddarganfod wedi’i anafu ac yn mynd ag ef i’w ransh er mwyn gwella. Sawl diwrnod wedyn, mae John yn dechrau gweithio ar gyfer wahanol bobl yn gyfnewid am eu cymorth i drefnu ymosodiad ar Fort Mercer. Mae John a’i grŵp yn torri’r amddiffynfa ac yn curo gang Williamson ac yn darganfod ei fod wedi ffoi i Fecsico i gael cymorth gan Javier Escuella (Antonio Jaramillo), cyn-aelod arall o gang John.

Ym Mecsico, mae John yn ochri gyda chyrnol Byddin Mecsico, Agustín Allende (Gary Carlos Cervantes), i helpu rhoi diwedd ar wrthryfel yn gyfnewid am Allende dod ag Escuella a Williamson iddo. Mae Allende yn bradychu John, sydd felly yn ochri gyda’r gwrthryfelwyr. Mae John, ynghyd ag arweinydd y gwrthryfelwyr Abraham Reyes (Josh Segarra) yn newid trodd y frwydr o blaid y gwrthryfelwyr, gan lansio ymosodiad ar amddiffynfa El Presidio. Maent yn dod o hyd i Escuella, sy’n bargeinio am ei fywyd trwy ddatgelu bod Williamson wedi bod o dan amddiffyniad Allende. Mae John yn cael dewis i naill ai ladd Escuella neu ei roi i’r Biwro. Yna mae John a Reyes yn mynd i ymladd ag Allende. Tra mae’r gwrthryfelwyr yn ymosod ar balas Allende, mae ef a Williamson yn ffoi, ond maent yn cael eu dal a’u lladd. Mae Reyes nawr yn gyfrifol am y llywodraeth leol ac yn bwriadu symud ymlaen i’r brifddinas, tra mae John yn gadael i gwrdd â’r Biwro yn Blackwater.

Mae Ross a Fordham yn gwrthod gadael i John ddychwelyd i'w deulu nes iddo helpu'r Biwro i hela'r unig aelod sy'n weddill o'i gang blaenorol sydd dal ar herw: arweinydd y gang a dirprwy tad i John, Dutch van der Linde (Benjamin Byron Davis). Ar ôl goroesi nifer o ragodau a rhwystro lladrad banc, mae John yn ymuno â Ross, Fordham, a grŵp o filwyr yr UDA mewn ymosodiad ar guddfan Dutch. Yn ystod yr ymosodiad, mae John yn mynd ar drywydd Dutch hyd at glogwyn lle y mae'n rhybuddio John na fydd y Biwro yn gadael iddo gael heddwch, cyn iddo gyflawni hunanladdiad trwy neidio oddi ar y clogwyn.

Mae'r Biwro yn rhyddhau John ac y mae'n dychwelyd adref i'w wraig Abigail (Sophie Marzocchi) a'i fab Jack (Josh Blaylock). Mae John yn neilltuo ei amser i'r ransh, ar ôl tyngu llw i gadw ei hun a'i deulu oddi wrth y ffordd o fyw anghyfreithlon am byth. Yn wir i air Dutch, mae Ross yn croesi John ac yn arwain llu o filwyr, dynion y gyfraith, a gweithredwyr y llywodraeth ar ei ôl. Mae John yn curo nifer fawr o ymosodwyr ac yn anfon ei deulu at ddiogelwch, ond yn aros ar y ransh i gadw'r fyddin yn ôl. Mae'n marw ar ôl cael ei saethu sawl gwaith gan Ross a'i ddynion, ac mae'n cael ei gladdu gan ei deulu ar fryn sy'n edrych dros y ransh.

Tair blynedd yn ddiweddarach ym 1914, yn dilyn marwolaeth ei fam, mae Jack yn dod o hyd i Ross, sydd nawr wedi ymddeol, ac yn ei ladd. Trwy wneud hyn mae Jack yn dial am farwolaeth ei dad, ac yn parhau â'r trais yr oedd ei dad wedi ceisio ei gadw oddi wrtho.

Datblygiad golygu

Dechreuodd Rockstar San Diego ddatblygu Red Dead Redemption yn 2005. Cynhaliwyd y datblygiad gan dîm o fwy nag 800 o bobl, gan gynnwys tîm craidd Rockstar San Diego a staff o stiwdios Rockstar Games ledled y byd. Mae amcangyfrifon yn gosod cyllid cyfunol datblygu a marchnata'r gêm rhwng UD $80 miliwn a UD $100 miliwn, a fyddai'n ei gwneud yn un o'r gemau fideo drutaf a wnaed erioed.[1]

Crëwyd y byd agored i gynrychioli nodweddion eiconig y Gorllewin Gwyllt. Cymerodd aelodau allweddol o'r tîm cynnyrch deithiau ymchwilio i Washington a Llyfrgell y Gyngres yn eu hymchwil helaeth ar y Gorllewin Gwyllt.[6] Wnaethant hefyd dynnu nifer fawr o ffotograffau, a dadansoddi amryw o ffilmiau clasurol y Gorllewin.[7] Roedd y tîm o'r farn mai creu'r byd agored oedd un o agweddau mwyaf heriol cynhyrchu'r gêm, o ran llenwi'r byd gyda digon o gynnwys i gynnal diddordeb y chwaraewyr.[6] Dewisodd y tîm 1911 fel adeg y gêm gan eu bod yn teimlo bod archwilio'r trawsnewidiad o'r "hen Orllewin" i fyd modern yn ddiddorol. Ceisiodd y tîm cyflawni realaeth gyda phob nodwedd y gêm.[7] Yn arbennig, roedd yn her iddynt greu symudiad realistig i'r ceffylau, gan ar arwain at gael ceffyl stỳnt i efelychu symudiad i'r dylunwyr.[8]

Ar ôl proses clyweliad, dewiswyd Rob Wiethoff i bortreadu John Marston.[9] Recordiwyd perfformiadau'r cast yn bennaf gan ddefnyddio technoleg cipio symudiadau, gyda deialog ychwanegol ac effeithiau sain wedi'u recordio mewn stiwdio. Mae Red Dead Redemption hefyd yn cynnwys sgôr wreiddiol a gyfansoddwyd gan Bill Elm a Woody Jackson, a gydweithiodd â'i gilydd dros bymtheg mis.[10] Bu Rockstar hefyd yn ymgynghori â cherddorion a oedd yn chwarae offerynnau traddodiadol y Gorllewin, fel y chwaraewr harmonica Tommy Morgan.[11]

Er i arddangosiad technoleg gael ei ddangos yn 2005,[12] cafodd Red Dead Redemption ei gyhoeddi'n ffurfiol yn gyntaf gan Rockstar Games ar 3 Chwefror 2009.[13] Rhyddhawyd y rhaglun cyntaf ar 6 Mai 2009, gan gyflwyno prif gymeriad y gêm.[14] Methodd y gêm ei dyddiad rhyddhau rhagamcanol gwreiddiol yn Ebrill 2010, a wthiwyd yn ôl i 18 Mai 2010 i ganiatáu ar gyfer caboli pellach. Er mwyn annog gwerthiannau cyn-archebu, cydweithiodd Rockstar â nifer o siopau i ddarparu bonysau cyn-archebu. Roedd y rhain yn cynnwys gwisgoedd, arfau, a cheffylau unigryw yn y gêm,[15] yn ogystal â thrac sain swyddogol y gêm.[16]

Cynnwys ychwanegol golygu

Ychwanegwyd cynnwys ar ôl y rhyddhad at Red Dead Redemption ar ffurf pecynnau cynnwys i'w lawrlwytho. Ychwanegodd y pecynnau Outlaws to the End, Legends and Killers, Liars and Cheats, Hunting and Trading, a Myths and Mavericks cynnwys fel gwisgoedd ychwanegol, tasgau cydweithredol, a chymeriadau newydd i'w chwarae i'r gêm arlein. Ychwanegodd Undead Nightmare, a gyhoeddwyd ar 26 Hydref 2010, ymgyrch newydd gyda threfi a mynwentydd yn llawn sombis; yn y stori, mae chwaraewyr yn parhau i gymryd rheolaeth o John Marston wrth iddo chwilio am iachâd i'r pla.[17]

Derbyniad golygu

Rhyddhawyd Red Dead Redemption i ganmoliaeth. Cyfrifodd Metacritic gyfartaledd sgôr o 95/100 gan ddynodi 'canmoliaeth gyffredinol', yn seiliedig ar 73 adolygiad ar gyfer y fersiwn PlayStation 3 a 96 adolygiad ar gyfer y fersiwn Xbox 360.[18][19] Mae'r gêm hefyd wedi bod yn llwyddiannus iawn yn fasnachol; erbyn Awst 2011, roedd y gêm wedi gwerthu dros 11 miliwn copi, a 2 filiwn ohonynt yn gopïau o Undead Nightmare.[20] Erbyn Chwefror 2017, roedd Red Dead Redemption wedi gwerthu dros 15 miliwn copi.[21]

Fe wnaeth llawer o adolygwyr ganmol tirwedd, amgylchedd, a graffeg Red Dead Redemption. Canmolodd Erik Brudvig o IGN y manylion amgylcheddol, gan nodi y gall y chwaraewr hyd yn oed godi ofn ar adar allan o lwyno wrth fynd heibio iddynt. Nododd hefyd bod digwyddiadau deinamig, tywydd, a synau amylchynol y gêm yn rhoi profiad godidog i chwaraewyr.[22] Dywedodd Game Informer bod y golygfeydd yn "syfrdanol".[23] Canmolwyd y gerddoriaeth, sain, ac actio llais yn y gêm yn fawr. Enillodd gwobrau Cerddoriaeth Wreiddiol ac Actio Llais Gorau gan GameSpot.[24][25]

Gwobrau golygu

Ers ei ryddhau, mae Red Dead Redemption wedi derbyn nifer fawr o wobrau. Enillodd nifer o wobrau Gêm Y Flwyddyn gan gyfryngau megis GameSpy,[26] GameSpot,[27] Good Game,[28] Computer and Video Games,[29] a Machinima,[30] ymhlith eraill. Derbyniodd cerddoriaeth y gêm wobrau am ei sgôr wreiddiol gan GameSpot,[24] Machinima,[30] a Spike TV.[31] Derbyniodd José González wobr gan Spike hefyd am ei gân wreiddiol "Far Away".[31]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Schiesel, Seth (16 Mai, 2010). "Way Down Deep in the Wild, Wild West". The New York Times. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2018. Check date values in: |date= (help)
  2. 2.0 2.1 2.2 "Red Dead Redemption Game Manual" (PDF). Rockstar San Diego. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-02-25. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2010.
  3. McWhertor, Michael (28 Mai 2009). "Red Dead Redemption: Eyes-On Impressions". Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2019.
  4. Cocker, Guy (28 Ionawr 2010). "Red Dead Redemption Hands-On". Gamespot. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Mehefin 2010. Cyrchwyd 29 Mawrth 2010.
  5. "Features: Weapons". Rockstar Games. Cyrchwyd 29 Mawrth 2010.
  6. 6.0 6.1 Onyett, Charles (8 Mai 2009). "Red Dead Redemption: A Man and His Horse". IGN. Cyrchwyd 24 Medi 2014.
  7. 7.0 7.1 "Red Dead Redemption Exclusive Q&A". GameSpot. 11 Chwefror 2010. Cyrchwyd 28 Awst 2014.
  8. "Breaking in the Digital Horses of Red Dead Redemption". GameSpot. 10 Mai 2010. Cyrchwyd 5 Hydref 2014.
  9. "What Happened to John Marston". Polygon. 19 Mehefin 2013. Cyrchwyd 14 Medi 2014.
  10. Stuart, Keith (26 Mai 2010). "Redemption songs: the making of the Red Dead Redemption soundtrack". The Guardian. Cyrchwyd 17 Awst 2014.
  11. "Behind the Scenes of the Red Dead Redemption Soundtrack". Rockstar Games. 28 Gorffennaf 2010. Cyrchwyd 5 Hydref 2010.
  12. "Red Dead Redemption 2005 Teaser". YouTube. 26 Mai 2007. Cyrchwyd 12 Mai 2010.
  13. Robinson, Martin (4 Chwefror 2009). "Red Dead Redemption Announced". IGN. Cyrchwyd 3 Ebrill 2013.
  14. Goldstein, Hilary (8 Mai 2009). "Five Reasons to Love Red Dead Redemption". IGN. Cyrchwyd 5 Mehefin 2018.
  15. "Red Dead Redemption Exclusive Pre-Order Bonuses: The Referendum, The Golden Guns, The War Horse and More". Rockstar Games. 9 Chwefror 2010. Cyrchwyd 16 Awst 2014.
  16. "Red Dead Redemption: Deadly Assassin Outfit, Golden Guns Weapon Pack and War Horse Now Available on Xbox LIVE and PlayStation Network". Rockstar Games. 8 Ebrill 2011. Cyrchwyd 4 Ebrill 2014.
  17. Reparaz, Mikel (14 Hydref 2010). "Red Dead Redemption – Undead Nightmare hands-on". Games Radar. Cyrchwyd 15 Hydref 2010.
  18. "Red Dead Redemption for PlayStation 3 Reviews". Metacritic. Cyrchwyd 3 Hydref 2010.
  19. "Red Dead Redemption for Xbox 360 Reviews". Metacritic. Cyrchwyd 17 Mai 2010.
  20. Graft, Kris. "Take-Two: Red Dead Redemption Ships 11M Units". Gamasutra. Cyrchwyd 10 Awst 2011.
  21. Makuch, Eddie (7 Chwefror 2017). "Red Dead Redemption 2: Take-Two Talks Competition With GTA Online, Marketing Support, And More". GameSpot. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2019.
  22. Brudvig, Erik (17 Mai 2010). "Red Dead Redemption Review". IGN. Cyrchwyd 17 Mai 2010.
  23. Bertz, Matt (17 Mai 2010). "Rockstar Wrangles The Best Video Game Western Of All Time". Game Informer. Cyrchwyd 1 Hydref 2014.
  24. 24.0 24.1 "Best Original Music - The Best Games of 2010". GameSpot. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Rhagfyr 2010. Cyrchwyd 9 Ebrill 2013.
  25. "Best Voice Acting - The Best Games of 2010". GameSpot. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Rhagfyr 2010. Cyrchwyd 9 Ebrill 2013.
  26. "GameSpy Game of the Year 2010". GameSpy. Cyrchwyd 19 Mehefin 2012.
  27. "GameSpot Game of the Year 2010". GameSpot. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Mehefin 2013. Cyrchwyd 19 Mehefin 2012.
  28. "GG Awards 2010 - Game of the Year". Good Game. Cyrchwyd 15 Rhagfyr 2010.
  29. "Feature: The Top 10 Games of 2010". Computer And Video Games. Cyrchwyd 22 Rhagfyr 2010.
  30. 30.0 30.1 Shibley, Billy. "Machinima.com announces 2010 Inside Gaming Awards Winners". Machinima. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2010.
  31. 31.0 31.1 "Video Game Awards 2010 Winners". Spike. 27 Hydref 2011. Cyrchwyd 3 Ebrill 2013.