Red Deer

dinas yn Alberta, Canada

Dinas yng nghanolbarth Alberta, Canada yw Red Deer. Fe'i lleolir tua hanner ffordd rhwng Calgary ac Edmonton, a dyma drydedd ddinas fwyaf Alberta ar ôl y dinasoedd hynny. Fe'i hamgylchynir gan Swydd Red Deer. Poblogaeth: 89,891 (2009).

Red Deer
Mathdinas yn Alberta, Canada, dinas fawr Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Red Deer Edit this on Wikidata
Poblogaeth100,418, 100,844 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1882 (anheddiad dynol) Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCylchfa Amser y Mynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAlberta Edit this on Wikidata
GwladBaner Canada Canada
Arwynebedd104.73 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr855 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Red Deer Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaRed Deer County Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.2681°N 113.8111°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholRed Deer City Council Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
maer Edit this on Wikidata
Map
Gweler hefyd Red Deer (gwahaniaethu).

Gorwedd dinas Red Deer ar lan Afon Red Deer mewn ardal o fryniau coediog a nodweddir gan goedwigoedd aspen a meysydd agored lle mae'r economi yn seiliedig ar gynhyrchu olew a grawnfwyd a magu gwartheg. Dosberthir cynhyrchion y diwydiannau hyn o Red Deer.

Bu'r ardal yn gartref i bobloedd brodorol cyn dyfodiad yr Ewropeaid cyntaf yn y 18g. Sefydlwyd gwersyll masnachu yno yn 1882, a gymerodd ei enw ar ôl yr afon sy'n llifo trwy'r ardal, a daeth yn dref yn 1901 ac yn ddinas yn 1913.

Dolen allanol golygu