Gwneuthurwr ceir Ffrengig yw Renault S.A. sy'n cynhyrchu ceir, faniau, ac yn y gorffennol, cerbydau autorail, tryciau, tractorau, bysiau, a choetsis. Mae ei gysylltiad â Nissan yn ei wneud yn wneuthurwr ceir trydydd fwyaf y byd.[1] Carlos Ghosn o Frasil yw'r prif weithredwr cyfredol. Ceir mwyaf llwyddiannus y cwmni yw'r Renault Clio a'r Renault Laguna, ac Ewrop yw ei brif farchnad. Bu Renault yn weithgar ym myd rasio moduron ers blynyddoedd, gan gynnwys ralïo a Fformiwla Un. Mae llywodraeth Ffrainc yn berchen ar 15% o'r cwmni.

Renault
Math
menter
ISINFR0000131906
DiwydiantDiwydiant ceir
Sefydlwyd24 Rhagfyr 1898
SefydlyddLouis Renault, Marcel Renault, Fernand Renault
CadeiryddLouis Renault, Louis Schweitzer
PencadlysBoulogne-Billancourt
Pobl allweddol
(Prif Weithredwr)
Cynnyrchcar
Refeniw52,376,000,000 Ewro (2023)
Incwm gweithredol
2,485,000,000 Ewro (2023)
Cyfanswm yr asedau118,319,000,000 Ewro (31 Rhagfyr 2022)
PerchnogionNissan (0.15), gwladwriaeth Ffrainc (0.1501)
Nifer a gyflogir
170,158 (2020)
Rhiant-gwmni
CAC 40, Renault–Nissan Alliance
Is gwmni/au
Renault–Nissan Alliance
Lle ffurfioBoulogne-Billancourt
Gwefanhttps://www.renaultgroup.com/, https://www.renaultgroup.com/en/, https://www.renault.fr/ Edit this on Wikidata

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Renault Group website. Renault (27 Mawrth 1999).
  Eginyn erthygl sydd uchod am gwmni Ffrengig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.