Polymer naturiol neu synthetig anhydawdd sy'n meddalu pan gaiff ei wresogi yw resin[1] neu ystor.[2] Secretir resinau naturiol gan goed a phlanhigion eraill ac fe'u defnyddir wrth wneud meddyginiaethau a farneisiau. Defnyddir resinau synthetig fel cynhwysion plastigau. [3][4]

Dosberthir resinau naturiol yn ôl eu caledwch â'u cyfansoddiad cemegol yn dri phrif gategori: resinau caled, oleoresinau, a resinau gwm.

Resinau caled golygu

 
Rosin

Ceir resinau caled naill ai o ffosilod neu drwy ddistyllu oleoresinau. Mae resin o'r fath yn galed, yn frau, heb aroglau na blas iddo, ac yn edrych yn debyg i wydr toredig os caiff ei hollti. Ymhlith y resinau caled mae ambr, copal, mastig, rosin, a sandrag. Rosin, a gynhyrchir drwy ddistyllu'r oleoresin tyrpant, yw'r pwysicaf yn nhermau economaidd. Defnyddir rosin wrth gynhyrchu sebon, farneis, a phaent, ac i gaenu bwâu offerynnau tannau.

Oleoresinau golygu

Lled-solidau di-ffurf a gludiog yw'r oleoresinau, ac maent yn cynnwys olewon naws. Ymhlith yr oleoresinau mae tyrpent, balm, copaïba, a dreigwaed.

Resinau gwm golygu

 
Dyn yn casglu myrr oddi ar goeden yn Somalia.

Resinau sydd yn cynnwys gymiau, sef suddau gludiog ac yn aml persawrus, yw'r resinau gwm. Maent yn cynnwys thus, myrr, bensoin, ac asiffeta.

Cyfeiriadau golygu

  1.  resin. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 3 Medi 2018.
  2. Geiriadur yr Academi, [resin].
  3. Crystal, David (gol.), The Penguin Encyclopedia (Llundain: Penguin, 2004), t. 1294.
  4. (Saesneg) resin (chemical compound). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Tachwedd 2014.