Reykjanesskagi

Penrhyn Deheuol Gwlad yr Iâ

Penrhyn y De (Islandeg: Suðurnes) Reykjanesskagi (ynganner IPA: ˈreiːcanɛsˌskaiːjɪ) neu 'Penrhyn Reykjanes' yw'r enw ar ranbarth yn ne-orllewin Gwlad yr Iâ. Fe'i henwir ar ôl Reykjanes, pegwn dde orllewinnol penrhyn fawr Reykjanesskagi.

Suðurnes
Tiriogaeth Suðurnes
Tiriogaeth Suðurnes
CountryIceland
SeatKeflavík
Arwynebedd
 • Cyfanswm829 km2 (320 mi sg)
Poblogaeth (2007)
 • Cyfanswm20,300
 • Dwysedd24.5/km2 (63/mi sg)

Mae gan y rhanbarth boblogaeth o rhyw 22,000 ac mae'n un o ardaloedd dwysaf ei phoblogaeth ar yr ynys. Y ganolfan weinyddol yw Keflavík, oedd â phoblogaeth o 7,000 cyn iddi ymuno gyda thref Njarðvík gyfagos rhai blynyddoedd yn ôl i greu Reykjanesbær. Dyma bellach yw'r ail anneddle fwyaf ar yr ynys y tu allan i ardal Reykjavík Fawr. Ar 1 Ionawr 2013 ei phoblogaeth oedd 14,231. Tref arall o bwys yw Grindavík.

Mae'r rhanbarth yn cynnwys prif fynedfa tramorwyr i'r ynys, Maes Awyr Keflavík a hefyd canoflan iechyd ac ymdrochi dŵr mwynol, Lagŵn Glas.

Ceir sawl llosgfynydd sy'n fyw o ran y wyneb a meysydd lafa sylweddol, gan achosi prinder o dir glas. Mae Llosgfynydd Reykjanes yn ymestyn ar draws penrhyn Reykjanes, lle mae Crib Canol yr Iwerydd (Mid-Atlantic Ridge) yn codi uwch ben lefel y môr. Mae'r system llosgfynyddol yn cynnwys meysydd lafa, rhesi crateri ôl-rhewlifol basalt, a llosgfynyddoedd bychain. Lleolir hefyd sawl ffynnon boeth a swlffwr ar ochr ddheuol y penrhyn o gwmpas llyn Kleifarvatn ac ardal geothermal Krýsuvík.

Lleolir Gorsaf Ynni Svartsengi ar y penrhyn - gorsaf ynni geothermal. Ger yr orsaf, a gan ddefnyddio dŵr 'gwastaff' ohono, ceir y Bláa Lónið, y Lagŵn Glas, (Blue Lagoon yn Saesneg).

Mae'r 'Bont sy'n cysylltu Cyfandiroedd' yn pontio dyffryn hollt yr Álfagjá sydd (20 metr o led a 6.1m dwfn) ger Grindavík, ac sy'n nodi'r ffin rhwng platiau tectonaidd Ewrasia a Gogledd America. Fe'i hadeiladwyd yn 2002 a'r enw flaenorol oedd 'Pont Leif Lwcus' ar ôl y danganfyddwr, Leif Eriksson, a wladychodd Gogledd America ganrifoedd cyn Columbus.

Ceir rhai trefi pysgota megis Grindavík a Njarðvík ar y penrhyn yn ogystal â'r prif dref Keflavík, a safle'r Maes Awyr ryngwladol. a safle filwrol UDA.

Oriel golygu