Reykjavík Fawr

Reykjavík Fawr, Rhanbarth y Brifddinas

Reykjavík Fawr neu Metropol Reykjavik (Islandeg: Höfuðborgarsvæðið, ystyr "Rhanbarth y Brifddinas") yw'r enw a ddefnyddir ar gyfer y brifddinas, Reykjavik a'r chwech bwrdeistref sydd o'i chylch.[1][2] Dyma'r rhanbarth mwyaf trefol ar yr ynys Gwlad yr Iâ.[3]

Reykjavík Fawr
Mathrhanbarthau Gwlad yr Iâ Edit this on Wikidata
PrifddinasReykjavík Edit this on Wikidata
Poblogaeth233,034 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwlad yr Iâ Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad yr Iâ Gwlad yr Iâ
Arwynebedd1,062.2 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaRhanbarth y Gorllewin, Suðurland, Reykjanesskagi Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau64.2°N 21.7°W Edit this on Wikidata
IS-1 Edit this on Wikidata
Map

Mae gan bob bwrdeistref ei chyngor etholedig ei hun. Poblogaeth Metropol Reykjavik yw 216,940 sef, dros 60% o boblogaeth Gwlad yr Iâ a hynny mewn ardal sydd ond ychydig dros 1% o diriogaeth y wlad. Amcangyfrifir maint Reykjavík Fawr gan yr ardal sy'n rhan o diriogaeth y bwrdeistrefi gan gynnwys darnau mawr o dir gwag, ac nid yr ardal craidd drefol ei hun sydd hyd yn oed yn llai.[4] Mae'r bwrdeistrefi'n cyd-weithio'n dda, er enghraifft, ar bolisi casglu sbwriel, trafnidiaeth gyhoeddus a brigâd dân cyfun.

O'r chwith top: Reykjavík o'r Perlan, toiau Hallgrímskirkja, Reykjavík o'r Hallgrímskirkja, Fríkirkjan, panorama o'r Perlan
Reykjavík ar OpenStreetMap
Y saith bwrdeistref yr ardal

Poblogaeth a Maint golygu

O'r saith bwrdeistref sy'n creu Metropol Reykjavík, Reykjavík yw'r fwyaf o bell ffordd gyda phoblogaeth o 122,460; Kjósarhreppur yw'r lleiaf poblog gyda dim ond 217 preswylydd, ond sydd â'r tiriogaeth fwyaf: 287.7 km2 (111.1 mi sgw). Seltjarnarnes yw'r bwrdeistref lleiaf o ran tirwedd 2.3 km2 (0.89 mi sgw).

Bwrdeistrefi Poblogaeth[5] Maint (km2)[6] Dwysedd (Pobl/km2)
Reykjavík 122,460 277.1 442
Kópavogur 34,140 83.7 408
Hafnarfjörður 28,189 143.3 197
Garðabær 14,717 74.4 198
Mosfellsbær 9,481 193.7 49
Seltjarnarnes 4,415 2.3 1,920
Kjósarhreppur 217 287.7 0.75
Cyfanswm 213,619 1,062.2 201
Esblygiad poblogaeth Reykjavík Fawr, Rhanbarth y Brifddinas
Blwyddyn Poblogaeth Fel canran o boblogaeth Gwlad yr Iâ
population islandaise
1920 21 441 22,70 %
1930 33 854 31,16 %
1940 43 841 36,06 %
1950 65 080 45,10 %
1960 89 493 49,93 %
1970 109 238 53,40 %
1980 121 698 52,65 %
1990 145 980 56,65 %
2000 175 000 61,44 %
2011 202 341 63,32 %

Cyfeiriadau golygu

  1. Association of municipalities in the Capital area English version Archifwyd 2021-10-07 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 2010
  2. Sigurður Guðmundsson. „Hvernig eru hugtökin dreifbýli og landsbyggð skilgreind hér á landi?“ The Icelandic Web of Science Archifwyd 2012-03-06 yn y Peiriant Wayback.. 18.8.2000. Adalwyd Mehefin 2010 (In Icelandic)
  3. Statistics Iceland. Population by municipalities Archifwyd 2012-04-17 yn y Peiriant Wayback.. Adalwyd Mehefin 2010
  4. Emilía Dagný Sveinbjörnsdóttir. „Hvað er Stór-Reykjavíkur svæðið stórt sem hlutfall af öllu landinu?“. The Icelandic Web of Science Archifwyd 2012-03-06 yn y Peiriant Wayback.. Adalwyd Mawrth 2002.
  5. Statistics Iceland. Population by municipalities Archifwyd 2012-04-17 yn y Peiriant Wayback.. Retrieved on 17. March 2012
  6. National Land Survey of Iceland. Sveitarfélagaskjárinn. Adalwyd Mehefin 2010 (Mewn iseldireg)