Rheilffordd Bluebell

rheilffordd gul yn Nwyrain Sussex, Lloegr

Mae'r Rheilffordd Bluebell yn rheilffordd dreftadaeth yn Sussex, De-ddwyrain Lloegr ac oedd yr rheilffordd dreftadaeth stêm lled safonol yn y byd.

locomotif a fan brec yng Ngorsaf Horsted Keynes
Locomotif 'Terrier'
Trên yn agosáu Horsted Keynes

Rheilffordd Lewes ac East Grinstead golygu

Pasiwyd deddf ym 1878 i ganiatáu adeiladu'r rheilffordd gan gwmni Rheilffordd Llundain, Brighton ac Arfordir De. Rhowyd dyletswydd ar y rheilffordd gan y deddf i gael 4 trên pob dydd yn y ddau gyfeiriad. Agorwyd y lein ym 1882.

Caewyd y lein, erbyn hyn efo'r llysenw 'Bluebell line' ar 28 Mai 1955, ond sylwodd Madge Bessemer, un o'r trigolion North Chailey, ac wyres i Henry Bessemer[1], ar ddyletswydd y cwmni i redeg 4 trên pob dydd yn y ddau gyfeiriad, a gorfodwyd Rheilffyrdd Prydeinig i ailagor y lein ar 7 Awst 1956. Ar ôl ymholiad cyhoeddus, diddymwyd y cymal perthnasol o'r deddf gwreiddiol, a chaewyd y lein eto ar 17 Mawrth 1958.[2]

Ailagoriad golygu

Roedd y bwriad gwreiddiol, ym 1959, i ailagor y cangen i gyd, o East Grinstead i Lewes ac yn gweithredu'n fasnachol efo cerbydau diesel. Doedd hi ddim posibl prynu'r lein i gyd, a doedd dim fawr o ddiddordeb yn lleol, felly penderfynwyd ailagor yn rheilffordd dreftadol stêm rhwng Sheffield Park a Horsted Keynes. Prynwyd locomotif 'Terrier' a dau gerbyd oddi wrth Rheilffyrdd Prydeinig am £750, a chyrhaeddon nhw ar 17 Mai 1960.[3] Ar 29 Hydref 1961, caniatawyd y rheilffordd i ddefnyddio Gorsaf reilffordd Horsted Keynes, er defnyddiwyd yr orsaf gan Reilffyrdd Prydeinig adeg hynny[4]. Ym 1964, prynwyd y lein oddi wrth Rheilffyrdd Prydeinig.[5]. Ailagorwyd y lein hyd at East Grinstead ar 23 Mawrth 2013[6].

Locomotifau stêm golygu

Rhif Enw Delwedd Dosbarth Adeiladwyd Adeiladwr Nodiadau
30541 Maunsell Dosbarth Q 0-6-0 1939 Rheilffordd Ddeheuol Perchennog; Cymdeithas locomotif Maunsell. Gweithredol
847 Maunsell Dosbarth nwyddau Arthur 4-6-0 1936 Rheilffordd Ddeheuol Perchennog; Cymdeithas locomotif Maunsell. Gweithredol.
263 Dosbarth H 0-4-4T 1905 Perchennog: Ymddiriodolaeth Rheilffordd Bluebell. Gweithredol.
323 Bluebell Wainwright Dosbarth P 0-6-0T 1910 Perchennog; Rheilffordd Bluebell. Gweithredol.
3 Captain Baxter 0-4-0T 1877 Cwmni Fletcher Jennings Perchennog; Rheilffordd Bluebell. Gweithredol.
178 Wainwright Dosbarth P 0-6-0T 1910 Perchennog; Rheilffordd Bluebell. Gweithredol.
B473 Tanc radial Billinton dosbarth E4 0-6-2T 1898 Perchennog; Rheilffordd Bluebell. Gweithredol.
592 Dosbarth C nwyddau Wainwright 0-6-0 1902 Perchennog; Ymddiriodolaeth rheilffordd Bluebell. Gweithredol
928 Stowe Maunsell dosbarth V 'Schools' 1934 Rheilffordd Ddeheuol Perchennog; Cymdeithas locomotif Maunsell. Atgyweirir.
34059 Sir Archibald Sinclair Bulleid dosbarth 'Battle of Britain' 4-6-2 1947. Ailadeiladwyd ym 1960 Rheilffordd Ddeheuol Perchennog; Rheilffordd Bluebell. Atgyweirir y boeler yng Nghriw.
27 Wainwright dosbarth P 0-6-0-T 1910 Perchennog; Rheilffordd Bluebell. Atgyweirir.
73082 Camelot Riddles Dosbarth 5MT 4-6-0 Rheilffyrdd Prydeinig 1955 Perchennog; Cymdeithas locomotif 73082 Camelot. Atgyweirir.
424 Beachy Head LBSCR Dosbarth H2 4-4-2 adeiladwyd y locomotif gwreiddiol ym 1911 Adeiladir locomotif newydd i'r cynllun gwreiddiol.
84030 Dosbarth 2 Rheilffyrdd Prydeinig 2-6-2T Adeiladwyd locomotif 2-6-0 78059 ym 1956. Perchennog; Rheilffordd Bluebell. Newidir locomotif 2-6-0 i fod yn 2-6-2T.
1638   Dosbarth U 2-6-0 1931 Rheilffordd Ddeheuol Perchennog; Rheilffordd Bluebell. Ar fenthyg hir-dymor i Gymdeithas Maunsell.
55 Stepney LBSCR Dosbarth AIX 'Stroudley Terrier' 0-6-0T 1875 Perchennog; Rheilffordd Bluebell; arddangosir, yn disgwyl am atgyweiriad
80151 Dosbarth 4MT 2-6-4T Riddles, Rheilffyrdd Prydeinig 1957 Brighton Perchennog; Grŵp perchnogion 80151. Arddangosir, yn disgwyl am atgyweiriad.
9017 Earl of Berkeley GWR dosbarth 'Dukedog' 4-4-0 1938 Swindon Perchennog; Rheilffordd Bluebell. Arddangosir.
672 Fenchurch   LBSCR dosbarth A1 Stroudley Terrier 0-6-0T 1872 Perchennog; Rheilffordd Bluebell. Arddangosir.
65   SER dosbarth Stirling O1 0-6-0 1896, ailadeiladwyd 1908 Ashford Arddangosir ym Mharc Sheffield
21C123 Blackmoor Vale Bulleid dosbarth 'West Country' 4-6-2 1946 Rheilffordd Ddeheuol arddangosir, disgwyl am atgyweiriad.
75027   Rheilffyrdd Prydeinig Riddles dosbarth 4MT 4-6-0 1954 Perchennog Rheilffordd Bluebell. Arddangosir yn Horsted Keynes, yn disgwyl am atgyweiriad
96 Normandy   LSWR Dosbarth tanc dociau Adams B4 0-4-0T 1893 Perchennog grŵp B4, rhan o Gymdeithas Bulleid. Arddangosir, disgwyl am at gyweiriad.
76 Tanc nwyddau Rheilffordd Gogledd Llundain, dosbarth 75 0-6-0T 1880 Perchennog; Rheilffordd Bluebell. Arddangosir yng ngorsaf reilffordd Horsted Keynes, disgwyl am at gyweiriad.
92240   Rheilffyrdd Prydeinig dosbarth Riddles 9F 2-10-0 1958 Perchennog; Rheilffordd Bluebell. Arddangosir yng, disgwyl am at gyweiriad.
488   LSWR Dosbarth 415 Adams 4-4-2T 1885 Perchennog; Rheilffordd Bluebell. Arddangosir yng, disgwyl am at gyweiriad.
1618 Maunsell dosbarth U 2-6-0 1928 Brighton Perchennog; Cymdeithas locomotif Maunsell. Arddangosir yng, disgwyl am at gyweiriad.
1959 Rheilffordd Ddeheuol tanc dociau dosbarth USA 0-6-0T 1943 Ffowndri Fwlcan Perchennog; Rheilffordd Bluebell. Arddangosir.
80064 Rheilffyrdd Prydeinig dosbarth 4MT Riddles 2-6-4T 1953 Brighton Cronfa locomotif 80064
80100 Rheilffyrdd Prydeinig dosbarth 4MT Riddles 2-6-4T 1955 Brighton Perchennog; Rheilffordd Bluebell.Yn storfa, Horsted Keynes.
Sharpthorn 0-6-0ST 1877 Cwmni Manning Wardle Perchennog; Rheilffordd Bluebell. Arddangosi ryng ngorsaf reilffordd Horsted Keynes.
24 Stamford 0-6-0ST 1927 Cwmni Stewarts a Lloyds Perchennog; Rheilffordd Bluebell. Ar fenthyg i 'Rocks by Rail', Cottesmore.

Locomotifau diesel golygu

Rhif Enw Delwedd Trefn yr Olwynau Adeiladwyd Adeiladwr Nodiadau
Locomotif petrol pedwar olwyn 1924 James a Frederick Howard Cyf, Bedford Gweithredol
09018 Dosbarth 09 0-6-0 Rheilffyrdd Prydeinig 1961 Gweithdy Horwich Gweithredol
10241 4 olwyn diesel-hydrolig Sentinel/Rolls Royce. Ailadeiladwyd gan gwmni Thomas Hill ym 1973 Perchennog Rheilffordd Bluebell; gweithredol
Rheilffordd Bluebell
     
East Grinstead (Bluebell (2013))
 
 
   
Ffin rhwng Rheilffordd Genedlaethol a Rheilffordd Bluebell
 
Traphont Imberhorne
 
Afon Medway
 
Kingscote
 
West Hoathly (Caewyd 1958)
 
Twnnel Sharpthorne
 
Horsted Keynes
     
Cyffordd Ardingly
     
Arhosfa Bluebell (Caewyd)
     
Gwaith Dŵr Holywell (Caewyd)
     
Freshfield (Caewyd)
         
Afon Ouse
         
Parc Sheffield


Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu