Rheilffordd Chicago, Rock Island a Pacific

Rheilffordd yn yr Unol Daleithiau oedd Rheilfordd Chicago, Rock Island a Pacific adnabuwyd yn well fel Lein Rock Island. Ar ei hanterth, aeth y rheilffordd ar draws y canolbarth, yn cysylltu Chicago, Minneapolis, Omaha, St Louis, Memphis, Denver, Dallas a Galveston. Defnyddir rhai o'i leiniau hyd at heddiw gan gwmnïau eraill.

Rheilffordd Chicago, Rock Island a Pacific
Enghraifft o'r canlynolcwmni cludo nwyddau neu bobl, busnes, cwmni rheilffordd Edit this on Wikidata
Daeth i ben1980 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1866 Edit this on Wikidata
Lled y cledrau1435 mm Edit this on Wikidata
RhagflaenyddChoctaw, Oklahoma and Gulf Railroad, Enid and Tonkawa Railway, Enid and Anadarko Railway Edit this on Wikidata
OlynyddIowa Interstate Railroad Edit this on Wikidata
PencadlysChicago Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
RhanbarthArkansas Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ysgogwyd y gân Rock Island Line gan y rheilffordd.

Hanes golygu

Crëwyd Cwmni Rheilffordd Rock Island a La Salle ar 27 Chwefror 1847 i adeiladu rheilffordd rhwng y ddwy dref a chysylltu â'r gamlas i Chicago. Sylweddolyd y buasai'n well cyrraedd Chicago'n uniongyrchol yn hytrach na'r gamlas, a newidiwyd enw'r rheilffordd i Reilffordd Chicago a Rock Island. Aeth y trên cyntaf rhwng Chicago a Joliet ar 10 Hydref 1852, a'r un cyntaf i Rock Island ar 22 Chwefror 1854. Cyrheaddwyd Davenport (Iowa) ar 23ain Ebrill 1856. Ar ôl problemau ariannol, daeth y cwmni yn Rheilfford Chicago, Rock Island a Pacific yng Ngorffennaf 1866. Daeth y rheilffordd ei henw 'Chicago, Rock Island a Pacific ym mis Mai 1866. Roedd ganddi rhwydwaith mawr ond yn anffodus doedd ei leiniau ddim mor uniongyrchol â rheilffyrdd eraill.

Roedd y rheilffordd yn enwog am ei 'Rocedau', trenau wedi'u adeiladu gan Gwmni Electromotif. Ond ar ôl yr Ail Ryfel Byd collwyd traffig i'r ffyrdd Interstate. Caewyd y rheilffordd ym 1980, a gwerthwyd rhai o'i leiniau i gwmnïau eraill.[1]

Cyfeiriadau golygu