Rheilffordd Corris

Mae Rheilffordd Corris yn rheilffordd 2 droedfedd 3 modfedd o led yn rhedeg o dref Machynlleth tua'r gogledd i Gorris ac ymlaen i Aberllefenni. Roedd canghennau yn gwasanaethu chwareli Corris Uchaf, Aberllefenni, Ratgoed ac ar hyd dyffryn Afon Dulas.

Rheilffordd Corris
Shed locomotifau Cyffordd Maespoeth ar ddechrau'r 1980au, gydag aelodau o Gymdeithas Rheilffordd Corris yn trwsio'r lein
Ardal leolCanolbarth Cymru
Terminws(Gwreiddiol) Machynlleth ac Aberllefenni
(Presennol) Cyffordd Maespoeth a Chorris
Gweithgaredd masnachol
EnwCwmni Rheilffordd Corris
Adeiladwyd ganCorris, Machynlleth & River Dovey Tramroad
Maint gwreiddiol2 tr 3 modf (686 mm)
Yr hyn a gadwyd
Gweithredir ganCwmni Rheilffordd Corris Cyf, cefnogwyd gan Gymdeithas Rheilffordd Corris
Gorsafoedd2
Hyd0.75 milltir
Maint 'gauge'2 tr 3 modf (686 mm)
Hanes (diwydiannol)
1859Opened (ceffyl)
1879Newidiwyd i stêm
1883Dechrau defnyddio stêm ar gyfer cludo teithwyr
1930Diwedd cludo teithwyr
1948Ceuwyd
Hanes (Cadwraeth)
1966Sefydlu Cymdeithas Rheilffordd Corris
1970Agor Amgueddfa Rheilffordd Corris
1971Adeiladu'r lein prawf
1981Prynnu shed Maespoeth
2002Ailgychwyn cludo teithwyr
2005Ailgychwyn defnyddio trenau stêm
Map o Reilffordd Corris Railway

Hanes golygu

Agorodd y rheilffordd ym 1859 fel "Tramffordd Corris, Machynlleth ac Afon Dyfi", yn cysylltu chwareli llechi Corris, Corris Uchaf ac Aberllefenni ag Afon Dyfi, lle llwythid y llechi i gychod o'r cei yn Nerwenlas a Morben, i'r de-orllewin o Fachynlleth. Ym 1864 newidiwyd yr enw i "Gwmni Rheilffordd Corris" a chaniatawyd trenau ar y rheilffordd. Caewyd y rhan rhwng Machynlleth a Derwenlas pan ddaeth y rheilffordd fawr i gymeryd ei lle. Ym 1878 prynwyd y rheilffordd gan yr Imperial Tramways Company o Lundain a ddechreuodd gario teithwyr a defnyddio trenau stêm. Ym 1887 ymestynnwyd y rheilffordd o Gorris i Aberllefenni.

Gyda chaead chwareli llechi, bu llai o ddefnydd ar y rheilffordd. Rhoddwyd y gorau i gario teithwyr ym 1931 a chaewyd y lein ym 1948.

 
Injan Rhif 7, yng ngorsaf Corris

Ym 1966 ffurfiwyd Cymdeithas Reilffordd Corris, gyda'r bwriad o ail-agor y lein. Yn ystod y 1980au ail-osodwyd y rheilffordd rhwng Cyffordd Maespoeth a Chorris, tua 1.6 km, a dechreuwyd rhedeg trenau. Yn 2002 ail-ddechreuwyd cario teithwyr. Bwriedir ymestyn y rheilffordd i gyfeiriad Machynlleth.

 
Loco rhif 1 ym Machynlleth, yn y 1890au.

Y Ffordd golygu

 
Map o Reilffordd Corris Railway

Y Gorsafoedd golygu

  • Quay Ward - Glanfa ar afon Dyfi ym Morben, a oedd yn brif bwynt trawslwytho i'r dramffordd wreiddiol a gafodd ei chau yn y 1860au.
  • Machynlleth - Y brif bwynt trawslwytho i garreg las a chyfnewidfa gyda Rheilffordd y Cambria.
  • Ffridd Gate
  • Croesiad Doldderwen
  • Lliwdy
  • Llwyngwern
  • Esgairgeiliog
  • Cyffordd Maespoeth - Dim ond i ddefnydd locomotif a cherbyd trên, nid oes gorsaf i'r teithwyr.
  • Corris
  • Garneddwen
  • Aberllefenni

Llinellau lleol a thramffyrdd golygu

Chwareli gwasanaethwyd ganddi golygu

Cymdeithas Rheilffordd Corris golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am gludiant. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato