Rheilffordd Dyffryn Rheidol

Rheilffordd gul yw Rheilffordd Cwm Rheidol (Saesneg: Vale of Rheidol Railway), â chledrau lled 1 troedfedd ac 11 3/4 modfedd iddi. Fe ddringa'r rheilffordd o Aberystwyth i Bontarfynach, drwy Ddyffryn Rheidol. Defynyddir y rheilffordd yn bennaf gan dwristiaid ond adeiladwyd hi'n wreiddiol i gludo plwm o'r mwyngloddiau.

Rheilffordd Dyffryn Rheidol
Mathcwmni cludo nwyddau neu bobl, rheilffordd cledrau cul, rheilffordd dreftadaeth, amgueddfa annibynnol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1897 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAberystwyth Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.41114°N 4.07909°W Edit this on Wikidata
Hyd18.9 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Trên ar Reilffordd Dyffryn Rheidol
8 Llewelyn.
Rheilffordd Dyffryn Rheidol
PENDEa(L)
Diwedd y lein
ABZgl STR+r
STR PSTR(R)
Aberystwyth
ABZg+l STRr
ABZgl STR+r
STR KBSTe
Siediau amrywiol
STR
STR
BHF
Llanbadarn
SKRZ-GBUE
A4120
STR
WBRÜCKE1
dros Afon Rheidol
STR
STR
STR
SKRZ-GBUE
croesiad
BHF
Glanrafon
STR
SKRZ-GBUE
croesiad
STR
ABZgl STR+r
PSTR(L) PSTR(R)
Capel Bangor
ABZg+l STRr
STR
SKRZ-GBUE
croesiad
STR
BHF
Nantyronen
STR
ABZgl STR+r
PSTR(L) PSTR(R)
Aberffrwd
ABZg+l STRr
SKRZ-GBUE
STR
STR
BHF
Rhaeadr Rheidol
STR
BHF
Rhiwfron
STR
STR
PENDEe(LF)
Pontarfynach

Hanes golygu

Pasiwyd deddf i adeiladu'r rheilffordd ar 6 Awst 1897. Doedd hi ddim yn bosibl codi arian mor gyflym ag y disgwyliwyd,[1] ond dechreuodd y gwaith ym 1901. Y Prif Beiriannydd oedd Syr James Szlumper. Defnyddiwyd locomotif, Talybont, a ailenwyd yn Rheidol, o Dramffordd Plynlimon a Hafan. Agorwyd y Rheilffordd ar 22 Rhagfyr, 1902, gan ddefnyddio dau locomotif 2-6-2T a adeiladwyd gan Davies a Metcalfe a locomotif 2-4-0T a adeiladwyd gan Bagnall.[2] Ail-agorwyd rhai o byllau plwm yn yr ardal, ac aeth y plwm ar y rheilffordd i Aberystwyth ac ymlaen ar longau. Cludwyd plwm o Bwll Plwm Rheidol gan raff dros Ddyffryn Rheidol i'r Rheilffordd yn ymyl Rhiwfron.[2] Cludwyd pren i'r cymoedd, lle'i defnyddiwyd fel pyst yn y pyllau. Aberystwyth, Llanbadarn, Capel Bangor, Nantyronen a Phontarfynach oedd y gorsafoedd gwreiddiol.

Ym 1912, ystyriwyd defnyddio pŵer trydan o Afon Rheidol, ond daeth y rheilffordd yn rhan o Reilffordd y Cambrian yr un flwyddyn. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, caewyd Pwll Plwm Rheidol a chafwyd llai o wasanaethau i deithwyr. Ym 1923, daeth Rheilffordd y Cambrian yn rhan o Reilffordd y Great Western. Adeiladwyd gorsaf newydd drws nesaf i brif orsaf Great Western yn y dref.[2]. Daeth y gwasanaeth nwyddau i ben, a chaewyd y lein i'r harbwr. Daeth gwasanaeth dros y gaeaf i ben hefyd ym 1930. Caewyd y lein yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ym 1948 daeth y rheilffordd yn rhan o Reilffyrdd Prydeinig. Ym 1966, ar ôl y cau hen Reilffordd Manceinion ac Aberdaugleddau, trosglwyddwyd terminws lein Dyffryn Rheidol i'w hen blatfform yn y brif orsaf.[2]

Preifateiddiwyd y lein ym 1989, a newidiwyd ei statws i fod yn berchnogaeth ymddiriedolaeth elusennol.

Locomotifau golygu

Adeiladwyd y tri locomotif 2-6-2t presennol gan Reilffordd y Great Western yn ei weithdai yn Swindon rhwng 1923 a 1924. Yn 2015 roedd rhif 7, "Owain Glyndŵr", yn cael ei adnewyddu. Mae rhif 8, Llewelyn, a rhif 9, Prince of Wales, yn gweithio ar y rheilffordd.

Rhestrir isod y locomotifau a oedd ym mherchnogaeth y rheilffordd neu a logwyd ganddynt, neu wedi eu cynllunio ar y gweill:

Delwedd Locomotif Hen rif
RDR
Rhif GWR
ym 1923
Rhif GWR
ym 1946
Rhif TOPS
ym 1968
Rhif
presennol
Enw Nodiadau
Locomotifau cynt
- 1 1 1212 - - - Edward VII Sgrapiwyd yn 1930au (cafwyd gwared o'i enw 1923).
- 2 2 1213 † - - - Prince of Wales Sgrapiwyd 1924.
- 3 3 1198 - - - Rheidol Tynnwyd ôl a sgrapiwyd 1924.
- 4 4 - - - 4 Palmerston Llogwyd o Reilffordd Ffestiniog ym 1902. Dychwelodd ym 1922, ac yn gweithio yno o hyd.
Locomotifau presennol
  7 - 7 7 98007 7 Owain Glyndŵr Yn cael ei adnewyddu. Enwyd gan Reilffyrdd Brydeinig.
  8 - 8 8 98008 8 Llywelyn Enwyd gan Reilffyrdd Brydeinig.
  9 - 1213 † 9 98009 9 Prince of Wales Enwyd gan Reilffyrdd Brydeinig.
  10 - - - - 10 - Locomotif diesel.

Locomotifau gwahanol. Cafwyd yr un rhif fel arfer cyllidol.

Cerbydau golygu

Mae'r rheilffordd yn defnyddio cerbydau a adeiladwyd gan Reilffordd y Great Western yn Swindon rhwng 1923 a 1938. Lliwiau wedi amrywio dros y blynyddoedd, ond wedi bod yn frown ac hufen ers y 1980au.[3]

Rhif GWR
(1923)
Rhif BR
(1948)
Rhif BR
(1987)
Rhif VoR
(1989)
Adeiladwyd Adeiladwr Math Nodiadau
137 M137W 137 19 1938 Swindon Brêc llawn pedair olwyn Adeiladwyd ar is-ffrâm 1902.
4143 M4143W 4143 1 1938 Swindon Salŵn caeëdig ail ddosbarth
4144 M4144W 4144 2 1938 Swindon Salŵn caeëdig ail ddosbarth
4145 M4145W 4145 3 1938 Swindon Salŵn caeëdig ail ddosbarth
4146 M4146W 4146 4 1938 Swindon Salŵn caeëdig ail ddosbarth
4147 M4147W 4147 5 1938 Swindon Salŵn caeëdig ail ddosbarth
4148 M4148W 4148 6 1938 Swindon Salŵn caeëdig ail ddosbarth
4149 M4149W 4149 7 1938 Swindon Salŵn caeëdig ail ddosbarth Atgyweirir ar hyn o bryd.Nodyn:When
4150 M4150W 4150 8 1938 Swindon Salŵn rhannol gaeëdig ail ddosbarth
4151 M4151W 4151 9 1938 Swindon Salŵn rhannol gaeëdig ail ddosbarth
4994 M4994W 4734 10 1938 Swindon Salŵn caeëdig ail ddosbarth
4995 M4995W 4735 11 1938 Swindon Salŵn brêc caeëdig dosbarth cyntaf/ail
4996 M4996W 4736 12 1938 Swindon Salŵn brêc caeëdig dosbarth cyntaf/ail
4997 M4997W 4737 13 1923 Swindon Salŵn rhannol gaeëdig ail ddosbarth
4998 M4997W 4738 14 1923 Swindon Salŵn rhannol gaeëdig ail ddosbarth
4999 M4999W 4739 15 1923 Swindon Salŵn caeëdig "Vista" Ar gadw.
5000 M5000W 4740 16 1923 Swindon Salŵn rhannol gaeëdig ail ddosbarth Ar gadw.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan Steamrailwaylines". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-03-01. Cyrchwyd 2013-02-10.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 "Gwefan Rheilffyrdd Treftadaeth Prydeinig". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-23. Cyrchwyd 2013-02-10.
  3. British Railway Locomotives & Coaching Stock, cyhoeddwyd gan Platform 5 rhwng 1984 a 1987.

Dolen allanol golygu