Rheilffordd Llyn Padarn

rheilffordd dreftadaeth yng Nghwynedd
Rheilffordd Llyn Padarn
uKHSTa
Llanberis
uHST
Gilfach Ddu
uHST
Cei Llydan
uKHSTe
Penllyn

Mae Rheilffordd Llyn Padarn (Saesneg: Llanberis Lake Railway) yn rheilffordd fach gyfyng 1' 11½" (neu 597 mm) sy'n rhedeg am 2.5 milltir (neu 4 km) ar hyd lan ddwyreinol Llyn Padarn yn Eryri, Gwynedd.

Gilfach Ddu
Rhwng Llanberis a Gilfach Ddu

Hanes golygu

Mae'r rheilffordd yn dilyn rhan hen lwybr y rheilffordd 4' 0” ag arfer cludo llechu o Chwarel Dinorwig i'r Felinheli.

Adfywiad golygu

Yng Ngorffennaf 1966, awgrymodd Lowry Porter o Southend-on-Sea reilffordd o weithdy y cwmni chwarel yng Ngilfach Ddu yn ymyl Llanberis, i Ben llyn. Roedd trafodaeth yn mynd ymlaen efo cwmni y chwarel pan caewyd y chwarel yng Ngorffennaf 1969. Prynwyd y gweithdy yng Ngilfach Ddu gan Gyngor Sir Gwynedd, efo bwriad o greu parc gwledig.

Gwerthwyd tir a chyfarpar y chwarel, a phrynodd y rheilffordd dri locomotif stêm ac un diesel. Ym Mehefin 1970, prynodd y Cyngor Sir drywydd y lein, a rhoddwyd caniatâd i'r rheilffordd newydd i'w ddefnyddio.

Adeiladwyd y Rheilffordd yn lled 1 tr 11 12 modf (597 mm) yn hytrach na'r 1 tr 10 34 modf (578 mm) a defnyddiwyd yn y chwarel. Felly roedd rhaid addasu'r locomotifau a cherbydau i gyd. Agorwyd y rheilffordd yn swyddogol ar 28 Mai 1971, ond na ddechreuodd gwasanaeth cyhoeddus tan 19 Gorffennaf, oherwydd problemau efo cerbydau. Estynnwyd y rheilffordd i Benllyn yn y gaeaf o 1971. Estynnwyd y lein i orsaf newydd yn Llanberis, agos i Reilffordd yr Wyddfa ym Mehefin 2003.

Locomotifau golygu

 
Dolbadarn
Rhif Enw Adeiladwyd gan Math Rhif gwaith Dyddiad Nodau
1 Elidir Hunslet 0-4-0 ST 493 1899 Adeiladwyd ar gyfer Chwarel Dinorwig; enw gwreiddiol Enid a hwyrach Red Damsel
2 Thomas Bach Hunslet 0-4-0 ST 894 1904 Adeiladwyd ar gyfer Chwarel Dinorwig; enw gwreiddiol Wild Aster
3 Dolbadarn Hunslet 0-4-0 ST 1430 1922 Adeiladwyd ar gyfer Chwarel Dinorwig
3 Maid Marian Hunslet 0-4-0 ST 822 1903 Adeiladwyd ar gyfer Chwarel Dinorwig. Gweithiodd ar Reilffordd Llyn Padarn o 1972 i 1975. Aeth i Reilffordd Llyn Tegid
7 Topsy Ruston Hornsby 4wDM 441427 1961 Adeiladwyd ar gyfer Glofa Bestwood
8 Twll Coed Ruston Hornsby 4wDM 268878 1952 Gweithiodd ar Reilffordd Lodge Hill ac Upnor
11 Garrett Ruston Hornsby 4wDM 198286 1939
12 Llanelli Ruston Hornsby 4wDM 451901 1961

Cyfeiriadau golygu

Thomas, Cliff (2002). The Narrow Gauge in Britain & Ireland. Cyhoeddwyr Atlantic. ISBN 1-902827-05-8.

Boyd, James I.C. (1986). Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire, trydedd cyfrol: The Dinorwic Quarry and Railways, The Great Orme Tramway and Other Rail Systems. Gwasg Oakwood.

Carrington D.C. and Rushworth T.F. (1972). Slates to Velinheli: The Railways and Tramways of Dinorwic Slate Quarries, Llanberis and the Llanberis Lake Railway. Cronfa Locomotif Maid Marian.

Dolen allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am orsaf reilffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato