Rheilffordd Llyn Tegid

Rheilffordd led gul (gyda lled o 24 modfedd neu 610mm) yw Rheilffordd Llyn Tegid. Mae'n rheilffordd ysgafn a leolir ar lan Llyn Tegid, yng Ngwynedd - rhwng Llanuwchllyn a'r Bala sydd 4.5 milltir (7.2 cilomedr) i ffwrdd. Adeiladwyd y lein ar drywydd y lein Great Western rhwng Rhiwabon ac Abermaw ag agorwyd ym 1868 a chaewyd ym 1965. Adeiladwyd y rheilffordd wreiddiol gan y Bala & Dolgelley Railway Company, ac roedd yn gysylltiad rhwng Rheilffordd Corwen a'r Bala ac Rheilffordd y Cambrian. Daeth y lein yn rhan o Rheilffordd y Great Western ym 1877 ac yn rhan o'r Rheilffyrdd Brydeinig ym 1948.

Trên yn Llanuwchllyn
Rheilffordd Llyn Tegid
Bala Lake Railway
Alice yn Llanuwchllyn, 18 Gorffennaf 2004
Ardal leolGwynedd
TerminwsLlanuwchllyn
Gweithgaredd masnachol
Maint gwreiddiol4 tr 8 12 modf (1,435 mm)
Yr hyn a gadwyd
Hyd4.5 mile (7.2 km)
Maint 'gauge'2 tr  (610 mm)
Hanes (diwydiannol)
Caewyd1965
Hanes (Cadwraeth)
1972Ailagorwyd
PencadlysLlanuwchllyn

Gwaredwyd y cledrau a'r trawstiau pren ym 1969, a chafodd peirianydd lleol, George Barnes, y syniad o greu lein led gul ar lan Llyn Tegid. Trafododd y syniad efo Tom Jones, preswylydd o Lanuwchllyn, a chadeirydd pwyllgor cyllid Cyngor Sir Feirionnydd. Ffurfiwyd Cwmni Rheilffordd Llyn Tegid Cyf, y cwmni cyntaf i gael ei gofrestru yn yr iaith Gymraeg, ym 1971.[1]

Agorwyd y milltir a chwarter cyntaf o'r rheilffordd bresennol - o Lanuwchllyn - ar 13 Awst 1972. Dechreuodd gwasanaeth stêm rheolaidd, efo 'Maid Marian', ym 1975. Agorwyd gweddill y lein, hyd at Benybont, ym 1976. Bwriedir ymestyn y lein i dref Y Bala yn y pen draw.[1]

Terminws a phencadlys y rheilffordd yw Llanuwchllyn ac mae'r rheilffordd bresennol yn defnyddio adeiladau'r orsaf Great Western wreiddiol. Mae lluniaeth ar gael yng nghaffi'r orsaf. Cedwir y locomotifau yn Llanuwchllyn, ac yn aml, mae'n bosibl eu gweld yn y gweithdy, a gellir ymweld â'r signalbox hefyd. Mae maes parcio y tu ôl i'r orsaf.

Terminws arall y rheilffordd yw Y Bala (Penybont), sydd hanner milltir o dref Y Bala. Dim ond culfan fach sydd ar gael i barcio ceir gerllaw'r orsaf.

Mae’r rheilffordd wedi cyhoeddi cynllun i ymestyn y lein i ganol tref y Bala. Bydd eisiau caniatâdau ond dechreuwyd ar brynu a chlirio’r tir. Bwriedir defnyddio Pont Mwngwl (yn yr un modd â Phont Britannia ym Mhorthmadog hy ei rhannu gyda cherbydau) i groesi afon Dyfrdwy.

Locomotifau stêm golygu

Adeiladwyd Maid Marian gan gwmni Hunslet ar gyfer Chwarel Dinorwig ym 1903, a gweithiodd yno hyd at 1964. Agorwyd cronfa er mwyn prynu Maid Marian ym 1965, ac mae'r injan wedi gweithio ar y rheilffordd ers 1975. Cafodd Maid Marian foeler newydd rhwng 2004 a 2006.

Adeiladwyd Holy War gan gwmni Hunslet ar gyfer Chwarel Dinorwig ym 1904. Gadawodd Dinorwig ym 1967, ac aeth i Ganolfan Reilffordd Swydd Buckingham yn hen orsaf Quainton Road. Prynwyd yr injan gan y Parch, Alan Cliff, gweinidog Capel Methodistiaidd Wrecsam ym 1975. Mae Holy war yn cael ei atgyweiro (Gorffennaf 2015).

Adeiladwyd Alice gan gwmni Hunslet ar gyfer Chwarel Dinorwig ym 1902. Gweithiodd yr injan hyd at tua 1960. Wedyn daeth yn ffynhonnell o ddarnau sbâr yn Ninorwig, ac yn ddiweddarach yn Llanuwchllyn i drwsio Holy War. Prynwyd y gweddillion ym 1987 gan Chris Scott, gwirfoddolwr ar y rheilffordd. Symudwyd y gweddillion i garej eu perchennog, wedyn i Reilffordd Ffestiniog, ac wedyn i Reilffordd Leighton Buzzard, lle cafodd Alice foeler newydd ac roedd hi'n gweithio ar Reilffordd Leighton Buzzard erbyn 1994. Daeth hi yn ôl i Lanuwchllyn yn 2003.

Adeiladwyd George B gan gwmni Hunslet ar gyfer Chwarel Dinorwig ym 1898, efo'r enw Wellington. Prynwyd yr injan gan Alan White ym 1965, a symudwyd hi i Gymdeithas Cadwraeth Rheilffordd Dowty yn Ashchurch, Swydd Gaerloyw. Dydy George B ddim wedi gweithio ers 1969, ac mae hi wedi symud i Lanuwchllyn. Ail-adeiladir y locomotif yn llwyr ar hyn o bryd yng ngweithdy'r rheilffordd.

Locomotif Hunslet arall ydyWinifred, a adeiladwyd ym 1885. Cyrhaeddodd Rheilffordd Llyn Tegid yn ystod 2012 o Motor Speedway Indianapolis yn yr Unol Daleithiau ac mae'n gweithio ar y rheilffordd.

Locomotifau diesel golygu

Adeiladwyd Meirionydd, locomotif Bo-Bo diesel-hydrostatic, gan Severn Lamb yn Stratford upon Avon ym 1973, seiliedig, ar ran olwg, ar ddosbarth Western o Rheilffyrdd Prydeinig. Trwsir Meirionydd ar hyn o bryd.

Adeiladwyd Bob Davies, 0-4-0 i led 30 modfedd (762mm) gan Baguley Drewery ar gyfer y Morlys yn Abergwaun. Wedi prynu gan Gwmni Yorkshire Engine, a newidiwyd i led 24 modfedd, gwerthwyd i'r Rheilffordd Llyn Tegid.

Adeiladwyd Chilmark gan Ruston a Hornsby ym 1939 ar gyfer y Gweinyddiaeth Awyr, a defnyddiwyd yn RAF Chilmark i gludo ffrwydron. Prynwyd gan y rheilffordd ym 1976, ond heb ei ddefnyddio ers amser hir. Ail-adeiladir ar hyn o bryd.

Rheilffordd Llyn Tegid
 
GWR, Rhiwabon-Abermaw
 
yn gynt Bala Lake Halt rŵan Y Bala (Penybont)
 
Bryn Hynod Halt
 
Llangower
 
yn gynt Glan Llyn Halt rŵan Glanllyn Flag Halt
 
Pentrepiod
 
Llanuwchllyn
 
GWR, Rhiwabon-Abermaw

Cerbydau golygu

Adeiladwyd cerbydau 1 a 2 gan Severn-Lamb yn Stratford upon Avon ym 1972 efo ochrau agored, yn cario 36 o bobl. Addaswyd y ddau yn Llanuwchllyn gan ychwanegu paneli prên a hanner ddrysau. Addas i feiciau a phramiau ond dim i gadeiriau olwyn.

Adeiladwyd 4 a 5 gan MFD Engineering o Wrecsam ym 1974 a 1976. Cludir 36 o bobl ac roedd yno gaban i'r gard. Addaswyd rhif 5 i ganiatáu cadeiriau olwyn.

Adeiladwyd 6, 7 ac 8 gan Gwynedd Engineering yn y Bala ym 1979. Mae 6 a 7 yn dal 30 o bobl a rhif 8 yn dal 24 o bobl a gard, a chael seddi symudol i ganiatáu cadeiriau olwyn, beiciau neu bramiau.

Daeth 9 a 10 o Wynedd Engineering hefyd, ym 1982, yn cario 45 o bobl yr un. Addas i feiciau a phramiau, ond dim i gadeiriau olwyn.

Rhaid i bob orsaf yn cael ei blatfform ar ochr agosach at y llyn, oherwydd bod y cerbydau'n cael drysau a'r ochr yna yn unig.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Gwefan British Heritage Railways". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-06-09. Cyrchwyd 2012-12-01.

Dolenni allanol golygu