Rheilffordd White Pass a Yukon

Mae Rheilffordd White Pass a Yukon yn rheilffordd cledrau cul (lled 3 troedfedd) sydd yn mynd 107 milltir o Skagway, Alaska i Whitehorse yn Nhiriogaeth Yukon, Canada.

Rheilffordd White Pass a Yukon
Enghraifft o'r canlynolcwmni rheilffordd, island network Edit this on Wikidata
AchosKlondike gold rush edit this on wikidata
PerchennogCarnival Corporation & plc Edit this on Wikidata
Lled y cledrau914 mm gauge Edit this on Wikidata
GwladwriaethCanada, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
RhanbarthAlaska, British Columbia, Yukon Edit this on Wikidata
Hyd177.8 cilometr Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://wpyr.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y rheilffordd yn ymyl y Ffordd Alasga
Gorsaf reilffordd Whitehorse

Hanes golygu

Darganfywyd aur y Klondike ym 1897, a daeth miliynau o ddynion i Scagway ar gychod, i groesi Bwlch Chilcwt neu’r Bwlch Gwyn i gyrraedd Whitehorse. Adeiladwyd ffordd dros y Bwlch Gwyn yn ystod yr un flwyddyn, ond roedd hi’n fethiant ariannol.

Ffurfiwyd cwmni i adeiladu rheilffordd yn Ebrill 1898, a thalwyd $110,000 am yr hawl i ddefnyddio’r ffordd. Dechreuodd gwaith adeiladu’r rheilffordd ar 28 Mai 1898, gan ddechrau o Skagway. Roedd coed lleol yn anaddas i waith adeiladu, felly mewnforiwyd coed trwy Skagway. Ar 21 Gorffennaf 1898, cychwynodd y trên cyntaf o Skagway gan deithio 4 milltir i’r gogledd o’r dref. Cyrhaeddwyd Gorsaf reilffordd Heney erbyn 25 Awst 1898 ac uchafpwynt y rheilffordd ar 18 Chwefror 1899. Aeth y trên cyntaf yno ar 20 Chwefror. Prynwyd locomotifau a cherbydau pan oedd angen, ac erbyn diwedd 1899, roedd 13 locomotif, 8 cerbyd i deithwyr a 250 ar gyfer nwyddau. Adeiladwyd depo yn Skagway. Cyrhaeddodd Llyn Bennett ar 6 Gorffennaf 1899. Roedd gwaith adeiladu wedi dechrau o Whitehorse hefyd, ac ymunodd y 2 ran yn Carcross ar 29 Gorffennaf1900. Gweithiodd cyfanswm o 35,000 o ddynion yn adeiladu’r rheilffordd.

Yn ogystal â chario gweithwyr i’r Klondike, cariwyd mwynau i Skagway, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd, aeth gweithwyr a nwyddau i adeiladu’r Ffordd Alaska.

Defnyddiwyd locomotifau stêm hyd at 1954, wedyn diesel. Daeth y cwmni’n un aml-bwrpas, gyda llongau, dociau, bysiau, awyrennau, gwestyau a phiblinellau.

Roedd gollwng ym mhrisiau metel ym 1982, a chaewyd y rheilffordd.

Ailagorwyd y rheillffordd ym 1988 i gario twristiaid rhwng Skagway a’r copa. Estynnwyd y lein hyd at Bennett yn y 1990au, ac yn ôl i Carcross erbyn 2007.[1]

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu