Rheinallt H Rowlands

Roedd Rheinallt H Rowlands yn ddeuawd cerddorol o Lanfair Pwllgwyngyll, Ynys Môn rhwng 1991 a 2001. Yr aelodau oedd canwr Owain 'Oz' Wright gyda Dewi Evans yn creu'r gerddoriaeth gefndir. Recordiwyd y band tri albwm a pherfformiwyd yn rheolaidd yng Nghymru a thu hwnt.

Rheinallt H Rowlands
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Label recordioAnkst Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1991 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1991 Edit this on Wikidata
Genrecerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata

Defnyddir tôn eu cân Merch o Gaerdydd ar gyfer cerddoriaeth agoriadol y rhaglen radio Talwrn y Beirdd. Enwyd y LP Bukowski (1996) yn un o recordiau'r flwyddyn ym mhapur newydd Llundain The Independent.[1]

Ffurfio'r band golygu

Ym 1990 fe wahoddwyd y label Recordiau Ankst nifer o grwpiau Cymraeg i recordio fersiynnau newydd o ganeuon record hir 1979 Geraint Jarman Hen Wlad fy Nhadau ar gyfer albwm teyrnged aml-gyfrannog.[2]

 
Owain 'Oz' Wright 1970-2005, canwr Rheinallt H Rowlands

Yn anhapus nad oedd ei grŵp Y Fflaps wedi'i wahodd i gyfrannau, penderfynodd Alan Holmes ryddhau ei albwm aml-gyfrannog ffug ei hunain i ddychanu ymdrechion Ankst. Recordiwyd Hen Wlad y Lladd-dai[3] ar offer elfennol yn sied Holmes ym Mhorthaethwy gyda Holmes yn chwarae llawer o'r traciau gan ddewis arddulliau cwbl wahanol i'r gwreiddiol – er enghraifft mae'r gân Steddfod yn y Ddinas, cân reggae ar albwm gwreiddiol Jarman, yn cael ei dro'n gân death metal.

Gwahoddwyd Dewi Evans gan Holmes i'w gynorthwyo gyda recordio sawl darn o gerddoriaeth gefndir. Ar gyfer prif gân yr albwm Hen Wlad fy Nhadau gofynnodd Holmes i 'Oz' Wright ganu mewn arddull debyg i Scott Walker neu 'crooner' 1950iadd.

Dyfeisiwyd enwau grwpiau dychmygol ar gyfer pob un o'r traciau, yn cynnwys: Y Dyfrgwn, Mudiad Moes a Symffonia Waunfawr. Ar gyfer trac Ethiopia Newydd fe roddwyd yr enw Rheinallt H Rowlands.

Llwyddodd Holmes gwblhau Hen Wlad y Lladd-dai a chael y casetiau ar werth cyn y fersiwn Ankst gan dderbyn llawn gymaint o sylw. Chwaraewyd y trac ''Ethiopia Newydd'' sawl tro ar Radio Cymru phan wahoddwyd Wright ac Evans i recordio sesiwn ar gyfer ei rhaglen radio Heno Bydd yr Adar yn Canu gan Nia Melville penderfynon fynd ati i berfformio a recordio'n rheolaidd o dan yr enw Rheinallt H Rowlands.

Hanes golygu

 
Dewi Evans, cyfansoddwr a chwaraewr holl offerynnau cefndir Rheinallt H Rowlands

Wrth sefydlu'r band yn ffurfiol fe rhyddhawyd datganiad i'r wasg gyda hanes bywyd ffug Rheinallt H Rowlands – yn gyn chwarelwr a oedd ar fin hunanladdiad pan clywodd roedd y chwarel i'w gau, ond wrth glywed llais Ian Curtis o Joy Division ar raglen John Peel fe'i ysbrydolwyd i fod yn ganwr.[4]

Yn 1993 rhyddhaodd y ddeuawd gaset Hendaid Brân a Straeon Eraill ar label Alan Holmes Central Slate. Fe'i ail-ryddhawyd ym 1998 ar CD gan ankstmusik. Defnyddiwyd llun a oedd i fod yn Rheinallt H Rowlands ei hun (a oedd digwydd bod yn Alan Dalon hen seren ffilm Ffrengig) ar y clawr er mwyn cadw'r 'mistique' a oedd Rheinallt H Rowlands yn berson go iawn.

Yn 1996 rhyddhawyd yr LP Bukowski ar ankstmusik[5] gan dderbyn cryn sylw, gyda chymariaethau gyda Scott Walker, Ennio Morricone, a The Divine Comedy. Fe'i enwyd yn un o recordiau'r flwyddyn ym mhapur newydd Llundain The Independent.

Bukowski o'r teitl oedd y bardd bît Americanaidd Charles Bukowski. Ffilmiwyd fideo gyda dawnswyr ball-room a char Cadillac i'r raglen deledu Fideo 9 [6]. Gan nad oedd modd cael ffotograff o'r gwir Charles Bukowski ar gyfer clawr y LP heb dalu hawlfraint, defnyddiwyd llun a oedd mewn ffrâm yn hongian ar wal tŷ tafarn y Glôb, Bangor a dynnwyd gan y landlord Gerallt Williams.[7]

LP olaf y band oedd Rheinallt III, 2001 gyda'u fersiwn o Gwawr Newydd yn Cilio – sef cân Joy Division - New Dawn Fades.

Yn fuan ar ôl rhyddhau Rheinallt III penderfynodd Evans a Wright nad oedd modd datblygu prosiect Rheinallt H Rowlands yn bellach ac fe'u penderfynon rhoi'r gorau iddi. Evans yn canolbwyntio ar gyfansoddi a Wright yn gweithio fel saer coed.

Serch hynny, yn 2005, dechreuodd Evans a Wright weithio ar ganeuon newydd gyda cyn drymiwr Topper a Gorky's Zygotic Mynci Peter Richardson.

Marwolaeth Owain 'Oz' Wright golygu

Ar 23 Rhagfyr 2005 fe laddwyd Oz Wright yn 35 oed. Fe'i drawyd gan gar wrth iddo gerdded adref i Bethesda yn dilyn gig Gorky's Zygotic Mynci yn Neuadd Hendre, Talybont.[8]


Recordiadau golygu

 
Hen Wlad y Lladd-dai, 1990

Hen Wlad y Lladd-dai 1990, Un trac ar y caset aml-gyfrannog, Central Slate Records

  1. Rheinallt H Rowlands – Ethiopia Newydd
  2. Siani Rhuban a’r Tri Gwr Drwg – Methu Dal y Pwysa’
  3. Y Dyfrgwn – “Instant Pundits”
  4. Topiau Tanc – Sgip ar Dân
  5. Y Crwban Glas – O Lisa
  6. Mudiad Moes – Merch Ty Cyngor
  7. Mam ar Dân – Disgwyl y Barbariaid
  8. Seraffin – Paradwys Ffwl
  9. Emyr Jirásek a’r Lliwiau – Un Cam Ymlaen
  10. Ffilbi, Burjess, Maclein a Blynt – ‘Steddfod yn y Ddinas
  11. Symffonia Waunfawr – Hew Wlad Fy Nhadau

Hendaid Brân a Straeon Eraill, 1993 caset ar label Central Slate.

 

Fe'i ail-ryddhawyd ym 1998 ar CD (Ankstmusik 85)

  1. Hendaid Brân
  2. Marwnad #1: Mae 'O' Wedi Mynd
  3. Ethiopia Newydd
  4. Pethau
  5. Un Nos Yn 'Little Venice'
  6. Y Dre Chwarel
  7. Simone
  8. Yakub Beg
  9. Hendaid Brân: Atbreis


Bukowski, 1996 (Ankst 071)

 
  1. Diwrnod Braf
  2. Snow
  3. Carchar Meddwl Meddal
  4. Merch O Gaerdydd
  5. Uchelgais
  6. Loved
  7. Bukowski
  8. Dydd Gŵyl Giro Sant
  9. Isabella
  10. Nos Da Cariad

Rheinallt III, 2001 (Ankstmusik 95)

 
  1. Llannw
  2. Bore Fel Miloedd Eraill
  3. Never Thought I'd Feel This Way
  4. Edward yn Hedfan
  5. Gwirod
  6. Hush My Lover
  7. Y Dyddiau Olaf
  8. Y Llythyr Llaw Chwith
  9. Fe Ddaw y Nadredd
  10. Boddi
  11. Baich y Dyffryn
  12. Y Dyddiau Cyntaf'
  13. Cartref
  14. Gwawr Newydd yn Cilio

Trac ar y CD Triskedekaphilia aml-gyfrannog (Ankst 061)[9]

Gwawr Newydd yn Cilio

Trac ar Sengl 7 / CD S4C Makes Me Want To Smoke Crack Vol 2 (Ankst 070)

Merch O Gaerdydd

Dolenni golygu


Fideos ar YouTube

Hendaid Bran http://www.youtube.com/watch?v=r9GWM-QtViY

Pethau - ffilmiwyd yn Rhosgadfan http://www.youtube.com/watch?v=lfy2NwwK_IU

Bukowski - ffilmiwyd ym Menllech http://www.youtube.com/watch?v=q6kbkef95uw

Simone - ffilmiwyd ym Mharis http://www.youtube.com/watch?v=odTIgXi_sQc

Llanw – ffilmiwyd yn Nulyn http://www.youtube.com/watch?v=fFzzK4UObT8

Gwawr Newydd yn Cilio http://www.youtube.com/watch?v=wiHb2wE9_r4

Merch O Gaerdydd http://www.youtube.com/watch?v=glyif2uSKxo

Gwirod http://www.youtube.com/watch?v=qwMSt4Q373k

Rheinallt H Rolands ar iTunes https://itunes.apple.com/us/artist/rheinallt-h.-rowlands/id137876273

Seven Years of Plenty: Handbook of Irrefutable Pop Greatness, 1991-98 gan Ben Thompson, yn cynnwys pennod ar Rheinallt H Rowlands (Phoenix. ISBN 0753808544, ISBN 978-0753808542)

Cyfeiriadau golygu

  1. http://www.independent.co.uk/arts-entertainment/freak-out-1360021.html
  2. http://ankst.co.uk/catalog/ Archifwyd 2014-06-04 yn y Peiriant Wayback. Hen Wlad Fy Nhadau – Amrywiol (Caset Ankst 013)
  3. http://link2wales.co.uk/1990/archive-reviews/hen-wlad-y-lladd-dai-is-released-on-central-slate/#more-10755
  4. "Rheinallt H. Rowlands - Cyflwyniad". rheinallt.com. 2008-01-05. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-01-05. Cyrchwyd 2023-04-22.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  5. http://ankst.co.uk/ankst-1988-1998/
  6. http://www.youtube.com/watch?v=q6kbkef95uw
  7. https://www.flickr.com/photos/24785384@N02/2524837559/
  8. http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/north_west/4555328.stm
  9. http://www.discogs.com/Various-Triskedekaphilia-Sesiynau-Heno-Bydd-Yr-Adar-Yn-Canu-Sessions/release/2653437