Rheolaeth y gweithwyr

Mae Rheolaeth y Gweithwyr yn cyfeirio at amryw o gynlluniau lle mae'r gweithwyr yn ceisio ennill rheolaeth ddemocrataidd lawn dros y sefydliadau sydd yn eu cyflogi.[1] Awgryma mwy na hawliau ymgynghori a chyfranogi yn unig, a chyfeiria at allu sylfaenol y gweithwyr i gymryd penderfyniadau allweddol. Mae'r cysyniad wedi dylanwadu ar sawl syniadaeth a thraddodiad sosialaidd, gan gynnwys ceinciau Marcsiaeth chwyldroadol a syndicaliaeth.[2] Mae'n rhaid gwahaniaethu rhwng rheolaeth y gweithwyr o fewn cymdeithas gyfalafol —sef mesuriadau undebau llafur a dylanwad dros benderfyniadau rheolaethol— a hunan-reolaeth llwyr y gweithwyr dan amodau perchenogaeth gyfalaf cymunedol, yn hytrach na phreifat.

Cyfeiriadau golygu

  1. What is workers’ control? Archifwyd 2013-01-24 yn y Peiriant Wayback. Socialist Worker (16 Medi 2008) Rhifyn 2119
  2. Workers’ Control and Nationalization - Part One (13 Ionawr 2006) In defence of Marxism
  Eginyn erthygl sydd uchod am y mudiad llafur. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.