Rhestr o esgyrn y sgerbwd dynol

Dyma restr o esgyrn y sgerbwd dynol.

Sgerbwd Dynol
Diagram o'r sgerbwd dynol
Anatomeg

Mae sgerbwd dynol oedolyn yn cynnwys 206 asgwrn. Mae'n cynnwys 270 o esgyrn ar enedigaeth, sy'n gostwng i 80 asgwrn yn y sgerbwd echelinol (28 yn y benglog a 52 yn y torso) a 126 esgyrn yn y sgerbwd atodol (32 × 2 yn yr eithafoedd uchaf, gan gynnwys y ddwy fraich a 31 × 2 yn yr eithafoedd isaf gan gynnwys y ddwy goes). Dydy’r cyfrif ddim yn cynnwys nifer o esgyrn bach sydd yn aml yn amrywiol, megis rhai o’r esgyrn sesamoid.

Cyflwyniad golygu

Mae nifer yr esgyrn yn y sgerbwd yn newid gydag oedran, wrth i nifer o esgyrn ymdoddi. Bydd y broses ymdoddi fel arfer yn cael ei gwblhau yn y trydydd degawd o oedran. Mae'r esgyrn y benglog a'r wyneb yn cael eu cyfrif fel esgyrn ar wahân, er iddynt ymdoddi’n naturiol. Mae rhai o’r esgyrn sesamoid dibynadwy megis yr asgwrn pysennaidd yn cael eu cynnwys yn y cyfrif, tra bod eraill, megis yr esgyrn sesamoid hallux, yn cael eu hepgor. Gall unigolion gael mwy neu lai o esgyrn na’r nifer sydd wedi rhestru isod oherwydd amrywiadau anatomegol neu genetig.

Yr esgyrn golygu

Y meingefn (asgwrn cefn) golygu

Prif erthygl Asgwrn cefn Mae gan oedolyn llawn dwf 26 o esgyrn yn y meingefn, tra gall plentyn gael 34.

Y thoracs (y frest) golygu

Fel arfer mae 25 o esgyrn yn y frest, ond bydd gan tua 0.8% o’r boblogaeth asennau gyddfol ychwanegol (asennau serfigol). Mae asennau gyddfol yn gyffredin mewn rhai anifeiliaid megis ymlusgiaid.

  • Sternwm (1) Enwau eraill: ‘’asgwrn y frest; clwyd y ddwyfron; clwyd ais’’
  • Yr asennau (24, yn 12 pâr)

Cranium (penglog, creuan) golygu

Mae 22 o esgyrn yn y benglog. Gan gynnwys yr asgwrn hyoid ac esgyrn y glust ganol, mae’r pen yn cynnwys 29 o esgyrn.

Y Fraich golygu

Mae cyfanswm o 64 o esgyrn yn y fraich.

Pelfis (Y clun, isgeudod, ceudod pelfig, gwregys pelfig) golygu

Mae gan y pelfis tri rhanbarth:

  • Iliwm
  • Ischiwm
  • Pwbis (2)

Y Goes golygu

  • Forddwyd (2)
  • Padell pen-glin (2)
  • Tibia (2)
  • Ffibwla (2)
  • Y droed (52 asgwrn, 26 ym mhob troed)
    • Tarsws
      • Asgwrn y sawdl (2)
      • Talws (2)
      • Asgwrn cychog (2)
      • Asgwrn cunffurf canolig (2)
      • Asgwrn cunffurf canolradd (2)
      • Asgwrn cunffurf ochrol (2)
      • Asgwrn ciwboid (2)
    • Metatarsol (10)
    • Ffalangau’r droed
      • Ffalangau procsimol (5 × 2 = 10)
      • Ffalangau canolradd (4 x 2 = 8)
      • Ffalangau distal (5 x 2 = 10)

Cyfeiriadau golygu

Bones of the Human Body Archifwyd 2017-07-25 yn y Peiriant Wayback.

Geiriadur yr Academi

Geiriadur Prifysgol Cymru

Termau nyrsio a bydwreigiaeth Ysgol Astudiaethau Nyrsio a Bydwreigiaeth, Prifysgol Cymru, Bangor, 1997 ISBN 0904567958

Rhybudd Cyngor Meddygol golygu


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!