Rhewlifiant Cwaternaidd

Cyfres o tua hanner cant o gyfnodau rhewlifol am yn ail â chyfnodau rhyngrewlifol yw rhewlifiant Cwaternaidd (hefyd rhewlifiant Pleistosen), neu ar lafar yr Oes Iâ Fawr. Seiliwyd dechrau'r cyfnod Cwaternaidd ar ddechrau'r rhewlifiant hwn: 2.58 miliwn o flynyddoedd CP ac mae'n parhau hyd heddiw. Bathwyd y term gan Schimper yn 1839.[1] Yn ystod y cyfnod hwn, cynyddodd y llenni iâ yn enwedig oddeutu Antarctica a'r Ynys Las, a chafwyd llenni iâ'n tonni mewn mannau eraill hefyd e.e. llenni iâ Laurentide. Prif effaith yr oes iâ oedd erydiad a gwaddodi deunydd dros ran helaeth o'r cyfandiroedd, addasu systemau afonydd, ffurfio llawer o lynnoedd newydd, newid isostatig yng nghramen y Ddaear, gwyntoedd annormal yn ogystal â chodi lefel y môr. Mae'r Rhewlifiant cwaternaidd hefyd yn effeithio'r moroedd, llifogydd a chymunedau biolegol. Mae'r llenni iâ'n codi'r albedo a thrwy hyn yn effeithio ar dymheredd yr amgylchedd.

Rhewlifiant Cwaternaidd
Enghraifft o'r canlynolOes yr Iâ Edit this on Wikidata
Yn cynnwysIllinoian Edit this on Wikidata
Rhewlifau Hemisffer y Gogledd yn ystod yr Uchafbwynt Rhewlifol Diwethaf. Pan grewyd llenni iâ 3 - 4 km (1.9 - 2.5 mill) o drwch, sy'n gyfysr â lefel y môr yn gostwng tua 120 m (390 tr).

Y cyd-destun golygu

Rhenir llinell amser daearegol y Ddaear yn bedair Eon: y cyntaf yw'r Eon Hadeaidd, sy'n cychwyn pan ffurfiwyd y Ddaear. Fel yr awgryma'r gair, a ddaw o'r Hen Roeg, 'Hades' (uffern), roedd y Ddaear yn aruthrol o boeth, gyda llosgfynyddoedd byw ymhobman, ond yn araf, a thros gyfnod hir, oeroedd y Ddaear ac erbyn y 3ydd Eon, y Proterosöig, daeth y tymheredd mewn rhai mannau o'r Ddaear yn is na rhewbwynt a chafwyd haenau trwchus o rewlifau'n ffurfio. Ers hynny cafwyd o leiaf 5 Oes yr Iâ sylweddol: y Rhewlifiant Hwronaidd (Huronian), y Rhewlifiant Cryogenaidd (Cryogenian), y Rhewlifiant Andea-Saharaidd (Andean-Saharan), Oes Iâ Karoo a'r Rhewlifiant Cwaternaidd hwn sef yr Oes Iâ rydym yn byw ynddi heddiw). Ar wahân i'r 5 cyfnod hyn, mae'n fwy na phosibl nad oedd rhew ledled y Ddaear gyfan.[2][3] Credir i gapiau rhew yr Arctig a'r Antartig gael eu ffurfio rhwng 5 a 15 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP).

 
Diagram yn dangos y 4 Eon (Hadeaidd, Archeaidd, Proterosöig a Ffanerosöig sef yr oes bresennol ar yr ochr dde. Yn y gwaelod ceir y 5 prif Oes Iâ.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gradstein, Felix; et al. (2004). A Geologic Time Scale 2004. New York: Cambridge University Press. tt. 412. ISBN 978-0-521-78673-7.
  2. Lockwood, J.G.; van Zinderen-Bakker, E. M. (Tachwedd 1979). "The Antarctic Ice-Sheet: Regulator of Global Climates?: Review". The Geographical Journal 145 (3): 469–471. doi:10.2307/633219. JSTOR 633219.
  3. Warren, John K. (2006). Evaporites: sediments, resources and hydrocarbons. Birkhäuser. t. 289. ISBN 978-3-540-26011-0.