Mewn ieithyddiaeth rhif gramadegol yw categori o enwau, rhagenwau ac ansoddeiriau sy'n mynegi niferoedd. Mae'r rhan helaeth ieithoedd y byd yn gwahaniaethu rhwng yr unigol a'r lluosog ac mae nifer yn gwahaniaethu ffurfiau deuol hefyd.

Enghreifftiau yng ngwahanol ieithoedd golygu

Cymraeg golygu

Yn Gymraeg gwahaniaethir rhwng yr unigol a'r lluosog. Mae'r ffurfdro rhifol enwol yn afreolaidd iawn o ganlyniad i'r prosesau ailddadansoddi a ddigwyddodd tra collai Brythoneg ei chyflyrau. Er enghraifft yr hen ffurf oddrychol unigol am bardd oedd bardos a'r ffurf luosog oedd bardi. Achosodd y terfyniad lluosog -i i'r -a- ynghanol y gair gael ei hyngan fel diphthong, (bardos, beirdi). Dim ond manylyn bach ffonetig oedd hwn yn Frythoneg ond pan gollwyd y terfyniadau cyflwr, fe ramadegoleiddiwyd yr -ei-, h.y. ailddadansoddwyd yr -ei- fel marciwr lluosog. Rhodd hyn y ffurfiau cyfoes bardd a beirdd. Digwyddodd newidiadau seiniol tebyg ar nifer o enwau Brythoneg a thrwy gydweddiad fe ymestynwyd yr apoffoni newydd i ferfau eraill lle na ddatblygodd apoffoni yn ffonetig. Yn Gymraeg fordern fe ffurfir enwau lluosog drwy olddodiaid (merch a merched), apoffoni (bachgen a bechgyn) yn ogystal â chymysgedd o'r ddau (gair a geiriau). Mae patrymau tebyg yn bodoli yn Llydaweg.

Ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill golygu

Yn Ffrangeg nid yw enwau lluosog yn cael eu marcio rhagor o ganlyniad i golled yr -s olaf. Defnyddiai Hen Saesneg batrymau apoffoni a etifeddasai wrth Broto-Germanaidd ond fe reoleiddiwyd y system gan -s olaf o ganlyniad i'r llifogydd o eiriau Ffrangeg a fenthycwyd yn ystod cyfnod y Normaniaid yn Lloegr. Ceidw Almaeneg apoffoni o hyd ac felly mae enwau yn afreolaidd iawn.

Ieithoedd eraill y byd golygu

Yn y rhan fwyaf o ieithoedd De Orllewin Asia nid yw enwau yn cael eu marcio yn ôl rhif. Credir taw nodwedd awyrol yw hyn gan fod ieithoedd nad sy'n perthyn i'w gilydd yn rhannu'r nodwedd hon (er enghraifft Japaneg a Tsieineeg). Yn Indoneseg, dyblir yr enw i ffurfio'r lluosog, er enghraifft buku yw llyfr, a buku-buku yw llyfrau.

Gweler hefyd golygu