Rhodri ab Owain Gwynedd

tywysog yng Ngwynedd

Roedd Rhodri ab Owain Gwynedd (1135(?)-1195) yn dywysog ar ran o Gwynedd rhwng 1175 a 1195.

Rhodri ab Owain Gwynedd
Ganwydc. 1135 Edit this on Wikidata
Bu farw1195 Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn, pendefig Edit this on Wikidata
Swyddtywysog Edit this on Wikidata
TadOwain Gwynedd Edit this on Wikidata
MamCristin ferch Gronw Edit this on Wikidata
PriodGwenllian ferch Rhys, NN of Man Edit this on Wikidata
PlantTomas ap Rhodri ab Owain Gwynedd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ar farwolaeth Owain Gwynedd yn 1170 aeth yn ymraefael rhwng ei feibion am y deyrnas. Gorchfygodd Rhodri a'r frawd Dafydd ab Owain Gwynedd, meibion Owain o'i wraig Cristin ferch Goronwy, eu hanner brawd Hywel ab Owain Gwynedd ym mrwydr Pentraeth yr un flwyddyn, gan ladd Hywel. Gyrrwyd brawd arall, Maelgwn ar ffo i Iwerddon yn 1173. Yn fuan wedyn bu cweryl rhwng y ddau frawd, a charcharwyd Rhodri gan Dafydd.

Erbyn 1175 yr oedd Rhodri wedi llwyddo i ddianc a gallodd ymosod ar ei frawd a'i yrru o'r rhan o Wynedd i'r gorllewin o Afon Conwy. Cadwodd Dafydd ei afael ar y rhan o Wynedd i'r dwyrain o Afon Conwy.

Erbyn 1188 yr oedd nai Rhodri a Dafydd, Llywelyn ap Iorwerth, er ei fod yn dal yn ieuanc, yn dechrau herio ei ddau ewythr gyda chymorth Gruffudd a Maredydd ap Cynan, meibion Cynan ab Owain Gwynedd. Collodd Rhodri Ynys Môn iddynt yn 1190. Gwnaeth Rhodri gynghrair gyda Reginald, brenin Ynys Manaw a phriododd ferch Reginald. Yn 1193, gyda chymorth milwyr o Ynys Manaw, gallodd ail-ennill Môn am gyfnod, ond gyrrodd Gruffydd a Maredydd ef o'r ynys eto cyn diwedd y flwyddyn. Bu farw yn 1195.

Roedd gan Rhodri un mab, Tomos ap Rhodri ab Owain Gwynedd. Roedd Syr John Wynn o Wydir ymhlith ei ddisgynyddion.

O'i flaen :
Owain Gwynedd
Tywysog Gwynedd (rhan) Olynydd :
Llywelyn Fawr