Rhos (Dyfed)

cantref yng Nghymru

Roedd cantref Rhos yn un o saith gantref teyrnas Dyfed. Gorwedd ei diriogaeth yng ngorllewin Sir Benfro heddiw.

Map o Sir Benfro yn dangos lleoliad cantref Rhos
Gweler hefyd Rhos.

Roedd Rhos yn gantref amaethyddol a oedd yn gorwedd ar Fae Sain Ffraid rhwng afon Cleddau Wen a Hafan Milffwrdd. Felly mae'n benrhyn gyda dŵr ar ddwy ochr (yn o ystyron rhos yn nhafodiaith Dyfed yw 'pentir' neu 'penrhyn'). Ffiniai i'r gogledd â chantref Pebidiog ac i'r dwyrain â chantref Daugleddau.

Rhywbryd yn yr Oesoedd Canol, rhanwyd y cantref yn ddau gwmwd, sef :

Ei ganolfan eglwysig bwysicaf oedd eglwys Ismel Sant yn Llanisan-yn-Rhos, ar lan Milffwrdd, un o saith esgobdai Dyfed. Ymhlith ei ganolfannau lleyg pwysicaf yr oedd Castell Gwalchmai a Hwlffordd. Ychydig iawn a wyddys am ei hanes cynnar. Fel y rhan fwyaf o'r rhan hon o Sir Benfro, gwelodd y cantref newid mawr gyda dyfodiad y Normaniaid ar ddiwedd yr 11g. Yn ogystal â'r ffaith fod yr arglwyddi estron newydd yn rheoli'r wlad, cafwyd mewnlifiad sylweddol o Ffleminiaid ar ddechrau'r 12g, fel rhan o bolisi Harri I o Loegr o goloneiddio Cymru. Mewn canlyniad bu trai mawr ar yr iaith Gymraeg a daeth Rhos, dan y llurguniad Saesneg o'i enw, Roose, yn galon yr hyn a elwir weithiau yn "Lloegr Fach yng Nghymru." Er bod tystiolaeth fod llawer mwy o Fflemeg na Saesneg yn cael ei siarad yno ar un adeg, daeth y Saesneg yn brif, os nad unig iaith yr ardal gyda threiglad amser.

Gyda Deddfau Uno 1536, creuwyd cantref newydd (hundred), seiliedig ar yr un Cymreig cynharaf. Hwlffordd oedd canolfan weinyddol yr uned newydd.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  • J. E. Lloyd, A history of Wales from the earliest times to the English conquest (Longmans, 1937)