Rhosmeirch

pentref ar Ynys Môn

Pentrefan yng nghanol Môn ydyw Rhos-y-Meirch, neu Rhosmeirch ("Cymorth – Sain" ynganiad ), heb fod yn bell o'r dref farchnad Llangefni. Mae ystad wledig Tregaian [1] wedi/yn meddu sawl un o eiddo'r pentref. Y B5111 yw'r brif ffordd sy'n mynd drwy'r pentref, ond mae sawl ffordd unigol yn mynd yng nghefnau'r pentref. Un enghraifft penodol o lon gefn sy'n eithaf cyfarwydd i sawl un o'r pentref yw 'lôn Bacsia'; daw' tarddiad yr enw hynafol yma ar ôl y math o esgid y tuedda' geffylau eu gwisgo er mwyn cael gafael gwell ar lonydd / llechweddau mewn rhewlifau. Wedi'i lleoli ar un o lonydd cefn y pentref, ac yn eithaf canolog i'r pentref,mae adeilad yr ysgol, sydd wedi cau ers sawl blwyddyn, fodd bynnag, mae'r adeilad bellach yn cael ei ddefnyddio fel Canolfan Gymdeithasol. Ynddi, fe gynheilir ambell i ddigwyddiad megis cyngherddau a nosweithiau cymdeithasol. Yno hefyd, y tuedda'r gangen leol o Ferched y Wawr gyfarfod. Arferai Clwb Ieuenctid gael ei gynnal yn y pentref yn y ganolfan gymdeithasol. Capel Ebenezer, ger 'lôn Bacsia' yw'r unig addoldy yma, er y ceir safle eglwys ganrifoedd oed - Capel Heilyn - yn y pentref (nid oes olion ar ôl). Ar un adeg, arferai'r pentref fod â sawl ffynon ddŵr, ble, mae'n debyg y byddai'r pentrefwyr yn cael eu dŵr yfed. Erbyn heddiw, mae olion y rhan fwyaf o'r ffynhonnau i'w gweld, megis ffynnon Clwch a ffynnon Trefollwyn. Gerllaw y pentref, mae coedwig sy'n eich harwain tuag at Llyn Cefni[2].

Rhosmeirch
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2742°N 4.3106°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map
Capel a thŷ capel Ebenezer, Rhosmeirch
Canol y pentref.

Enwogion golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Tregaian" (yn cy), Wicipedia, 2021-05-06, https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Tregaian&oldid=10916299, adalwyd 2021-11-04
  2. "Llyn Cefni".
  3. "'Y llais pur, bendigedig': Leah Owen wedi marw'n 70 oed". Newyddion S4C. Cyrchwyd 6 Ionawr 2024.


  Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato