Rhwydwaith Haqqani

Mudiad gwrthryfelgar a leolir yn nwyrain Affganistan a gogledd-orllewin Pacistan yw rhwydwaith Haqqani a fu'n ymladd yn Rhyfeloedd Affganistan ers tua 1980. Ar hyn o bryd, mae'n brwydro yn erbyn lluoedd NATO a llywodraeth Affganistan.

Rhwydwaith Haqqani
Cyfranogwr yn Rhyfeloedd Affganistan a Rhyfel Wasiristan
Yn weithredolc. 1980[1] – presennol
IdiolegDeobandi (ffurf ar ffwndamentaliaeth Islamaidd)
GrwpiauZadran (llwyth Pashtun)[2][3][4][5]
ArweinwyrJalaluddin Haqqani (o bosib yn farw)
Sirajuddin Haqqani
Maes gweithredolAffganistan, Pacistan
Cryfder4,000–15,000[1][6][7]
Cynghreiriaid Taliban[1][8][9][10]
al-Qaeda
GwrthwynebwyrGwrthwynebwyr

Affganistan Gweriniaeth Islamaidd Affganistan[11]Nodyn:Country data NATO NATO[12]

Rhyfeloedd a brwydrauRhyfel yr Undeb Sofietaidd yn Affganistan
Rhyfel Cartref Affganistan (1989–92)
Rhyfel Cartref Affganistan (1992–96)
Rhyfel Cartref Affganistan (1996–2001)
Rhyfel Affganistan (2001–21)
Gwrthryfel y Taleban
Ymgyrch Zarb-e-Azb

Sefydlwyd y grŵp gan Jalaluddin Haqqani, a frwydrodd yn erbyn y comiwnyddion a'r Sofietiaid yn y 1980au. Cafodd ei addysgu yn ysgolion Islamaidd eithafol yn Affganistan a Phacistan. Yn ystod y rhyfel, magodd cysylltiadau agos rhwng Haqqani a'r ISI a'r CIA a hefyd arianwyr tramor megis Osama bin Laden.[13] Am gyfnod roedd Haqqani wedi cynghreirio â'r mujahideen, a fe wasanaethodd yn weinidog cyfiawnder yn y cabinet dros dro. Ym 1995, fe ddatganodd ei fod yn deyrngar i'r Taliban. Ymunodd milwyr y rhwydwaith â'r Taliban wrth gipio Kabul ym 1996. Penodwyd Haqqani yn weinidog dros faterion llwythol, a daliai'r swydd honno nes goresgyniad Affganistan yn 2001 a chwymp llywodraeth y Taliban. Ers 2001, mae'r rhwydwaith wedi cynorthwyo gwrthryfel y Taleban. Ildiodd Jalaluddin yr awenau i'w fab Sirajuddin. Rhoddai bai ar rwydwaith Haqqani am sawl ymosodiad terfysgol, bradlofruddiaeth, a chyrchoedd ar y brifddinas.

Cyhuddir elfennau o awdurdodau Pacistan, yn enwedig yr ISI, o gefnogi'r rhwydwaith.[14][15]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Rassler, Don; Vahid Brown (14 Gorffennaf 2011). "The Haqqani Nexus and the Evolution of al-Qaida" (PDF). Harmony Program (Combating Terrorism Center). http://www.ctc.usma.edu/wp-content/uploads/2011/07/CTC-Haqqani-Report_Rassler-Brown-Final_Web.pdf. Adalwyd 2 Awst 2011.
  2. http://www.rediff.com/news/slide-show/slide-show-1-haqqani-network-isis-friend-americas-foe/20110518.htm#4"The Haqqanis hail from the Pashtun Zadran tribe"
  3. "Questions Raised About Haqqani Network Ties with Pakistan". International Relations and Security Network. 26 Medi 2011. Cyrchwyd 15 Hydref 2011.
  4. Gopal, Anand; Mansur Khan Mahsud; Brian Fishman (3 Mehefin 2010). "Inside the Haqqani network". Foreign Policy. The Slate Group, LLC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-11-16. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2011.
  5. Mir, Amir (15 Hydref 2011). "Haqqanis sidestep US terror list". Asia Times Online. Asia Times Online. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 28 Tachwedd 2011.
  6. "Sirajuddin Haqqani dares US to attack N Waziristan". The Express Tribune. Cyrchwyd 20 Mai 2015.
  7. Perlez, Jane (14 Rhagfyr 2009). "Rebuffing U.S., Pakistan Balks at Crackdown". The New York Times.
  8. NATO: 200 Afghan militants killed, captured Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback. gan Deb Riechmann. 24 Hydref 2011.
  9. Gopal, Anand (1 Mehefin 2009). "The most deadly US foe in Afghanistan". The Christian Science Monitor. Cyrchwyd 17 Awst 2012.
  10. Syed Salaam Shahzaddate=5 Ma 2004. "Through the eyes of the Taliban". Asia Times. Adalwyd 10 Chwefror 2009.
  11. "BBC News - Rare look at Afghan National Army's Taliban fight". Bbc.com. Cyrchwyd 2014-08-18.
  12. "Taliban attack NATO base in Afghanistan - Central & South Asia". Al Jazeera English. Cyrchwyd 2014-08-18.
  13. (Saesneg) Haqqani network. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Mehefin 2017.
  14. (Saesneg) The Haqqani Network, Institute for the Study of War. Adalwyd ar 4 Mehefin 2017.
  15. (Saesneg) Haqqanis: Growth of a militant network, BBC (14 Medi 2011). Adalwyd 4 Mehefin 2017.

Darllen pellach golygu

Dolenni allanol golygu