Rhyfel Cartref Rwsia

Rhyfel cartref rhwng sawl carfan yng nghyn Rwsia Imperialaidd oedd Rhyfel Cartref Rwsia (1917-1922).

Gwŷr meirch y Fyddin Goch yn dod i mewn i Odessa, Chwefror 1920.

Dechreuodd yn dilyn Chwyldro Hydref pan gipiodd y Bolsiefigiaid comiwnyddol bŵer yn St Petersburg ar 7 Tachwedd 1917 (Calendr Gregori) gan ddod â'r Llywodraeth Dros Dro i ben. Rhyfel rhwng y Fyddin Goch - y Bolsiefigiaid a'i gynghreiriaid, a'r Fyddin Gwyn - cymysgedd o gefnogwyr y llywodraeth dros dro, y cyn Tsar ac adweithwyr, oedd yn bennaf. Roedd nifer o luoedd gwahanol genhedloedd a oedd yn ymladd dros annibyniaeth, carfanau gwerinol (a enwir y Byddinoedd Gwyrddion gan rai) a Byddin Ddu anarchwyr Wcrain yn brwydro yn ogystal. Gan fod Rwsia hyd at 1918 (Cytundeb Brest-Litovsk) yn rhan o'r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd lluoedd y Pwerau Canolig (gan gynnwys yr Almaen, Awstria-Hwngari ac Ymerodraeth yr Otomaniaid) hefyd yn rhan o'r rhyfel ar y dechrau, ac yn hwyrach daeth amhariad y Gynghreiriaid â byddinoedd y Deyrnas Unedig, Ffrainc, yr Unol Daleithiau a Siapan i'r ffrae.

Y canlyniad oedd buddugoliaeth gan y Blaid Bolsiefic a dechreuad yr Undeb Sofietaidd yn ogystal â genedigaeth sawl wlad newydd annibynnol yng Ngorllewin Ewrop.