Rhyfel Rwsia ac Wcráin

rhyfel a gychwynnodd yn 2014

Rhyfel cyfredol rhwng Ffederasiwn Rwsia (ynghyd â lluoedd o ymwahanwyr o blaid Rwsia) ac Wcráin yw Rhyfel Rwsia ac Wcráin.[1] Dechreuodd y gwrthdaro yn Chwefror 2014 yn sgil y Chwyldro Urddas yn Wcráin, a chanolbwyntiodd i ddechrau ar statws Penrhyn y Crimea a rhanbarth y Donbas, tiriogaethau a gydnabyddir yn rhyngwladol fel rhan o Wcráin. Ym Mawrth 2014 cyfeddiannwyd y Crimea gan Rwsia, ac yn Ebrill taniwyd rhyfel yn y Donbas rhwng lluoedd Wcráin a'r ymwahanwyr a sefydlodd weriniaethau gyda chefnogaeth Rwsia yn Donetsk a Luhansk. Yn wyth mlynedd gyntaf y rhyfel bu hefyd gwrthdrawiadau rhwng llongau Wcráin a Rwsia yn y Môr Du, seiber-ryfela, a thensiynau gwleidyddol rhwng y ddwy wlad. Yn niwedd 2021 dechreuodd Rwsia gronni ei lluoedd milwrol ar hyd y ffin ag Wcráin, ac ehangodd y rhyfel yn sylweddol pan lansiodd Rwsia goresgyniad llawn yn nhiriogaeth Wcráin ar 24 Chwefror 2022.

Rhyfel Rwsia ac Wcráin
Enghraifft o'r canlynolrhyfel Edit this on Wikidata
Dyddiad21 g Edit this on Wikidata
GwladBaner Wcráin Wcráin
Baner Rwsia Rwsia
Rhan orhyfeloedd yng nghyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd, yr Ail Ryfel Oer Edit this on Wikidata
Dechreuwyd20 Chwefror 2014 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gancefndir hanesyddol Wcrain cyn 2014, Euromaidan Edit this on Wikidata
LleoliadMôr Azov, Oblast Rostov, Wcráin, Crimea Edit this on Wikidata
GwladwriaethWcráin, Rwsia, Belarws, Gweriniaeth Pobl Donetsk, Gweriniaeth Pobl Luhansk Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn y chwyldro a sbardunwyd gan brotestiadau'r Euromaidan, cafwyd gwared â Viktor Yanukovich, Arlywydd Wcráin a oedd yn ffafriol i Rwsia, yn Chwefror 2014, ac o'r herwydd ffrwydrodd aflonyddwch o blaid Rwsia yn nwyrain a de Wcráin—rhanbarthau sydd yn gartref i nifer o Rwsiaid ethnig ac Wcreiniaid Rwseg eu hiaith. Yn y Crimea, a oedd ar y pryd yn weriniaeth ymreolaethol dan sofraniaeth Wcráin, cipiwyd safleoedd ac isadeiledd strategol, gan gynnwys y senedd, gan filwyr Rwsiaidd (heb wisgo'u harwyddluniau). Trefnodd Rwsia refferendwm dadleuol, a phleidleisiodd y mwyafrif o etholwyr dros ymuno â Ffederasiwn Rwsia dan statws deiliad ffederal; arweiniodd hyn at gyfeddiannu'r Crimea yn rhan o diriogaeth Rwsia. Yn Ebrill 2014, gwaethygodd protestiadau a therfysgoedd o blaid Rwsia yn y Donbas yn rhyfel rhwng Lluoedd Arfog Wcráin ac ymwahanwyr yng ngweriniaethau hunanddatganedig Donetsk a Luhansk.

Yn Awst 2014, croesodd cerbydau milwrol, heb eu marcio, y ffin rhwng Rwsia a Gweriniaeth Donetsk.[2] Dechreuodd rhyfel heb ei ddatgan rhwng Wcráin ar yr un ochr, a'r ymwahanwyr gyda chymorth milwrol Rwsia ar y llall, er i Rwsia geisio cuddio ei rhan yn y gwrthdaro. Tawelodd yr ymladd wrth i'r ddwy ochr adeiladu ffosydd a daeardai, gan droi'n rhyfel sefydlog neu wrthdaro clo, gyda sawl ymdrech aflwyddiannus i sicrhau cadoediad. Yn 2015, llofnodwyd cytundebau Minsk II gan Rwsia ac Wcráin, ond byddai sawl anghydfod yn atal y cytundebau rhag cael eu gweithredu'n llawn. Erbyn 2019, diffiniwyd 7% o diriogaeth Wcráin gan y llywodraeth fel tiriogaethau a feddiannwyd dros dro".

Yn 2021 a dechrau 2022, bu Rwsia yn cronni ei lluoedd ac adnoddau milwrol ar raddfa eang ar hyd y ffin ag Wcráin. Cyhuddwyd Rwsia gan NATO o baratoi am oresgyniad. Gwadwyd hynny gan Vladimir Putin, Arlywydd Rwsia, a ddisgrifiodd ehangu aelodaeth NATO fel bygythiad i'w wlad, a mynnodd wahardd Wcráin rhag ymuno â'r cynghrair milwrol byth. Mynegodd Putin hefyd farnau iredentaidd, gan gwestiynau hawl Wcráin i fodoli ac honni ar gam i'r wlad honno gael ei sefydlu gan Vladimir Lenin. Ar 21 Chwefror 2022, cydnabu Rwsia yn swyddogol y ddwy wladwriaeth hunanddatganedig yn y Donbas, ac anfonodd filwyr yn agored i'r tiriogaethau hynny. Dridiau yn ddiweddarach, lansiodd Rwsia oresgyniad yn Wcráin. Condemniwyd ymgyrchoedd milwrol Rwsia yn Wcráin gan nifer o wledydd eraill a sawl sefydliad rhyngwladol, a chyhuddwyd Rwsia o droseddu yn erbyn y gyfraith ryngwladol a threisio sofraniaeth Wcráin. Mewn ymateb i'r rhyfel, mae nifer o wledydd wedi datgan sancsiynau economaidd yn erbyn llywodraeth Rwsia ac unigolion a chwmnïau o'r wlad,[3] yn enwedig wedi'r goresgyniad yn 2022.

Hanes golygu

Cyfeddiannaeth y Crimea (2014) golygu

Rhyfel y Donbas (2014—15) golygu

 
Dirprwy Brif Weinidog Wcreineg Olha Stefanishyna gydag ysgrifennydd cyffredinol NATO Jens Stoltenberg mewn cynhadledd ar 10 Ionawr 2022 ynghylch goresgyniad Rwsia posibl

Goresgyniad Rwseg o'r Wcráin yn 2022 golygu

 
Map animeiddiedig o ymosodiad Rwsia ar yr Wcrain (cliciwch i chwarae animeiddiad)

Cyfeiriadau golygu

  1. Snyder, Timothy (2018). The Road to Unfreedom: Russia, Europe, America. New York: Tim Duggan Books. t. 197. ISBN 978-0-525-57447-7. Almost everyone lost the Russo-Ukrainian war: Russia, Ukraine, the EU, the United States. The only winner was China.
  2. Aid convoy stops short of border as Russian military vehicles enter Ukraine: Armoured personnel carriers and support vehicles cross the border, while the 280-truck convoy comes to a halt separately, Shaun Walker, The Guardian, 15 August 2014
  3. Overland, Indra; Fjaertoft, Daniel (2015). "Financial Sanctions Impact Russian Oil, Equipment Export Ban's Effects Limited". Oil and Gas Journal 113 (8): 66–72. https://www.researchgate.net/publication/281776234.

Dolenni allanol golygu