Rhyfel Somalia (2006–09)

Gwrthdaro arfog cyfredol sy'n amgylchynu'r brwydro dros reolaeth Somalia rhwng lluoedd y Llywodraeth Ffederal Drawsnewidol (TFG), sydd yn bennaf o Ethiopia a Somalia, ac Undeb y Llysoedd Islamaidd (ICU), grŵp fantell sy'n adlynu wrth ideoleg Islamiaeth, a milisiâu cysylltiedig oedd Rhyfel Somalia (2006–2009). Dechreuodd y rhyfel yn swyddogol rhywbryd cyn 20 Gorffennaf, 2006 pan oresgynnodd lluoedd Ethiopia Somalia er mwyn cynnal y TFG yn Baydhabo (Baidoa). Ar ôl hynny datganodd arweinydd yr ICU, Sheik Hassan Dahir Aweys, "mae Somalia mewn sefyllfa rhyfel, a dylai pob Somaliad gymryd rhan yn y frwydr hon yn erbyn Ethiopia". Ar 24 Rhagfyr, datganodd Ethiopia y bydd yn brwydro'n weithredol yn erbyn yr ICU.[12]

Rhyfel Somalia (2006–09)
Rhan o Ryfel Cartref Somalia a'r Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth

Sefyllfa'r rhyfel yn Somalia, 28 Awst 2008
Dyddiad 20 Rhagfyr 2006–30 Ionawr 2009
Lleoliad De Somalia
Canlyniad Gwrthdaro cyfredol
  • Dymchweliad llywodraeth yr ICU ym Mogadishu
  • Y Llywodraeth Ffederal Drawsnewidol wedi llwyddo sefydlu rheolaeth dros Mogadishu a De Somalia
  • Lluoedd Ethiopia wedi'u lleoli yn Ne Somalia
  • Islamyddion al-Shabaab yn gwrthryfela
  • Brwydro rhwng claniau yn parháu i raddau
Cydryfelwyr
Undeb y Llysoedd Islamaidd (ICU)

Hizbul Shabaab
al-Itihaad al-Islamiya

Honedig:
Mujahideen (tramorwyr)
al-Qaeda
Baner Eritrea Eritrea

Baner Ethiopia Ethiopia
Baner Somalia Somalia :

Undeb Affricanaidd AMISOM:

Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America (trawiadau o'r awyr a phatrolau morol)
Baner Cenia Cenia (gwrthdrawiadau ar y ffîn diriogaethol)

Arweinwyr
Yusuf Mohammed Siad

Hasan Hersi
Aden Hashi Farah (wedi'i ladd)
Mukhtar Robow
Hassan Aweys

Ethiopia Gabre Heard

Somalia Abdullahi Yusuf Ahmed
Somalia Mohamed Omar Habeb
Somalia Abdi Hasan Awale
Mohamud Muse Hersi
Unol Daleithiau America Patrick M. Walsh

Nerth
8000 o filwyr yr ICU

Lluoedd honedig:[1]
3000, 4000 neu 8000 o dramorwyr[2][3][4]
2000 o Eritreaid[5]

Somalia:
Ethiopia: 3000-4000[6]
AMISOM: 1600 (ers Mawrth; nod o 8000)
Anafusion a cholledion
8000 wedi'u lladd[7]
5000 wedi'u hanafu (yn ôl Ethiopia)[8][9]
Ethiopia:
~1170 wedi'u lladd
Somalia (TFG):
500 wedi'u lladd
Wganda:
8 wedi'u lladd
Cenia:
6 wedi'u lladd
Bwrwndi:
1 wedi'i ladd
Anafedigion a cholledigion sifiliaid: 9474 wedi'u lladd[10]
1.9 miliwn wedi'u dadleoli[11]

Amddiffyniad Ethiopia golygu

Dywedodd Prif Weinidog Ethiopia, Meles Zenawi, taw bygythiad uniongyrchol i'w ffiniau oedd y rheswm dros ran ei wlad yn y rhyfel. "Cafodd lluoedd amddiffyn Ethiopia eu gorfodi i ymuno â'r rhyfel er mwyn amddiffyn sofraniaeth y genedl", dywedodd. "Nid ydym yn ceisio sefydlu llywodraeth yn Somalia, ac nid ydym ychwaith yn bwriadu ymyrryd ym materion mewnol Somalia. Yr amodau sydd wedi ein gorfodi [i gymryd rhan yn y rhyfel]."[13]

Cymryd ochrau golygu

Bu'r ICU, oedd â rheolaeth dros ardaloedd arfordirol De Somalia, yn ymladd yn erbyn lluoedd TFG Somalia, a llywodraethau ymreolaethol rhanbarthol Puntland a Galmudug, oedd â chefnogaeth lluoedd Ethiopia. Dechreuodd ymladd dwys ar 20 Rhagfyr gyda Brwydr Baydhabo, pan fu ddarfod y terfyn amser un wythnos cafodd ei osod ar Ethiopia gan yr ICU ar 12 Rhagfyr i dynnu holl luoedd Ethiopia allan o'r wlad.[14] Ond gwrthododd Ethiopia i adael ei safleoedd o amgylch prifddinas dros dro y TFG, Baydhabo. Ar 29 Rhagfyr, yn dilyn nifer o frwydrau llwyddiannus, fe aeth lluoedd y TFG ac Ethiopia i fewn i Mogadishu heb fawr o wrthsafiad. Dywedodd y CU bod nifer o wledydd Arabaidd yn cynnwys Libya a'r Aifft yn cefnogi'r ICU trwy Eritrea. Ychydig wedyn, datganwyd fod nifer fach o luoedd arbennig Americanaidd wedi cynorthwyo lluoedd Ethiopia a'r TFG yn dilyn cwymp ac enciliad yr ICU trwy ddarparu cyngor milwrol a dilyn unigolion a ddrwgdybir o fod yn filwyr al-Qaeda. Roedd cefnogaeth yr UD at y TFG a chefnogaeth Arabaidd at yr ICU yn agweddau o'r gwrthdaro sy'n gwyro o gymhelliad canolog y rhyfel rhwng lluoedd cynghreiriol Ethiopia a'r TFG a lluoedd cynghreiriol yr ICU ac Eritrea.

2007 ymlaen golygu

Yn Ionawr 2007, dywedodd Ethiopia y bydd yn encilio'i lluoedd "o fewn ychydig o wythnosau"[15] ond mae'r TFG, yr UD, a swyddogion y CU yn gwrthwynebu hyn gan y bydd yn creu "gwactod diogelwch", tra bo'r ICU yn mynnu enciliad di-oed gan Ethiopia.

Fe drosgwlyddwyd datganiadau rhyfel a saethwyd bwledi o'r ddwy ochr ar nifer o achosion. Mae gwledydd Dwyrain Affrica a sylwedyddion rhyngwladol yn ofni y bydd gweithredoedd ymosodol Ethiopia yn arwain at ryfel rhanbarthol a fydd yn cynnwys Eritrea, gelyn hirdymor Ethiopia, a honnir gan Ethiopia o fod yn gefnogol i'r ICU.[16]

Daeth y rhyfel i ben erbyn Ionawr 2009, ar ôl i holl filwyr Ethiopia gadael Somalia.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Fighting erupts in northern Somalia as peace talks falter, says Islamic official. International Herald Tribune. Associated Press (6 Tachwedd, 2006). Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.
  2. (Saesneg) Somali prime minister says government is surrounded. International Herald Tribune. Associated Press (11 Rhagfyr, 2006). Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.
  3. (Saesneg) Yare, Hassan (13 Rhagfyr, 2006). Troops dig in as Somalia war fears grow. ReliefWeb. Reuters. Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.
  4. (Saesneg) Mohamed, Guled (25 Rhagfyr, 2006). Ethiopian jets strike Somali airports. AlertNet. Reuters. Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.
  5. (Saesneg) Ethiopia warns Somali Islamists. BBC (22 Rhagfyr, 2006). Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.
  6. (Saesneg) Islamic threats follow Ethiopian troop advancement in Somalia. USA Today. Associated Press (26 Rhagfyr ,2006). Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.
  7. (Saesneg) Ignatius, David (13 Mai, 2007). Ethiopia's Iraq. Washington Post. Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.
  8. (Saesneg) Ethiopian army accomplished 75% of mission in Somalia - Zenawi. Sudan Tribune (29 Rhagfyr, 2006). Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.
  9. (Saesneg) Ethiopian PM says Somalia's Islamists have suffered thousands of casualties. International Herald Tribune. Associated Press (26 Rhagfyr 2006). Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.
  10. (Saesneg) Sheikh, Abdi (16 Medi, 2008). Nearly 9,500 Somalis die in insurgency-group. ReliefWeb. Reuters. Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.
  11. (Saesneg) Sheikh, Abdi (26 Mehefin, 2008). Somalia conflict kills more than 2,100 this year. International Herald Tribune. Reuters. Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.
  12. (Saesneg) Ethiopian prime minister says his country is at war with Islamists in Somalia. International Herald Tribune. Associated Press (24 Rhagfyr, 2006). Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.
  13. (Saesneg) Gettleman, Jeffrey (25 Rhagfyr, 2006). Ethiopia launches open war in Somalia. The San Diego Union-Tribune. New York Times News Service. Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.
  14. (Saesneg) Abdinur, Mustafa Haji (12 Rhagfyr, 2006). Somali Islamists give Ethiopia one-week deadline to withdraw troops. Agence France Presse. ReliefWeb. Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.
  15. (Saesneg) Rice, Xan (3 Ionawr, 2007). Ethiopian troops to leave Somalia 'within weeks'. The Guardian. Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.
  16. (Saesneg) Somalia Conflict Risk Alert. International Crisis Group (27 Tachwedd, 2006). Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.