Rhyfel cyntaf yr Iddewon a Rhufain

Rhyfel cyntaf yr Iddewon a Rhufain neu'r Gwrthryfel Iddewig Mawr yw'r enw a ddefnyddir am yr ymladd rhwng yr Iddewon a lluoedd yr Ymerodraeth Rufeinig yn Judaea a Galilea rhwng 66 a 73 O.C.. Y ffynhonnell bwysicaf ar gyfer y rhyfel yw gawith Flavius Josephus, Rhyfeloedd yr Iddewon.

Bwa Titus yn Rhufain, yn dathlu ei fuddugoliaeth tros yr Iddewon. Mae'r olyfga yma yn dangos ysbail o'r Deml yn Jerusalem.

Wedi cyfnod o hanner-annibyniaeth fel teyrnas yn ddibynnol ar Rufain dan Herod Fawr, daeth Judaea yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig yn 6 O.C.. Rheolid y dalaith gan raglaw (procurator) Rhufeinig. Dros y blynyddoedd, bu llawr o dyndra rhwng yr Iddewon a Rhufqain, yn enwedig pan geisiau Rhufain benodi Archoffeiriad newydd, neu pan arddangosid delwau, oedd yn groes i gredoau Iddewiaeth, gan y fyddin Rhufeinig.

Dechreuodd y rhyfel pan gymerodd y rhaglaw Gessius Florus, ar gais yr ymerawdwr Nero, swm mawr o arian o drysorfa Teml Jerusalem. Yn 66, dechreuodd gwrthryfel yn Caesarea, wedi i Roegwyr lleol ymosod at synagog. Lledaenodd yr ymladd, a chymerodd carfan y Selotiaid feddiant o ddinas Jeriwsalem, gyda'r Sicarii yn cipio caer Masada. Gorchfygwyd Gessius Florus wrth iddo geisio encilio o Jerusalem. Gyrrodd llywodraethwr Syria fwy o filwyr, ond gorchfygwyd hwy hefyd.

Gyrroedd yr ymerawdwr Nero fyddin o 60,000 dan Vespasian i roi diwedd ar y gwrthryfel. Erbyn 68, roedd Vepasian wedi concro Galilea, ac roedd yr Iddewon wedi ymgasglu yn Jerusalem. Wedi marwolaeth Nero yn 68, cyfarchwyd Vespasian fel ymerawdwr gan ei filwyr. Gadawodd y gwaith o ddelio a'r gwrthryfel i'w fab, Titus.

Gwarchaeodd Titus a'i filwyr ar Jeriwsalem, ac wedi ymladd caled, concrodd y ddinas ym mis Awst 70. Llosgwyd y deml, a lladdwyd tua 100,000 o'r amddiffynwyr. Parhaodd y rhyfel nes i'r Rhufeiniaid gipio caer Masada yn 73.