Rhyfel y Falklands

Ymladdwyd Rhyfel y Falklands (a adnabyddir hefyd fel Rhyfel y Malvinas) ym 1982 rhwng y Deyrnas Unedig a'r Ariannin.

Rhyfel y Falklands
Map o Gefnfor yr Iwerydd, gan ddangos y milltiroedd o'r Malvinas i feysydd awyr perthnasol.
Mathrhyfel Edit this on Wikidata
Nifer a laddwyd891 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAnghydfod sofraniaeth Ynysoedd y Malvinas Edit this on Wikidata
LleoliadYnysoedd y Malvinas, De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.75°S 59°W Edit this on Wikidata
Map
Cyfnod1982 Edit this on Wikidata

Mae Ynysoedd y Falklands (Sbaeneg: Islas Malvinas, 'Ynysoedd y Malvinas') yn Ne Cefnfor yr Iwerydd, rhyw 300 milltir o arfordir yr Ariannin. Maent yn cynnwys dwy brif ynys a 776 o rai llai. Mae hanes cymhleth wedi bod i'r ynysoedd ers iddynt gael eu 'darganfod', gyda Ffrainc, Sbaen a'r DU yn hawlio perchnogaeth. Pan gafodd yr Ariannin ei hannibyniaeth yn 1816 gwnaeth hithau'r un peth. Cymerodd Prydain berchnogaeth o'r ynysoedd trwy rym yn 1833, ond mae'r Ariannin wedi hawlio perchnogaeth yn barhaus ers hynny.

Pennawd enwog gan The Sun ar achlysur suddo'r llong ARA General Belgrano.

Mae poblogaeth o ryw ddwy fil yn byw ar yr ynys.

Ers ei hannibyniaeth hawliai'r Ariannin sofraniaeth ar Ynysoedd y Falklands, ond cafodd yr ynysoedd eu hawlio trwy rym gan Goron Prydain yn gynnar yn 1833 a'u troi'n wladfa Brydeinig. Ar 2 Ebrill, 1982, goresgynnwyd yr ynysoedd gan lywodraeth filwrol asgell dde'r Ariannin. Methiant fu'r ymdrechion gan y Cenhedloedd Unedig a'r Unol Daleithiau i ddatrys y sefyllfa'n heddychlon ac anfonwyd llynges gyda milwyr ac awyrennau gan lywodraeth Margaret Thatcher i ail-gipio'r ynysoedd; "Tasglu'r Falklands" fel y'i gelwid. Ar 25 Ebrill cipiwyd ynysoedd De Georgia yn ôl ac erbyn 14 Mehefin roedd y Malvinas eu hunain yn ôl ym meddiant y Deyrnas Unedig. Collodd 257 Prydeiniwr eu bywydau, 649 o luoedd arfog yr Ariannin, a thri o drigolion yr ynys, gan gynnwys suddo'r llong Sir Galahad gan awyrennau Archentaidd a lladd nifer o Gardiau Cymreig, a suddo'r llong ryfel y General Belgrano gan long danfor Brydeinig gyda cholledion mawr o gonsgriptiaid ifainc.

Roedd Rhyfel y Falklands yn unigryw am fod siaradwyr Cymraeg wedi ymladd yn erbyn ei gilydd; Cymry Cymraeg o Gymru yn erbyn Archentwyr Cymreig y Wladfa. Ricardo Andres Austin oedd yr unig filwr Archentaidd o dras Gymreig i gael ei ladd yn y rhyfel, a hynny ym Mrwydr Goose Green.[1]

Rhan y Cymry yn Rhyfel Ynysoedd Falkland golygu

Roedd y Gwarchodlu Cymreig yn rhan o’r tasglu a anfonwyd i Ynysoedd Falkland. Roedden nhw ar y llong fyddin Sir Galahad pan ymosodwyd arni gan dair awyren A-57 Skyhawk o Lu Awyr yr Ariannin. Lladdwyd 48, y nifer mwyaf i golli eu bywydau yn y fyddin ers yr Ail Ryfel Byd, ac roedd 32 o’r rhain yn aelodau o’r Gwarchodlu Cymreig. Anafwyd hyd at 100 o ddynion a dioddefodd llawer ohonyn nhw losgiadau erchyll. Ym mis Mehefin 1982, ymladdodd Bataliwn 1af y Gwarchodlu Cymreig yn Sapper Hill yn ystod Brwydr Mount Tumbledown. Hwn oedd y rhwystr olaf i’r ymosodiad ar Port Stanley.

Brwydrau golygu

Colledion golygu

  • Y 'Deyrnas Unedig': 258 wedi'u lladd, 777 wedi'u hanafu
  • Yr Ariannin: 649 wedi'u lladd (yn bennaf ar y Belgrano), 1,068 wedi'u hanafu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Craig Duggan (3 Ebrill 2012). 'Mae'r Malvinas yn perthyn i ni'. BBC. Adalwyd ar 8 Ebrill 2012.

Dolennau allanol golygu