Rhygyfarch ap Sulien

ysgolhaig ac esgob Cymreig

Roedd Rhygyfarch ap Sulien (1056? - 1099) (weithiau Ricemarchus neu Ricemarch; weithiau Rhigyfarch mewn ffynonellau Saesneg) yn ysgolhaig ac yn Esgob Tyddewi.

Rhygyfarch ap Sulien
Ganwyd1057 Edit this on Wikidata
Tyddewi Edit this on Wikidata
Bu farw1099 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethoffeiriad, cofiannydd Edit this on Wikidata
TadSulien Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Roedd yn fab i Sulien, a oedd hefyd yn ysgolhaig nodedig, yn Esgob Tyddewi ac yn gysylltiedig â chlas Llanbadarn Fawr. Roedd yn frawd i Ieuan ap Sulien.[1]

Ysgrifennodd Rhygyfarch y llawysgrif Ladin "Sallwyr Rhygyfarch", sy'n cynnwys cyfieithiad o'r Sallwyr Hebraeg a deunydd arall, yn cynnwys penillion gan Rhygyfarch ei hun. Lluniwyd y llawysgrif yn Llanbadarn Fawr tua'r flwyddyn 1079; gwnaethpwyd y llythrennau lliw gan ei frawd Ieuan. Cedwir y llawysgrif yn llyfrgell Coleg y Drindod, Dulyn.[1]

Cyfansoddodd gerdd arall yn galaru oherwydd anrheithiau'r Normaniaid yng Ngheredigion. I Rhygyfarch y priodolir y Vita Davidis (Buchedd Dewi), a gyfansoddwyd tua'r flwyddyn 1094 i amddiffyn annibyniaeth yr esgobaeth oddi wrth Archesgob Caergaint. Dilynodd ei dad fel Esgob Tyddewi yn 1088.[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • D. Simon Evans, Buched Dewi (Caerdydd, 1959). Rhagymadrodd.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 D. Simon Evans, Buched Dewi (Caerdydd, 1959). Rhagymadrodd.