Rhys Cain

arwyddfardd

Roedd Rhys Cain (g. tua 1540 efallai - bu farw 1614) yn fardd ac arwyddfardd Cymreig o ardal Croesoswallt a gymerodd ei enw barddol oddi wrth Afon Cain ym Mechain Is Coed, mae'n debyg. Roedd ei fab Siôn Cain hefyd yn fardd.

Rhys Cain
FfugenwRhys Cain Edit this on Wikidata
Bu farw1614 Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
PlantSion Cain Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Honnir ei fod yn ddisgynnydd i Edwin, frenin Tegeingl. Enw ei dad oedd Rheinallt ap John Wynn, ac yr oedd ei nain o Groesoswallt, lle y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Bedyddiwyd pedwar o'i blant yng Nghroesoswallt: Ann 1579, Dorithie 1587, Roger 1589, ac Elisabeth 1592 ac yno y claddwyd ei wraig, Gwen, 19 Ebrill 1603. Ail briododd i Catrin Dafydd. Roedd Rhys yn ddisgybl barddol i Wiliam Llŷn a gadawodd ei lyfrau a'i roliau iddo yn ei ewyllys yn 1580 dan yr enw "Rice ap Rinald alias Kain" (orgraff Seisnigaidd oedd yr arfer mewn dogfennau swyddogol). Canodd Rhys farwnad iddo ar ddull ymddiddan, fel y gwnaeth Wiliam Llŷn ei hun ar farwolaeth Gruffudd Hiraethog, ei athro yntau.

Roedd yn gydoeswr i'r Esgob William Morgan ac ym 1588 ysgrifennodd gerdd i groesawu'r Beibl newydd. Roedd hefyd yn Arwyddfardd, yn creu cartau achau i deuluoedd cefnog,a chadwodd lyfr clera lle y cadwai gopïau o'i gywyddau achyddol. Dinistrwyd nhw yn nhân Wynnstay yn 1859. Mae casglaid o lawysgrifau o'i waith rhwng 1582 a 1612 wedi goroesi (Peniarth MSS. 68 a 69) a hefyd nifer o farwnadau (Ll.G.C. MS. 433); ceir cyfanswm o 27 o gerdd.[1] Roedd yn gyfaill i Tomos Prys, Dr John Davies (Mallwyd) ac i Robert Vaughan, Hengwrt. Ceir 10 llythyr a sgwennwyd ato rhwng 1592-1612 (Peniarth MS. 327, ac yn llawysgrif 178). Yn y casgliad hwn ceir cyfrif o'i enillion (sef £23 2s. 6ch.) ar ei daith glera. Claddwyd ef yng Nghroesoswallt 10 Mai 1614 a cheir marwnad iddo gan Edward Urien un o'i ddisgyblion barddol. Roedd ei fab Siôn Cain (c. 1575 — c. 1650) hefyd yn fardd.

Llyfryddiaeth golygu

  • (Saesneg) Lake, A. Cynfael. "Rhys Cain (c.1540–1614)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/4337.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  • Y Bywgraffiadur ar-lein ; erthygl gan Evan David Jones, FSA, (1903-87)
  • Alan Llwyd (gol.), Y Flodeugerdd o Epigramau Cynganeddol (Cyhoeddiadau Barddas, 1985).(epigram gan Rhys Cain.)

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y Llyfrgell genedlaethol Archifwyd 2013-05-16 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 04 Chwefror 2013