Rhys Iorwerth

bardd a chyfieithydd

Bardd a phrifardd ydy Rhys Iorwerth (ganwyd 1 Ebrill 1983). Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011[1] a'r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd 2023[2]. Mae'n byw ac yn gweithio yng Nghaernarfon.

Rhys Iorwerth
Ganwyd1 Ebrill 1983 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, cyfieithydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Ganwyd ym Mangor a chafodd ei fagu yng Nghaernarfon a mynychodd Ysgol Syr Hugh Owen.

Wedi gorffen yn yr ysgol symudodd i Gaerdydd gyda'r bwriad o astudio'r Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Newidiodd drywydd gan astudio yn Adran Gymraeg y Brifysgol lle graddiodd gyda BA yn 2004 ac yna derbyniodd ei MA yn 2005. Yn dilyn hynny bu'n gweithio am gyfnod i'r gwasanaeth ymchwil yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Yn ddiweddarach symudodd yn ôl i Gaernarfon gan weithio fel cyfieithydd llawrydd.

Llyfryddiaeth golygu

  • Un Stribedyn Bach (Barddoniaeth - Carreg Gwalch 2014)
  • Abermandraw (Nofel - Gomer 2017)
  • Carthen Denau: Cerddi'r Lle Celf 2019 (Cyhoeddiadau'r Stamp 2019)
  • Cawod Lwch (Barddoniaeth - Carreg Gwalch 2021)

Cyfeiriadau golygu

  1. Rhys Iorwerth yn cipio'r Gadair , BBC Cymru Fyw, 5 Awst 2011. Cyrchwyd ar 30 Gorffennaf 2018.
  2. "Coron Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd i Rhys Iorwerth". Golwg360. 2023-08-07. Cyrchwyd 2023-08-07.

Dolenni allanol golygu