Rhys Parry Jones

Actor o Gymro

Actor awdur o Gymro yw Rhys Parry Jones (ganwyd 18 Chwefror 1960) sydd yn adnabyddus am chwarae rhan Llew yn Pobol y Cwm. Mae Rhys wedi ymddangos mewn penodau o EastEnders, Tracy Beaker, a'r sitcom High Hopes ar BBC Cymru.

Rhys Parry Jones
Ganwyd18 Chwefror 1960 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, actor teledu Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Magwyd Rhys yng Nghrymych, Sir Benfro.[1] Aeth i Ysgol Gyfun Ystalyfera ac astudiodd ddrama yn Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd.[2]

Gyrfa golygu

Roedd yn aelod o Theatr Gorllewin Morgannwg yn gynnar yn ei yrfa.[3] Yn yr 1980au roedd yn un o actorion craidd y gyfres deledu hanes, i blant - Tocyn Diwrnod. Ysgrifennwyd a pherfformiwyd y gyfres gan y cwmni theatr a'i cynhyrchwyd gan HTV Cymru i S4C.[4]

Yn 2007, ymddangosodd yn y ffilm arswyd Gymreig Flick, oedd yn cyd-serennu Faye Dunaway, Hugh O'Conor a Michelle Ryan.

Yn 2008 fe ymddangosodd yn y ffilm Arwyr. Mae'n serennu yn Patagonia gan Marc Evans, drama wedi ei gosod yn Y Wladfa, a ddangoswyd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Seattle ar 10 Mehefin 2010.

Mae'n chwarae rhan Tim Gibson yn ail gyfres y ddrama ddirgelwch 35 Diwrnod.

Bywyd personol golygu

Mae'n briod a'r actores Lydia Lloyd Parry.[5] Mae'n gefnder i Dafydd Iwan a'i frodyr.[6]

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Theatr Bara Caws - Garw (15 Medi 2014).
  2.  Ffrind yn cofio Cymro fu farw ar Fedi 11 (10 Medi 2011). Adalwyd ar 25 Ionawr 2016.
  3. Urddas Cenedl a Theatr, Cylchgrawn bARN, Awst 2006; Adalwyd 2015-12-15
  4. Cofnod Tocyn Diwrnod ar S4/Clic[dolen marw], 3 Mehefin 2012; Adalwyd o y Bydysawd, 2015-12-15
  5.  Sgrin Rhifyn 6, S4C. S4C (2008). Adalwyd ar 25 Ionawr 2016.
  6. Pals pay tribute to 'one of the greats' at farewell service , South Wales Evening Post, 23 Awst 2011. Cyrchwyd ar 30 Awst 2016.