Ribeseya

ardal weinyddol yn Asturias

Tref fechan (84 km2) ac ardal wleidyddol yw Ribeseya (Sbaeneg: Ribadesella) yn Asturies. Mae'n perthyn i ranbarth Comarca Oriente. I'r gogledd mae Môr y Cantabrico, i'r dwyrain mae'n ffinio gyda Llanes, i'r de gyda Cangas de Onis a Parres, ac i'r gorllewin gyda Caravia. Cafodd y dref ei sefydlu gan y Brenin Alfonso X, y Doeth, yn y 13g. Ganrif yn ôl, roedd yn un o borthladdoedd mwyaf pwysig Asturies. Mae 5,779 o bobl yn byw yn y dref a'r pentrefi gwledig sy'n dod o dan yr un cyngor. Ym 1910 roedd bron i 9,000.

Daearyddiaeth golygu

Mofrechu (897m) yw copa uchaf yr ardal, ac mae nifer o fynyddoedd dros 500m, ond mae canol tref Ribeseya o dan 5m. Y Seya (Sb: Sella) yw'r brif afon: o'i ffynhonnell yn y Picos de Europa mae'n llifo 60 km i'r gogledd, gyda nifer o lednentydd sylweddol fel y Ponga, Dobra, Piloña a Gueña.

Mae'r draffordd A-8 yn croesi'r cyngor o'r dwyrain i'r gorllewin ar hyd yr arfordir. Mae hon yn rhan o'r brif lwybr Ewropeaidd E-70 sy'n rhedeg o A Coruña i ddinas Poti yn Georgia. Mae'r N-634 yn rhedeg i'r de, tuag at Arriondas a'r Picos de Europa. Mae lein rheilffordd un-trac yn cario dur a nwyddau eraill yn ogystal â theithwyr. Mae'n rhan o'r lein rhwng Uviéu a Santander.

Hanes golygu

Un o feibion enwocaf y dref yw Agustín Arguelles, a gododd o deulu gwerinol i fod yn un o benseiri Cyfansoddiad Sbaen 1812, ymgais i foderneiddio'r wlad yn fwy o ddemocratiaeth seneddol wrth i Ryfel y Penrhyn ddod i ben. Yn ystod y 19eg ganrif roedd y porthladd yn fan ymfudo i gannoedd o filoedd a groesai'r Iwerydd i chwilio am fywyd gwell.

Diwylliant golygu

Ar gyrion y dref saif Ogof Tito Bustillo, cadwyn o ogofau a grewyd gan lif yr afon drwy'r galchfaen.. Yma ym 1968 y daethpwyd o hyd i luniau wedi eu peintio rhwng 8,000 a 17,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae rhai ohonynt i'w gweld wrth ymweld â'r ogof (Mawrth-Hydref), yn cynnwys ceirw, ceffylau, a gwartheg. Ddechrau mis Awst cynhelir Ras Ceufadau rhyngwladol y Seya, sy'n denu cystadleuwyr o bob ran o'r byd. Mae'r ras yn dechrau yn Arriondas, 20 km lan yr fon, ac yn gorffen wrth y bont yn Ribeseya. Bydd cannoedd o filoedd o bobl yn tyrru i'r ddwy dref adeg 'Piragues', sef yn enw ar lafar.

Mae Llwybr Santiago yn croesi'r ardal o'r dwyrain i'r gorllewin, o Cuerres i Berbes. Y llwybr gogleddol, neu lwybr yr arfordir, yw hwn yn hytrach na'r brif lwybr. Ym mhentref Cuerres mae Ffair Gaws bwysig ar Awst 9fed.


  1. "Asturias: población por municipios y sexo". Cyrchwyd 6 Ionawr 2018.