Richard Bulkeley (bu farw 1573)

gwleidydd (1524-1573)

Roedd Syr Richard Bulkeley (1524 - 1573) yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Sir Fôn ym 1549, 1554 a 1571[1]

Richard Bulkeley
Ganwyd1524 Edit this on Wikidata
Bu farw1573 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd1547-1552, Aelod o Senedd Ebrill 1554, Aelod o Senedd 1554-55, Aelod o Senedd 1571 Edit this on Wikidata
TadRichard Bulkeley Edit this on Wikidata
MamCatherine Griffith Edit this on Wikidata
PriodAgnes Needham Edit this on Wikidata
PlantRichard Bulkeley (bu farw 1621), Lancelot Bulkeley, Arthur Bulkeley, of Coedan, Elis Bulkeley, Catrin Bulkeley Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn 1524, yn fab hynaf  Syr Richard Bulkeley, Barwnig, Biwmares, Canghellor a Siambrlen Gogledd Cymru a Catherine ferch Syr William Griffith, Penrhyn.[2]

Urddwyd ef yn farchog yn Berwick yn 1547 gan John, Iarll Warwick a Raglaw Byddin y Brenin yn yr Alban. Fe'i penodwyd yn Uchel Siryf Môn yn 1547, 1552 a 1561, ac Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1550 a 1558 a Custos Rotulorum Môn 1558-1572.

Bu'n briod ddwywaith: yn gyntaf a Margaret merch Syr Jonn Savage o Rock Savage, Swydd Gaer ac yn ail ag Agnes, merch hynaf Thomas Needham o Shenton. Bu ei fab hynaf Richard hefyd yn AS Sir Fôn, ei ail Fab Thomas yn AS Biwmares a bu ei fab ieuengaf Lawnslot,  yn Archesgob Dulyn 1619-1650.

Bu farw yn 1573, yn ôl pob tebyg wedi ei wenwyno gan ei ail wraig. 

Cyfeiriadau golygu

  1. Williams, William Retlaw, The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895 [1] adalwyd 21 Rhagfyr 2015
  2. The History of Parliament online BULKELEY, Sir Richard (by 1524-72), of Beaumaris, Anglesey[2]
Senedd Lloegr
Rhagflaenydd:
William Bulkeley
Aelod Seneddol Ynys Môn
15491549
Olynydd:
Lewis ab Owain ap Meurig
Senedd Lloegr
Rhagflaenydd:
William Lewis
Aelod Seneddol Ynys Môn
15541554
Olynydd:
William Lewis
Senedd Lloegr
Rhagflaenydd:
Richard Bulkeley
Aelod Seneddol Ynys Môn
15711571
Olynydd:
Lewis ab Owain ap Meurig