Richard Bulkeley Philipps Philipps

gwleidydd Prydeinig

Roedd Richard Bulkeley Philipps Philipps (7 Mehefin 18013 Ionawr 1857), ganwyd Richard Bulkeley Philipps Grant, yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig ac yn Aelod Seneddol dros etholaeth Bwrdeistref Hwlffordd rhwng 1826–35 a 1837–47 ac yn Arglwydd 1847–57.[1]

Richard Bulkeley Philipps Philipps
Ganwyd7 Mehefin 1801 Edit this on Wikidata
Bu farw3 Ionawr 1857 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 9fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Castell Picton, Cartref Arglwydd Aberdaugleddau

Bywyd Personol golygu

Roedd Richard Bulkeley Philipps Grant yn fab i John Grant, Begeli a Mary Philippa Artemisia Philipps; yr oedd ei mam o ach deulu Philipps Castell Picton ac fe etifeddodd Richard yr ystâd ar farwolaeth ei gefnder Richard Philipps, Barwn cyntaf Aberdaugleddau ym 1823 gan newid ei gyfenw i Philipps.

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Westminster.

Ym 1824 priododd ag Eliza merch John Gordon o Hanwell, Middlesex, bu hi farw ym 1852. Priododd am yr ail dro ym 1854 gyda'r Ledi Anne Jane Howard, merch William 4ydd Iarll Wicklow;[2] ni fu blant o'r naill briodas na'r llall.

Gyrfa wleidyddol golygu

Roedd William Henry Scourfield wedi bod yn cynrychioli Hwlffordd yn y Senedd ers 1818 dan nawdd y ddiweddar Arglwydd Aberdaugleddau fe ildiodd ef ei le yn etholiad cyffredinol 1826 i wneud lle i Philipps cael sefyll. Etholwyd Philipps yn ddiwrthwynebiad gan dal ei afael ar y sedd hyd 1835. Ym 1835 fe benderfynodd Jonathan Peel o Cotts, car i Robert Peel herio am enwebiad Rhyddfrydol Hwlffordd ar sail diffyg sylw Philipps i'w dyletswyddau seneddol a'i gyfnodau hir o absenoldeb o'i etholaeth trwy grwydro Ewrop. Gan ofni nad oedd modd iddo dal gafael ar y sedd fe dynnodd allan o'r ras gan roi ei gefnogaeth i'r ymgyrch llwyddiannus i ailethol y Ceidwadwr Scourfield. Yn etholiad 1837 ildiodd Scourfield y sedd eto er budd Philipps, cadwodd y sedd yn ddiwrthwynebiad hyd ei ddyrchafiad i Dŷ’r Arglwyddi ym 1847.

Fe wasanaethodd fel Arglwydd Raglaw Hwlffordd o 1824 hyd ei farwolaeth a bu'n Maer Hwlffordd ym 1829-30 a 1831-2. Cafodd ei urddo yn farwnig ym 1828 a'i ddyrchafu i'r bendefigaeth fel Barwn 1af Aberdaugleddau (ail greadigaeth) ym 1847.

Marwolaeth golygu

Bu farw yng Nghastell Picton ym 1857 yn 55 mlwydd oed, rhoddwyd ei weddillion i orwedd mewn claddgell deuluol yng nghôr Eglwys St Mair Hwlffordd.[3]

Cyfeiriadau golygu

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
William Henry Scourfield
Aelod Seneddol Hwlffordd
18261835
Olynydd:
William Henry Scourfield
Rhagflaenydd:
William Henry Scourfield
Aelod Seneddol Hwlffordd
18371847
Olynydd:
John Evans
Teitlau Anrhydeddus
Rhagflaenydd:
Syr Richard Philipps, Barwn 1af Aberdaugleddau
Arglwydd Raglaw Hwlffordd
1824 - 1857
Olynydd:
John Henry Scourfield
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig
Rhagflaenydd:
neb
Barwn Aberdaugleddau (ail greu)
18471857
Olynydd:
neb