Richard FitzAlan, 11eg Iarll Arundel

swyddog milwrol (1346-1397)

Uchelwr a milwr Seisnig oedd Richard FitzAlan, 11fed Iarll Arundel a 10fed Iarll Surrey (1346 – 21 Medi 1397). Bu Owain Glyn Dŵr yn rhan o'i osgordd am gyfnod.

Richard FitzAlan, 11eg Iarll Arundel
Ganwyd1346 Edit this on Wikidata
Bu farw21 Medi 1397 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethswyddog milwrol Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
TadRichard FitzAlan Edit this on Wikidata
MamEleanor Lancaster Edit this on Wikidata
PriodElizabeth de Bohun, Philippa de Mortimer Edit this on Wikidata
PlantThomas Fitzalan, Elizabeth Fitzalan, Joan de Beauchamp, Lady Margaret FitzAlan, Alice Fitzalan, John FitzAlan, Eleanor FitzAlan Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Gardas Edit this on Wikidata

Roedd yn fab i Richard FitzAlan, 10fed Iarll Arundel ac Eleanor o Lancaster. Olynodd ei dad fel Iarll yn 1376. Roedd ei frawd, Thomas Arundel, yn Archesgob Efrog o 1388 to 1397, yna'n Archesgob Caergaint.

Bu'n ymladd yn erbyn Ffrainc yn y Rhyfel Can Mlynedd; yn 1377 roedd yn llynghesydd y gorllewin a'r de. Ymosododd ar Harfleur yn 1378, ond yn aflwyddiannus; yn ddiweddarach, methodd ei ymgais ef a John o Gaunt i gipio Saint-Malo. Penodwyd ef yn llynghesydd Lloegr yn 1386, ac yn mis Mawrth 1387 gorchfygodd lynges o Ffrainc, Sbaen a Fflandrys mewn brwydr gerllaw Margate, brwydr yr ymladdodd Glyn Dŵr ynddi.

Roedd mewn cynghrair a Thomas o Woodstock, Dug Caerloyw, oedd yn gwrthwynebu dymuniad Rhisiart II, brenin Lloegr i roi dowedd ar y Rhyfel Can Mlynedd. Yn 1397, cymerwyd ef i'r ddalfa ar gyhuddiad o gynllwynio gyda Dug Caerloyw i garcharu'r brenin, a dienyddiwyd ef yn Llundain.