Richard Goodman Jones (Dic Goodman)

Bardd oedd Richard Goodman Jones (Dic Goodman) (20 Ionawr 1920 - 4 Mawrth 2013). Roedd yn frodor o Fynytho, penrhyn Llŷn, Gwynedd.

Richard Goodman Jones
GanwydRichard Goodman Jones Edit this on Wikidata
20 Ionawr 1920 Edit this on Wikidata
Mynytho Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mawrth 2013 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.dicgoodman.co.uk Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Richard yn 1920 i'w fam, Kate, a'i dad Richard a fu farw o fewn tri mis i enedigaeth Richard. Ailbriododd ei fam o fewn ychydig. Nid oedd gan Richard frodyr na chwiorydd, heblaw am ei gyfneither Margaret, ac oedd gystal a chwaer iddo.

Magwyd Richard yn Mynytho, lle yr aeth i Ysgol Foel Gron. Ni adawodd ardal ei fagwraeth. Yn 1952 priododd hefo Laura Ellen Jones, a daeth yn dad i ddau o blant, Sian a Dafydd. Bu Richard yn gweithio mewn llawer o swyddi, o werthu yswiriant i fod yn athro yn Ysgol Pont-y-Gof. Bu farw yng nghartref gofal Glyn Menai ar y 4ydd o Fawrth, 2013.

Gwaith llenyddol golygu

Yn ei flynyddoedd cynnar, yr oedd yn aelod adnabyddus o'r gymuned, yn aml yn cymryd rhan mewn eisteddfodau o gwmpas y wlad. Enillodd y gadair ychydig o weithiau. Cyhoeddodd lawer o lyfrau o'i farddoniaeth, yn cynnwys Hanes y Daith, a hefyd llyfr am y gofod. Roedd yn fwyaf adnabyddus am lunio englynion. Cyfeirir ato yn y Cydymaith i Lenyddiaeth. Gwelir peth o'i waith yn Awen Arfon.[1] Bu hefyd yn golygu Llen y Llanw.[2]

Llyfryddiaeth golygu

Ffynonellau golygu

  1. Gareth Neigwl - Perlau Dic Goodman yn y Faner Newydd 2013
  2. Gwefan penllyn.com - papur gydag ef yn olygydd. Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd Mai 2014.