Richard Gwyn (awdur Cymreig)

awdur o Gymru
Erthygl am yr awdur cyfoes yw hon. Am y bardd a reciwsant o'r 16eg ganrif Rhisiart Gwyn (Richard Gwyn).

Awdur a bardd Cymreig yw Richard Gwyn (ganwyd 22 Gorffennaf 1956) ym Mhont-y-pŵl. Mae ei waith, sydd yn Saesneg, wedi cael ei gyfieithu i nifer o ieithoedd ac mae wedi meithrin cysylltiadau llwyddiannus gyda chymunedau celfyddol a cherddorol Ewrop dros y blynyddoedd.[1]

Richard Gwyn
Ganwyd22 Gorffennaf 1956 Edit this on Wikidata
Pont-y-pŵl Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, academydd, cyfieithydd Edit this on Wikidata

Wedi iddo astudio Anthropoleg yn Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain, cychwynodd ar gyfnod o deithio estynedig ar draws Ewrop, gan fyw am gyfnodau yn Sbaen a Gwlad Groeg a gweithio ar longau pysgota ac fel llafuriwr amaethyddol. Ar ôl dioddef o salwch difrifol, dychwelodd i Gymru, lle'r astudiodd am ddoctoriaeth mewn ieitheg. Fe'i ysgogwyd gan ei brofiadau teithio i ysgrifennu, ac o ganlyniad, gyhoeddodd sawl llyfr o gerddi a rhyddiaith. Dros yr un cyfnod, ysgrifennodd ddau lyfr ar iechyd a salwch a'r amryw ffyrdd y mae iaith a diwylliant yn dylanwadu ar ein deatwriaeth o salwch. Bu'n astudio'r maes hwn am ddegawd. Ar hyn o bryd, mae'n dysgu ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae'n Gyfarwyddwr y rhaglen MA mewn Ysgrifennu Creadigol.[2] Mae ef wedi cyfieithu barddoniaeth o'r Sbaeneg a Chatalaneg ac mae'n adolygu llyfrau yn yr Independent.[3]

Enillodd ei gofiant, The Vabagond's Breakfast, wobr Llyfr y Flwyddyn yn y categori 'Ffeithiol Greadigol' yn 2012.[4]

Llyfryddiaeth golygu

Ffuglen golygu

Barddoniaeth golygu

Blodeugerddi golygu

Ffeithiol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan swyddogol Richard Gwyn". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2014-05-02.
  2. [1] Adalwyd 29/07/14
  3. literaturewales.orh Archifwyd 2014-05-22 yn y Peiriant Wayback.. Adalwyd 29/07/14
  4. artswales.org[dolen marw]. Adalwyd 29/07/14