Richard Holbrooke

Diplomydd, golygydd cylchgronau, awdur, athro, swyddog y Corfflu Heddwch, a bancwr buddsoddi o Americanwr oedd Richard Charles Albert Holbrooke (24 Ebrill 194113 Rhagfyr 2010). Ef oedd yr unig berson i ddal swydd Ysgrifennydd Tramor Cynorthwyol yr Unol Daleithiau dros ddau ranbarth gwahanol o'r byd (Asia o 1977 hyd 1981 ac Ewrop o 1994 hyd 1996). O 1993 hyd 1994, Holbrooke oedd Llysgennad yr Unol Daleithiau i'r Almaen. Yn ystod Rhyfel Bosnia, a gyda cyn-Brif Weinidog Sweden Carl Bildt, cyflafareddodd cytundeb heddwch rhwng y ffacsiynau yn Bosnia-Hertsegofina a arweiniodd at Gytundeb Dayton ym 1995. Rhwng 1999 a 2001, gwasanaethodd Holbrooke fel Llysgennad yr Unol Daleithiau i'r Cenhedloedd Unedig.

Richard Holbrooke
Ganwyd24 Ebrill 1941 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Bu farw13 Rhagfyr 2010 Edit this on Wikidata
Washington Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbanciwr, diplomydd, gwleidydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
SwyddAssistant Secretary of State for European and Eurasian Affairs, llysgennad yr Unol Daleithiau i'r Almaen, Assistant Secretary of State for East Asian and Pacific Affairs, United States Ambassador to the United Nations Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
PriodKati Marton Edit this on Wikidata
Gwobr/auCroes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Manfred Wörner Medal, Gwobr Rhyddid, Uwch Groesau Cadlywydd Urdd Gediminas, Uwch-ddug Lithwania, Cadlywydd gyda Seren Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Annenberg Award for Excellence in Diplomacy Edit this on Wikidata

Yn ystod ymgyrch etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau yn 2004 yr oedd Holbrooke yn ymgynghorydd i ymgyrch y Seneddwr John Kerry. Yn ymgyrch arlywyddol 2008 yr oedd Holbrooke yn ymgynghorydd polisi tramor i'r Seneddwr Hillary Rodham Clinton. Yn Ionawr 2009 penodwyd yn ymgynghorydd arbennig ar Pacistan ac Affganistan, dan yr Arlywydd Barack Obama a'r Ysgrifennydd Tramor Hillary Clinton. Bu farw ar 13 Rhagfyr 2010 o gymhlethdodau o ganlyniad i ddyraniad aortig.