Richard Owen

Biolegydd Cymreig (1804–1892)

Biolegydd, anatomegwr cymharol a phaleontolegwr oedd Richard Owen (20 Gorffennaf 180418 Rhagfyr 1892). Cafodd ei eni yng Nghaerhirfryn, yn fab ieuengaf i fasnachwr (o Fulmer Place, Berks) a oedd yn delio ag India'r Gorllewin. Yn 1792 y priododd ei rieni, a hynny yn Preston. Ef yn 1841 a fathodd y gair deinosor.

Richard Owen
Ganwyd20 Gorffennaf 1804 Edit this on Wikidata
Caerhirfryn Edit this on Wikidata
Bu farw18 Rhagfyr 1892 Edit this on Wikidata
Richmond Park, Llundain Edit this on Wikidata
Man preswylLloegr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Caeredin
  • Ysgol Ramadeg Frenhinol Lancaster
  • Barts and The London School of Medicine and Dentistry Edit this on Wikidata
Galwedigaethcuradur, biolegydd, paleontolegydd, swolegydd, academydd, anatomydd, paleoanthropolegydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Swyddcyfarwyddwr amgueddfa Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Amgueddfa Hanes Natur Llundain
  • Coleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr
  • Hunterian Museum
  • Hunterian Museum Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAmgueddfa Hanes Natur Llundain Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Marchog Cadlywydd Urdd y Baddon, Medal Brenhinol, Medal Copley, Medal Clarke, Medal Linnean, Bakerian Lecture, Croonian Medal and Lecture, Medal Wollaston, Pour le Mérite, Honorary Fellow of the Royal Society Te Apārangi Edit this on Wikidata

Addysg golygu

Bu ym Mhrifysgol Caeredin a choleg Bartholomew yn Llundain a chafodd swydd yng Ngholeg Llawfeddygon Llundain yn 1827.

Llyfrau golygu

Sgwennodd lyfr, Memoir on the Pearly Nautilus yn 1832, llyfryn a'i gododd i rengoedd uchaf anatomi cymharol led-led y byd. Fe'i gwnaed yn Athro yn yr adran Anatomi a Ffisioleg Cymharol yn 1832. Catalogodd sawl math gwahanol o anifeiliaid a ffosiliau a sgwennodd ychwaneg o lyfrau gan gynnwys:

  • History of British Fossil Mammals and Birds (1846),
  • History of British Fossil Reptiles (1849-1884),
  • Researches on Fossil Remains of Extinct Mammals of Australia (1877-1878),
  • Memoirs on Extinct Wingless Birds of New Zealand (1879).

Ei waith golygu

 
Richard owen; darganfyddwr y 'Deinosor'

Yn 1820 cafodd waith fel prentis i lawfeddyg.

Erbyn 1856 roedd yr anatomydd pwysicaf a mwyaf dylanwadol drwy Ewrop. Sicrhaodd arian, a chododd yn Ne Kensington amgueddfa newydd, sef The National Natural History Museum, a agorwyd yn 1881.

Anghytunodd yn hallt gyda Charles Darwin a'i syniadau newydd ynglŷn ag esblygiad. Credodd (yn gywir felly) os oedd modd dangos sut mae anifail wedi esblygu dros miliynau o flynyddoedd, y dylem hefyd weld olion o'r creaduriaid a esblygwyd yn ddeinosor. Hyd yma, nid oes yr un wedi ei ddarganfod.

Yn 1852 fe roddwyd iddo anrheg gan ffrind mynwesol iddo, y Frenhines Victoria, sef: Sheen Lodge ar Ystâd Richmond Estate lle y preswyliodd am weddill ei oes.

Ef hefyd (yn 1841) a fathodd y gair deinosor o'r Hen Roeg deinos ‘ofnadwy, arswydus’ a sauros ‘madfall’. Roedd yn gyfrifol am yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain rhwng 1856 ac 1883. Yn 1884 cafod ei wneud yn Farchog. Anatomeg cymharol oedd ei bwnc arbenigol.

Cyfeiriadau golygu

Dolennau allanol golygu