Richard Pryse

gwleidydd (1501-1623)

Roedd Syr Richard Pryse (tua 1561 - 7 Chwefror, 1623) yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceredigion yn Nhŷ'r Cyffredin ar sawl achlysur rhwng 1584 a 1622[1]

Richard Pryse
Ganwyd16 g Edit this on Wikidata
Gogerddan Edit this on Wikidata
Bu farw7 Chwefror 1623, 5 Chwefror 1623 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1584-85 Parliament, Member of the 1589 Parliament, Member of the 1593 Parliament, Aelod o Senedd 1601, Member of the 1614 Parliament, Member of the 1621-22 Parliament Edit this on Wikidata
TadJohn Pryse Edit this on Wikidata
LlinachTeulu Pryse Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Roedd Richard Pryse yn fab hynaf ac etifedd John Pryse, Gogerddan ac Elizabeth merch. Syr Thomas Perrot, Haroldstone, Sir Benfro. Cafodd ei dderbyn yn fyfyriwr yn y Deml Fewnol ym mis Tachwedd 1583 gan gymhwyso fel bargyfreithiwr.

Gwasanaeth Cyhoeddus golygu

Ym 1577 penodwyd Pryse yn aelod o Gyngor y Gororau. Bu'n Ustus Heddwch ar fainc Ceredigion o 1584 hyd ei farwolaeth. Roedd yn Comisiynydd oyer a terminer Cymru a'r Gororau o 1602 hyd ei farwolaeth (gwas y goron oedd yn penderfynu os oedd achos yn ddilys i'w glywed o flaen llys uwch)

Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceredigion ym 1584,1589, 1593, 1601, 1614 a 1621[2]

Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Ceredigion ym 1584 a 1604 ac fel Uchel Siryf Sir Drefaldwyn ym 1590. Ar 17 Ebrill 1604 fe'i gwysiwyd i Dŷ'r Cyffredin er mwyn egluro ei ymddygiad fel siryf y sir yn etholiad Bwrdeistrefi Ceredigion y flwyddyn honno. Cynhaliodd yr etholiad yn Aberystwyth lle'r oedd ei ddylanwad yn fawr yn hytrach nag yn Aberteifi, prif dref y sir a thref lle nad oedd dylanwad Gogerddan yn cyfrif. Etholodd bwrdeiswyr Aberteifi William Bradshaw fel AS ond etholodd bwrdeiswyr Aberystwyth Richard Delabere, yr ymgeisydd roedd Price yn ei ffafrio a chyhoeddodd Pryse Delaber yn fuddugol gan fod y Siryf hefyd yn swyddog canlyniadau etholiad cyhoeddodd Pryse mae Delaber oedd yn fuddugol. Penderfynodd y Senedd bod Price wedi ymddwyn yn llwgr ac c mae Bradshaw oedd yr Aelod dilys.[3]. Bu yn Custos Rotulorum Ceredigion rhwng 1590 a 1592 ac eto rhwng 1594 a 1623.

Bywyd Personol golygu

Roedd Price, yn noddwr amlwg o'r diwylliant barddol traddodiadol. Canwyd nifer o gerddi ac awdlau iddo gan ffigyrau barddol amlwg megis Lewys a James Dwnn, Huw Machno, Ieuan Tew a Siôn Cain.

Priododd Pryse Gwenllïan ferch Thomas Pryse ap Morris ap Owain ap Ifan, y Blaenau Aberbechan, Sir Drefaldwyn, bu iddynt 4 mab a 6 merch

Cafodd ei urddo'n farchog ym mis Gorffennaf 1603. Bu farw Pryse yn 1623, ac fe'i claddwyd yn Eglwys Llanbadarn Fawr.

Bu farw John ei fab hynaf a'i etifedd ychydig fisoedd o'i flaen ac etifeddwyd ystâd Gorddinan gan ei ŵyr Syr Richard Pryse barwnig cyntaf Gorddinan.

Cyfeiriadau golygu

Senedd Lloegr
Rhagflaenydd:
John Pryse
Aelod Seneddol Ceredigion
1584
Olynydd:
Griffith Lloyd
Rhagflaenydd:
Griffith Lloyd
Aelod Seneddol Ceredigion
15891593
Olynydd:
Thomas Pryse
Rhagflaenydd:
Thomas Pryse
Aelod Seneddol Ceredigion
1601
Olynydd:
Syr John Lewis
Rhagflaenydd:
Syr John Lewis
Aelod Seneddol Ceredigion
16141622
Olynydd:
James Lewys