Richard Vaughan (Corsygedol)

bonheddwr a gwleidydd Cymreig; etifedd Corsygedol

Roedd Richard Vaughan (tua 1665 - 28 Mawrth 1734) yn fonheddwr Cymreig a gynrychiolodd Meirionnydd yn Nhŷ'r Cyffredin am 33 o flynyddoedd[1]

Richard Vaughan
Ganwyd1665 Edit this on Wikidata
Corsygedol Edit this on Wikidata
Bu farw28 Mawrth 1734 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd Prydain Fawr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Senedd 1af Prydain Fawr, Aelod o Ail Senedd Prydain Fawr, Aelod o 3ydd Senedd Prydain Fawr, Aelod o 7fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 6ed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 5ed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 4edd Senedd Prydain Fawr, Aelod o Senedd 1701, Aelod o Senedd 1701-02, Aelod o Senedd 1702-05, Aelod o Senedd 1705-07 Edit this on Wikidata
PlantWilliam Vaughan (AS), Evan Lloyd Vaughan, Catherine Vaughan Edit this on Wikidata
LlinachTeulu Fychan Corsygedol Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

 
Corsygedol

Ganwyd Vaughan tua 1665 yn ail fab i William Vaughan, Corsygedol, Llanddwywe is y graig ac Anne ferch Griffith Nannau, y Nannau Llanfachreth. Cafodd ei hyfforddi yn Lincoln's Inn tua 1686.

Ar 10 Chwefror 1701 priododd Margaret, merch ac etifeddes Syr Evan Lloyd, ail farwnig Bodidris yn Iâl, bu iddynt dau fab a thair merch.[2]

Gyrfa wleidyddol golygu

Fel pob sedd Seneddol yn y cyfnod, ystyriwyd bod etholaethau "yn eiddo" i deulu blaenllaw o fewn yr etholaeth. Yn wreiddiol bu etholaeth Meirionnydd yn cael ei rannu rhwng teulu Wynn Rhiwgoch a theulu Price Rhiwlas. Trwy briodasau rhwng teuluoedd bonheddig y gogledd trodd sylw disgynyddion y ddwy ystâd fwyfwy at Siroedd Dinbych a Chaernarfon a thrwy briodasau lu rhwng teuluoedd Vaughan a Nannau cynyddodd eu dylanwad hwy yn Sir Feirionydd.[3]

Erbyn i Richard Vaughan cael ei ethol am y tro cyntaf roedd Meirion yn gadarn yn nwylo Corsygedol / Nannau. Bu ewythr Richard Vaughan, Huw Nannau, yn Aelod Seneddol yr etholaeth o 1695 i 1701, a pan fu farw ef ym 1701 etifeddodd Richard ei sedd gan ei ddal heb her am 33 mlynedd. Ar farwolaeth Richard ym 1734 gwasanaethodd ei fab William Vaughan fel yr Aelod Seneddol am y 34 mlynedd nesaf a mab arall iddo Evan Lloyd Vaughan am 17 mlynedd, a bu Syr Robert Williames Vaughan Nannau, ei gefnder, yn AS Meirion am 44 mlynedd.[4]

Er gwaethaf yr amser maith treuliodd yn y Senedd doedd o ddim yn aelod amlwg, bron yr unig ddeddfwriaeth iddo chware rhan amlwg yn ei daith drwy'r senedd oedd mesur preifat i sicrhau etifeddiaeth gweddw Hugh Nannau, modryb dwbl iddo (Nodyn: mae historyofparliamentonline.org[2] ac archive.org[4] yn galw Huw Nannau yn frawd yng nghyfraith iddo, ond brawd yng nghyfraith ei dad ydoedd). Mae'n debyg na thrafferthodd mynychu San Steffan am 15 mlynedd diwethaf ei aelodaeth, ac mae sôn bod Sarsiant Tŷ'r Cyffredin wedi ei ddanfon i Feirionnydd i'w hel i Lundain i egluro ei absenoldeb, ond bod cyfeillion Vaughan yn Nolgellau wedi dweud wrth y sarsiant bod yna corsydd peryg bywyd i'w tramwyo er mwyn cyrraedd Corsygedol; (nonsens llwyr, fel mae'r enw yn awgrymu, craig sydd rhwng Llanddwywe uwch y graig ger Dolgellau a Llanddwywe is y graig ger Dyffryn Ardudwy) a bu'n rhaid i'r swyddog dychwelyd i Lundain heb ei garcharor.[5]

Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Meirionnydd ym 1697 ac Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1699; bu'n gwnstabl Castell Harlech o 1704 i 1716

Etifeddodd ystâd Corsygedol ar farwolaeth ei frawd hŷn Griffith Vaughan ym 1697 a bu'n gyfrifol am ehangu a moderneiddio'r tŷ'n sylweddol[6].

Marwolaeth golygu

 
Eglwys Llanddwywe

Bu farw ym 1734 yn 68 oed a rhoddwyd ei weddillion i orffwys yn Eglwys Llanddwywe.

Cyfeiriadau golygu

  1. Y Bywgraffiadur VAUGHAN (TEULU) Corsygedol
  2. 2.0 2.1 'VAUGHAN, Richard II (c.1665-1734), of Cors-y-Gedol, Merion. 'The History of Parliament: the House of Commons 1690-1715
  3. Archif Sir Feirionydd Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd Cyf III Rhif II tud 128 The Parliamentary Representation of Merioneth During the Eighteenth Century
  4. 4.0 4.1 W R Williams The Parliamentary History of the Principality of Wales
  5. Edward Breese Kalendars of Gwynedd, Llundain 1873, tud 134
  6. J Beverley Smith a Llinos Beverley Smith History of Merioneth, Cyf II, Tud 454; Gwasg Prifysgol Cymru 2001 ISBN 0-7083-1709-X
Senedd Lloegr
Rhagflaenydd:
Hugh Nanney
Aelod Seneddol Meirionnydd
17011707
Olynydd:
Senedd Prydain Fawr
Senedd Prydain Fawr
Rhagflaenydd:
Senedd Lloegr
Aelod Seneddol Meirionnydd
17071734
Olynydd:
William Vaughan