Richard Wilson (arlunydd)

arlunydd golygfeydd natur

Arlunydd o Gymro oedd Richard Wilson (1 Awst 171415 Mai 1782).

Richard Wilson
Ganwyd1 Awst 1713, 1 Awst 1714 Edit this on Wikidata
Penegoes Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mai 1782 Edit this on Wikidata
Colomendy Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharlunydd, arlunydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLlyn-y-Cau, Cader Idris Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadClaude Lorrain, Francesco Zuccarelli Edit this on Wikidata
TadJohn Wilson Edit this on Wikidata
MamAlice Wynne Edit this on Wikidata

Cafodd ei eni yn rheithordy Penegoes, ger Machynlleth yn Sir Drefaldwyn. Roedd ei dad John Wilson yn rheithior yno ac wedi bod ym Mhrifysgol Rhydychen ac ef oedd yn ei ddysgu mae'n debyg. Roedd ei fam, Alice Wynne yn perthyn i nifer o deuluoedd bonheddig a chefnog yng Nghymru.

Aeth i Lundain yn llanc 16 oed at arlunydd o'r enw Thomas Wright i ddysgu sut i beintio portreadau dan nawdd Syr George Wynne, perchennog mwynglawdd ac yn perthyn i'w fam. Ymhen 6 blynedd sefydlodd ei fusnes ei hun yn peintio portreadau. Ar ôl ymweliad â'r Eidal (1749-1756), canolbwyntiodd ar dirluniau. Roedd yn arloeswr a fabwysiadodd arddull rhydd telynegol yn lle Clasuriaeth, gan baratoi'r ffordd i artistiaid diweddarach fel Gainsborough a Constable. Fe fu farw yng Ngholomendy, Sir Ddinbych.

Prif beintiadau golygu

Cyfeiriadau golygu

   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.