Richard Wyn Jones

academydd o Gymro

Academydd a sylwebydd gwleidyddol yw Richard Wyn Jones (ganwyd 26 Mai 1966). Yn 2009 cafodd ei benodi'n Gyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, sy'n adran o fewn Prifysgol Caerdydd ac sydd hefyd a chysylltiad partneriaethol â Senedd Cymru; mae'r Ganolfan wedi'i lleoli, bellach, yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd[1]

Richard Wyn Jones
Ganwyd26 Mai 1966, 1966 Edit this on Wikidata
Sunset Boulevard Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwyddonydd gwleidyddol, political pundit, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amMethiant Prifysgolion Cymru Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Fellow of the Academy of Social Sciences Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Mynychodd Ysgol Gyfun David Hughes cyn iddo ddilyn cwrs economeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1984. Graddiodd gyda BSc Econ ac yna MSc Econ mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1989.

Gyrfa golygu

Fe'i penodwyd yn Athro Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn Chwefror 2009. Cyn hyn roedd yn Gyfarwyddwr sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Mae wedi ysgrifennu'n helaeth ar wleidyddiaeth gyfoes Cymru, gwleidyddiaeth ddatganoledig a chenedlaetholdeb. Roedd yn un o sylfaenwyr Critical Security Studies. Ysgrifennodd golofn achlysuol yn Barn, a chyflwynodd ddwy gyfres deledu i'r BBC. Mae hefyd yn sylwebu'n gyson ar faterion gwleidyddol i'r BBC yn Gymraeg ac yn Saesneg[2].

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. cardiff.ac.uk; adalwyd 6 Rhagfyr 2020.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-10. Cyrchwyd 2016-01-15.

Dolen allanol golygu