Robbie Savage

Pêl-droediwr o Gymru

Mae Robert William Savage (ganwyd 18 Hydref 1974) yn gyn-bêl-droediwr a sylwebydd o Gymru. Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa yn chwarae yng nghanol cae, gan ddechrau yng ngharfan ieuenctid Manchester United cyn ymuno â Crewe Alexandria.

Robbie Savage
Ganwyd18 Hydref 1974 Edit this on Wikidata
Wrecsam Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Bryn Alyn Edit this on Wikidata
Galwedigaethpêl-droediwr, cyflwynydd chwaraeon Edit this on Wikidata
Taldra186 centimetr Edit this on Wikidata
PlantCharlie Savage Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auBirmingham City F.C., Derby County F.C., Crewe Alexandra F.C., Manchester United F.C., Blackburn Rovers F.C., Leicester City F.C., Brighton & Hove Albion F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru dan 21 oed Edit this on Wikidata
Saflecanolwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Chwaraeai yn gyson i Leicester City ar ddiwedd y 1990au a dechrau'r 2000au, ac yn ddiweddarach i Birmingham City a Blackburn Rovers. Ymunodd â Derby County F.C. yn 2008 ac, yn dilyn cyfnod byr ar fenthyg gyda Brighton & Hove Albion, dychwelodd i gapteinio Derby, gan orffen ei yrfa fel chwaraewr yno. Chwaraeodd i dim cenedlaethol Cymru 39 o weithiau. Mae bellach yn sylwebydd gyda'r BBC ac yn cyflwyno 606 yn rheolaidd ar BBC Radio 5 Live gyda'i gyd-sylwebydd Darren Fletcher.

Roedd Savage yn gystadleuydd, ac yn cyd-ddawnsio â'r ddawnswraig broffesiynol Ola Jordan, yn nawfed cyfres deledu Strictly Come Dancing yn 2011.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "'Strictly Come Dancing 2011: the sequinned contestants are revealed', The Guardian". 6 Medi 2011.
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.