Robert Blythe

Actor o Gymro

Actor o Gymro oedd Robert Blythe neu Bob Blythe (194720 Tachwedd 2018)[1] a fu'n fwyaf adnabyddus am chwarae 'Fagin' yn y gomedi sefyllfa Cymreig High Hopes. Fe'i ganwyd ym Mhort Talbot a fe'i magwyd ar Stryd Tan-y-Groes yn y dref.

Robert Blythe
Ganwyd1947 Edit this on Wikidata
Port Talbot Edit this on Wikidata
Bu farw20 Tachwedd 2018 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor teledu, actor llwyfan, cyfarwydd Edit this on Wikidata

Gyrfa golygu

Gweithiodd fel syrfëwr cyn iddo hyfforddi fel actor yng ngholeg Ymddiriedolaeth Addysgol y Celfyddydau (Arts Educational Trust) yn Llundain.[2]

Roedd ei waith theatr yn cynnwys tymhorau repertoire yn Theatr yr Haymarket, Leicester, Theatr y Sherman, Caerdydd, Playhouse Lerpwl, Theatr Connaught, Worthing, a Theatr y Grand, Abertawe. Fe wnaeth hefyd hefyd deithiau o amgylch y Dwyrain Pell, y Dwyrain Canol, India ac Ewrop, gyda sawl cynhyrchiad.

Roedd ei waith gyda'r Theatr Frenhinhol Genedlaethol yn cynnwys Henry IV, Rhan 1 a Rhan 2, Henry V, Mother's Clap's Molly House ac Under Milk Wood.

Roedd yn artist cyswllt gyda Clwyd Theatr Cymru lle roedd ei gredydau yn cynnwys, yn Life of Galileo, Barnaby and the Old Boys, Cabaret, Equus, Entertaining Mr Sloane, A Christmas Carol, The Journey of Mary Kelly, The Norman Conquests, King Lear, Bedroom Farce, The Rabbit, One Flew over the Cuckoo's Nest, A Chorus of Disapproval a An Inspector Calls.

Roedd gwaith theatr arall yn cynnwys Badfinger yn y Donmar Warehouse ac ar daith, Ghosts yn Theatr y Royal Exchange, Manceinion, House and Garden ar gyfer Alan Ayckbourn yn Theatr Stephen Joseph, Scarborough a Twelve Angry Men yn Theatr y Garrick, Llundain.[3]

Bywyd personol golygu

Roedd Blythe yn briod a'r actores Iola Gregory a chawsant ddwy ferch. Mae eu merch hynaf, Angharad Blythe yn awdur a chynhyrchydd teledu Rhian Blythe, yn actores. Priododd am yr eildro i Naomi a chawsant ddau fab.

Ffilmyddiaeth ddethol golygu

  • 1985 – Troubles and Strife (cyfres deledu)
  • 1994 – The Lifeboat (cyfres deledu)
  • 1999 – High Hopes (peilot)
  • 2002-2009 – High Hopes
  • 2007 – The Royal (cyfres deledu) (1 pennod)
  • 2007 – Midsomer Murders (cyfres deledu) (1 pennod)
  • 2006 – Casualty (cyfres deledu) (1 pennod)
  • 2005 – Doctors (cyfres deledu) (1 pennod)
  • 2004 – Little Britain (1 pennod)
  • 2004 – The Bill (1 pennod)
  • 2004 – Lie Still (Ffilm nodwedd)
  • 2011 – There Be Dragons (Ffilm nodwedd) cyf Roland Joffe

Cyfeiriadau golygu

  1. Marw actor ‘High Hopes’, Robert Blythe , Golwg360, 21 Tachwedd 2018.
  2. Video of blythe http://www.stagework.org.uk/webdav/harmonise@Page%252F@id=6006&Document%252F@id=692.html Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback.
  3. Fiona Mountford (12 November 2013). "Twelve Angry Men, Garrick Theatre - review". London Evening Standard. Alexander Lebedev/Evgeny Lebedev/Daily Mail and General Trust. Cyrchwyd 24 January 2014.

Dolenni allanol golygu