Robert Bryan

cyfansoddwr a aned yn 1858

Bardd Cymraeg, llenor a cherddor o blwyf Llanarmon-yn-Iâl, Sir Ddinbych oedd Robert Bryan (6 Medi 18585 Mai 1920).[1] Roedd yn frawd i J. D. Bryan, awdur llyfr taith bychan am yr Aifft.

Robert Bryan
Ganwyd6 Medi 1858 Edit this on Wikidata
Llanarmon-yn-Iâl Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mai 1920 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, cyfansoddwr Edit this on Wikidata

Cafodd Bryan ei addysg golegol yng Ngholeg y Normal, Bangor, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru a Rhydychen.

Cyhoeddodd dwy gyfrol o gerddi: Odlau Cân, casgiad o delynegion, a Tua'r Wawr, a gyhoeddwyd ar ôl ei farw. Ysgrifennodd nifer o erthyglau ar bynciau amrywiol i gylchgronau O. M. Edwards, yn enwedig Y Llenor.

Roedd yn gyfansoddwr dawnus a gyfansoddodd nifer o ddarnau cerddorol. Golygodd ddau ddetholiad o ganeuon dan y teitl Alawon y Celt.

Bu farw yn Cairo, yr Aifft.

Llyfryddiaeth golygu

Cerddi golygu

  • Odlau Cân (Llanuwchllyn, 1901)
  • Tua'r Wawr (1921)

Cerddoriaeth golygu

Fel golygydd:

  • Alawon y Celt (dwy gyfrol)

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.