Robert Evan Kendell

Seiciatrydd ac addysgwr o Gymro oedd yn byw yn yr Alban oedd Robert Evan Kendell, CBE (28 Mawrth 193519 Rhagfyr 2002).[1] Roedd yn Athro Seiciatreg ym Mhrifysgol Caeredin, yn Brif Swyddog Meddygol yr Alban o 1991 hyd 1996,[2] ac yn Llywydd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion o 1996 hyd 1999.[3]

Robert Evan Kendell
Ganwyd1935 Edit this on Wikidata
Rotherham Edit this on Wikidata
Bu farw2002 Edit this on Wikidata
o canser ar yr ymennydd Edit this on Wikidata
Man preswylCymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethseiciatrydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCBE, Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin, Fellow of the Royal College of Psychiatrists Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Ganwyd yn Rotherham, Sir Efrog, yn fab i ddaearegwr, a chafodd ei fagu yng Nghymru.[4] Mynychodd Ysgol Mill Hill yng ngogledd Llundain ac enillodd ysgoloriaeth i astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt. Enillodd gradd dosbarth cyntaf dwbl mewn gwyddorau naturiol. Astudiodd meddygaeth yn Ngoleg y Brenin a graddiodd gydag MB a BChir ym 1959. Cafodd ei ddoethuriaeth (MD) ym 1967.[1]

Gyrfa feddygol golygu

Ymchwil cynnar golygu

Roedd gwaith ymchwil Kendell yn canolbwyntio ar agweddau meddygol a seicolegol afiechydon meddwl. Cyfranodd at ddealltwriaeth seicosisau a dibyniaeth, yn enwedig sgitsoffrenia ac alcoholiaeth.[3] Roedd ei waith cynnar yn canolbwyntio ar hanes clinigol a chanlyniadau alcoholiaeth. Yn y 1980au tynodd sylw i'r ffactorau economaidd sy'n dylanwadu ar yfed alcohol, ac yn aml roedd yn beirniadu polisïau'r llywodraeth ar alcohol gan haeru nad oeddynt yn ddigonol wrth annog pobl i beidio ag yfed. Arloesoedd Kendell dechnegau holi adeiledig i wella diagnosis, a defnyddiodd ystadegau iechyd i lunio'r ffactorau risg ar gyfer sgitsoffrenia.[1]

Darlithydd ac athro golygu

Ym 1970 penodwyd yn ddarllennydd mewn seiciatreg yn Sefydliad Seiciatreg Llundain, ac yn seiciatrydd ymgynghorol mygedol yn ysbytai Brenhinol Bethlem a Maudsley.[1] Symudodd i Gaeredin ym 1974[3] ac roedd yn athro seiciatreg ym Mhrifysgol Caeredin o 1974 hyd 1991. Gydag Andrew Zealley, cyd-olygydd y trydydd a'r pumed argraffiad o'r Companion To Psychiatric Studies (1983–93), un o'r prif werslyfrau a ddefnyddir gan fyfyrwyr ar draws y byd.[1] Yn 1986 etholwyd Kendell yn Ddeon Cyfadran Feddygaeth y brifysgol, a sefydlodd cysylltiadau da rhwng y brifysgol a Bwrdd Iechyd Lothian, gan lwyddo i gytuno ar ail-adeiladu Ysbyty Brenhinol Caeredin yn ne'r ddinas.[3]

Prif Swyddog Meddygol yr Alban golygu

Roedd Kendell yn Brif Swyddog Meddygol i'r Swyddfa Albanaidd o 1991 hyd 1996. Roedd yn awyddus i ymdrin â nifer o heriau i iechyd cyhoeddus yn yr Alban, ond tynnwyd ei sylw gan ad-drefniant y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.[1] Yn ystod yr epidemig BSE, gwrthododd i fychanu'r cysylltiad rhwng BSE a vCJD, ac roedd hefyd yn ddylanwadol wrth sefydlu'r arfer o ddatgan canlyniadau clinigol gan ysbytai yn gyhoeddus.[3]

Aelodaethau ac anrhydeddau golygu

Roedd yn aelod o'r Cyngor Ymchwil Meddygol o 1984 hyd 1988 ac o 1991 hyd 1996, yn aelod o Gyngor Academi'r Gwyddorau Meddygol o 1998 hyd 2000, ac yn Llywydd y Gymdeithas er Astudiaeth Dibyniaeth. Daeth yn Gymrawd Coleg Brenhinol Meddygon Caeredin ym 1977 ac yn Gymrawd Anrhydeddus y Coleg ym 1995, ac yn Gymrawd Anrhydeddus Coleg Brenhinol Meddygon a Llawfeddygon Glasgow yn yr un flwyddyn.[3] Ym 1993 etholwyd yn gymrawd i Gymdeithas Frenhinol Caeredin. Penodwyd yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) ym 1992.[1]

Bywyd personol golygu

Roedd Kendell yn hoff o hwylio a cherdded. Priododd ei wraig Ann ym 1961 a chafodd ddau fab a dwy ferch. Bu farw yn sydyn o diwmor yr ymennydd yn 67 oed.[1][3]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 (Saesneg) Bouchier, Ian (18 Ionawr 2003). Obituary: Robert Kendell. The Guardian. Adalwyd ar 27 Mai 2013.
  2. (Saesneg) Obituary: Dr Robert Kendell. The Daily Telegraph (30 Rhagfyr 2002). Adalwyd ar 27 Mai 2013.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 (Saesneg) Obituaries: RE Kendell CBE J R Coll Physicians Edinb (2003); 33: t. 149.
  4. (Saesneg) Obituary: Robert Kendell. The Scotsman (30 Rhagfyr 2002). Adalwyd ar 27 Mai 2013.

Dolenni allanol golygu