Meddyg ac athronydd cyfriniol o Sais oedd Robert Fludd (Lladin: Robertus De Fluctibus; 15748 Medi 1637). Ysgrifennodd ddiffyniadau o Rosgroesiaeth, gweithiau diwinyddol, a thraethodau beirniadol ar wyddoniaeth o safbwynt yr ocwlt.

Robert Fludd
Ganwyd17 Ionawr 1574 Edit this on Wikidata
Milgate House Edit this on Wikidata
Bu farw8 Medi 1637 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethmeddyg, astroleg, cerddolegydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, mathemategydd, ffisegydd, athronydd, cyfriniwr Cristnogol, alchemydd, ocwltydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Coleg Brenhinol y Meddygon Llundain Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd i deulu cefnog yn Bearsted, Caint. Enillodd gradd baglor, gradd meistr, a doethuriaeth o Goleg Sant Ioan, Rhydychen, cyn iddo dreulio chwe mlynedd yn crwydro'r Cyfandir. Dychwelodd i Rydychen yn 1605 i astudio meddygaeth ac ymunodd â Choleg y Meddygon yn 1609. Gweithiodd yn feddyg yn Llundain.[1]

Syniadaeth golygu

Roedd Fludd yn ddilynwr brwd o Paracelsus a fe'i ysbrydolwyd yn gryf gan lên y Rhosgroesogion. Yn ei waith, cyflwynodd ddamcaniaeth ocwlt unedig ar sail dealltwriaeth gyfriniol o fathemateg, gwyddoniaeth, a meddygaeth. Gwrthwynebai Aristoteliaeth, Galeniaeth, ac athroniaeth fecanyddol, gan dynnu ar Lyfr Genesis, Hermetigiaeth, a Chabala i ddoethinebu ar bynciau natur a chrefydd. Dadleuodd Fludd yn erbyn rhesymoliaeth a syniadau newydd y Chwyldro Gwyddonol, gan ddibynnu ar hen wyddorau'r Oesoedd Canol megis alcemeg, sêr-ddewiniaeth, dewiniaeth sympathetig, rhifoleg, a llawddewiniaeth.[2]

Ffrae â Kepler golygu

Beirniadodd Johannes Kepler ei syniadau anwyddonol am y cosmos yn 1619, gan iddo ystyried bod angen astudiaeth fathemategol o'r bydysawd er mwyn ei ddeall yn hytrach na dadleuaeth astrus megis gwaith Fludd. Ymatebodd Fludd drwy ladd ar fathemateg Ewclid, yr hen Roegwr a osododd seiliau'r dulliau a ddefnyddid gan Kepler.[2]

Ffrae â Mersenne golygu

Yn 1623, cyhoeddodd yr athronydd Marin Mersenne feirniadaeth o ddewiniaid ac alcemegwyr, gan gynnwys Fludd, a'u cyhuddo o holl-dduwiaeth ac heresi. Amddiffynnodd Flud syniadaeth ei hunan a thraddodiad dewiniaeth yn gyffredinol.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Robert Fludd. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Chwefror 2019.
  2. 2.0 2.1 2.2 William E. Burns, The Scientific Revolution: An Encyclopedia (Santa Barbara, Califfornia: ABC-CLIO, 2001), tt.103–4.